Cerddoriaeth a pherfformio

Does dim dwywaith fod Ceredigion yn sir gerddorol. Mae’r Cardis yn creu, yn perfformio ac yn mwynhau cerddoriaeth o bob math mewn lleoliadau o bob math. Prin fod unrhyw gymuned yng Ngheredigion heb gôr. Mae Aberystwyth ei hun yn gartref i ddwsin o gorau ac ensemblau. Gallwch chi glywed cerddoriaeth fyw mewn tafarndai, neuaddau pentref, amgueddfa, castell, ac ambell gae hyd yn oed – ry'n ni'n sicr yn cynnal ein gŵyliau cerdd mewn lleoliadau gwych. Ac mae’r arlwy’n eang hefyd – o gerddoriaeth werin i gerddoriaeth glasurol, o gerddoriaeth roc a jazz i gerddoriaeth y byd.

 


Cerddoriaeth ddoe a heddiw yn Aberystwyth

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref Archif Sgrin a Sain Cymru sy’n cynnwys miloedd o recordiau, tapiau a chryno ddisgiau, gan gynnwys recordiadau o ddarllediadau byw. Mae casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn cynnwys sgorau a phapurau rhai o gyfansoddwyr mwyaf Cymru, fel William Mathias, offerynnau cerdd, ac alawon gwerin a gasglwyd gan unigolion a oedd yn gysylltiedig â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, fel Dr Meredydd Evans a oedd yn byw yng Nghwmystwyth ym Mynyddoedd Cambria.  

O bryd i’w gilydd, gallwch chi fwynhau perfformiadau cerdd byw yn y Drwm, theatr fach gyfforddus yng nghanol y Llyfrgell Genedlaethol.

Canolfan y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth yw un o brif leoliadau celfyddydol y sir. Mae’n llwyfannu cystadlaethau cenedlaethol fel Côr Cymru a Band Cymru, yn ogystal â chyngherddau gan gerddorfeydd a sêr adnabyddus. Am wythnos bob haf, bydd y Ganolfan hefyd yn gartref i MusicFest Aberystwyth, gŵyl gerddoriaeth ac ysgol haf sy’n gyfle i fwynhau rhaglen brysur o gyngherddau a datganiadau.

Yn nhref Aberystwyth, mae Amgueddfa Ceredigion yn trefnu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau Gwerin a Rŵts rheolaidd. Dafliad carreg i ffwrdd, mae Canolfan Arad Goch yn gartref i Gwmni Theatr Arad Goch sy’n cynhyrchu theatr o safon gan bobl ifanc ac i bobl ifanc. Mae’r Ganolfan bob amser yn ferw o weithgareddau a digwyddiadau celfyddydol. Ar y prom, mae bandstand Aberystwyth yn lleoliad poblogaidd ar gyfer rhaglen o berfformiadau dros fisoedd yr haf, yn ogystal â ffeiriau celf a chrefft a digwyddiadau cymunedol.

I gael copi o raglenni’r canolfannau a’r gŵyliau celfyddydol, ewch i Ganolfannau Croeso Ceredigion neu cliciwch ar y delweddau isod i fynd i wefannau’r canolfannau a’r gŵyliau eu hunain.

Aberteifi greadigol

Mae Castell Aberteifi’n lleoliad anarferol a chofiadwy ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau. Dros fisoedd yr haf, gallwch chi ymlacio ar lawnt y castell a mwynhau cerddoriaeth o bob math: roc a phop, gwerin a chlasurol.

Mae’r castell yn rhan o glwstwr o leoliadau ger yr afon yn Aberteifi. Yn yr haf, bydd Pizza Tipi yn cynnal digwyddiadau cerdd ac yn darlledu llif byw o Ŵyl Glastonbury. Ar y cornel gyferbyn â’r castell, fe welwch chi’r Cellar Bar. Yno, gallwch chi fwynhau cyngherddau a sesiynau mic agored, yn ogystal â sesiynau barddoniaeth a theatr.

Mae clwstwr o leoliadau perfformio ar ben arall tref Aberteifi hefyd. Yn Theatr Mwldan, fe gewch chi hyd i orielau, theatr a sinemâu. A hithau’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin, Theatr Mwldan sy’n trefnu rhaglen haf Castell Aberteifi hefyd. Mae hefyd yn gartref i Ŵyl Fawr Aberteifi – wythnos gyfan o gystadlaethau a chyngherddau.

Gerllaw, fe welwch chi Theatr y Byd Bychan, cartref cwmni theatr bypedau flaenllaw. Mae’r arlwy fan hyn yn eang, gan amrywio o berfformiadau bach a gweithdai llesiant i berfformiadau theatr proffesiynol a sioeau awyr agored trawiadol.

Lleoliadau eraill

A hithau’n dref farchnad ac yn dref brifysgol, mae sîn gerddoriaeth Llambed yn amrywiol dros ben, gyda cherddoriaeth fyw yn Neuadd Buddug, cyngherddau clasurol dan ofal Clwb Cerdd Llambed, a cherddoriaeth gysegredig, yn enwedig adeg y Nadolig, yn y capel prydferth ar gampws y Brifysgol.

Mae’r Pwerdy sy’n edrych dros afon Teifi yn Llandysul yn ganolfan fywiog lle gall ymwelwyr fwynhau dewis eang o gerddoriaeth a chelfyddyd.

Mae Theatr Felinfach yn nyffryn Aeron yn llwyfannu theatr Gymraeg, yn ogystal â chyngherddau a pherfformiadau teithiol.

Cadwch lygad am bosteri sy’n hysbysebu digwyddiadau mewn neuaddau pentref fel sioeau haf a sioeau pantomeim yn neuaddau coffa Aberaeron a Chei Newydd. Cadwch lygad hefyd am ddigwyddiadau arbennig ym Mhafiliwn y Bont.