Llanbedr Pont Steffan

Tref farchnad â hanes difyr o fasnach a dysg yw Llambed. Gallai rhywun ddadlau bod pob ffordd yn arwain i Lambed, a hithau’n gorwedd mewn man pwysig yn naearyddiaeth y de-orllewin lle gall teithwyr ddewis troi tua arfordir Bae Ceredigion neu barhau ar eu hynt i Fynyddoedd Cambria.


 

Gyda chanolfan fasnachol brysur sy’n darparu gwasanaethau i ardal eang, mae yno nifer o siopau annibynnol sy’n arbenigo mewn nwyddau i’r cartref, celf a chrefft, dillad, llyfrau, recordiau, a bwyd a diod. Bob pythefnos, bydd marchnad y ffermwyr yn dod i’r dref, ac mae yno gaffis da sy’n gweini cacennau cartref, hufen iâ Eidalaidd, a bwyd ffres o Gymru. Os y’ch chi’n siopwr brwd, beth am gael gafael ar gerdyn teyrngarwch y dref drawsnewid fywiog hon? Mae yno hefyd archfarchnadoedd, canolfan hamdden, pwll nofio, amgueddfa leol, a rhwydwaith rhagorol o lwybrau cerdded.

Sgiliau traddodiadol

‘Slawer dydd, roedd y diwydiant gwlân yn ffynnu yn nyffryn Teifi. I weld cynnyrch y traddodiad hwnnw, ewch i Ganolfan Cwiltiau Cymru yn Llambed i weld arddangosfeydd blynyddol o gwiltiau hanesyddol Cymru ochr yn ochr â chelf gyfoes mewn tair oriel. Gallwch chi hefyd gymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid a chrefftwyr i ddathlu crefft y cwiltwyr a chelf decstiliau gyfoes.

Ryw bedair milltir i ffwrdd yn Llwyn-y-groes, lle mae dyffryn Teifi a dyffryn Aeron yn cwrdd, fe gewch chi hyd i emporiwm Jane Beck sy’n llawn carthenni traddodiadol, hen a newydd, a gynhyrchwyd mewn melinau gwlân lleol.

Gerllaw, mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark lle gallwch chi fynd ar gyrsiau i ddysgu sgiliau a chrefftau gwledig, a mynd am dro ar hyd dolydd llawn bywyd gwyllt i’r llynnoedd a’r coedlannau. Ym Mydroilyn, gallwch chi ymweld â Gerddi Cae Hir lle cafodd tir amaethyddol ei drawsnewid yn erddi dros yr hanner canrif diwethaf.

Llambed: canolfan dysg

Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1822, fe adeiladwyd Coleg Dewi Sant (campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant erbyn hyn) o amgylch adfeilion hen gastell Normanaidd. Mae’r adeilad Sioraidd hardd yn seiliedig ar batrwm colegau Rhydychen a Chaergrawnt, gyda chwad, capel, llyfrgell, a phrif neuadd. Tan y 1970au, roedd yn goleg hyfforddi offeiriaid. Erbyn heddiw, mae’n arbenigo yn y Dyniaethau, gan ddarparu cyrsiau Archeoleg, Anthropoleg, Diwylliant yr Hen Aifft, Astudiaethau Clasurol, Athroniaeth, ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae’r coleg hefyd yn bwysig yn hanes rygbi Cymru, gan fod Athro wedi cyflwyno’r gêm i’r coleg yn y 1850au. Yn 1881, Llambed oedd un o’r aelodau a sylfaenodd Undeb Rygbi Cymru.

Yn ogystal a'r dylanwad eglwysig, mae Llambed yn ardal y 'Smotyn Du' capeli Undodiaid Cymru.  

Gwreiddiau hynafol

Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, bu’r Rhufeiniaid yn cloddio am aur yn Nyffryn Cothi, ger Llambed. Erbyn heddiw, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheoli Mwyngloddiau Aur Dolaucothi ym Mhumsaint, ac fe all ymwelwyr fynd yno i roi cynnig ar olchi aur drwy badell.  Yng nghoedwig Long Wood sy’n estyn tua’r gogledd ar y grib rhwng afon Teifi ac afon Dulas, mae cyfres o fryngaerau a rhwydwaith o lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau. Gallwch chi hefyd fynd am dro ar hyd llwybr cylchol drwy goedwig Caer Olwen, enw sy'n dwyn i gof un o chwedlau mawr y Maabinogion - Culhwch ac Olwen.

Mae afon Creuddyn ac afon Dulas yn ymuno ag afon Teifi yn Llambed. Mae nifer o ffyrdd hefyd yn cwrdd yn y dref. Roedd pum tollborth ar y ffyrdd hyn nes i bob un gael ei dinistrio un noson ym mis Awst 1843 yn ystod Gwrthryfel Beca.