Ysbrydion Ceredigion, a hanes twyllo’r Diafol

Does dim dwywaith bod Ceredigion yn sir dawel, ond mae yna sôn bod ysbrydion yn crwydro ein plasdai, ein mwyngloddiau a'n lonydd tawel. Beth am ymuno â storïwyr a helwyr ysbrydion Ceredigion i gael gwybod mwy? Mae llên gwerin Ceredigion yn cynnwys nifer o straeon am unigolion a lwyddodd i dwyllo’r Diafol. Yn eu plith mae un o straeon enwocaf Cymru sy’n gysylltiedig â hanes adeiladu pont gyntaf Pontarfynach.


Beth am i ni adrodd yr hanes? Amser maith yn ôl, roedd hen wraig yn byw ger ceunant dwfn Mynach, ac roedd ei buwch wedi crwydro i ochr draw’r afon. Doedd yr hen wraig ddim yn gallu croesi i’r ochr draw, ac fe ymddangosodd y Diafol a chynnig codi pont iddi yn gyfnewid am enaid y creadur cyntaf i groesi’r bont. Fe gytunodd yr hen wraig, ac fe adeiladodd y Diafol bont ar draws y ceunant.

Ond cyn iddi groesi’r bont, fe dynnodd yr hen wraig grwstyn o’i ffedog a’i daflu ar draws y bont. Fe redodd ei chi llwglyd ar ei ôl. Ac yntau wedi disgwyl cael enaid y wraig, dim ond enaid y ci, druan, gafodd y Diafol yn y pen draw. Ac fe gafodd yr hen wraig ei buwch yn ôl.

Erbyn heddiw, mae tair pont wedi’u codi, y naill ar ben y llall, ar draws ceunant Mynach ym Mhontarfynach.

Twyllo'r Diafol

Fe gafodd y Diafol ei dwyllo gan Dafydd Lwyd o Ysbyty Ystwyth hefyd. Yn gyfnewid am bŵer, fe gytunodd Dafydd y câi’r Diafol gipio ei enaid pan fyddai wedi ei gladdu tu mewn neu tu allan i wal y fynwent. Ond roedd Dafydd yn ŵr cyfrwys, ac roedd wedi nodi yn ei ewyllys y dylai gael ei gladdu o dan wal y fynwent. Drwy wneud hynny, fe gadwodd ei gytundeb â’r Diafol, ac fe lwyddodd i achub ei enaid oherwydd na chafodd ei gladdu tu mewn na thu allan i’r fynwent lle gallai’r Diafol ei gipio.

Mae mynwent Ysbyty Cynfyn, ger Pontarfynach, yn hirgron. Mae hyn yn aml yn arwydd bod y safle’n cael ei ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau yn y cyfnod cyn-Gristnogol. Fe welwch chi fod carreg fawr yn rhan o wal y fynwent. 

Yn Llanarth, ger Cei Newydd, maen nhw’n dweud bod y Diafol wedi ceisio dwyn un o glychau'r eglwys. Ond, gan fod y gloch mor drwm, fe fu'n rhaid i'r Diafol ei gollwng am eiliad, ac fe ddaliodd y ficer e yn ei weithred. Fe ddywedir bod man yn agos at yr eglwys lle na allwch chi glywed sŵn y clychau'n canu, a bod olion ar garreg fedd gerllaw a wnaed gan garnau’r Diafol wrth iddo ddianc.

Tybed allwch chi weld olion carnau’r Diafol, neu glywed y clychau’n canu?

Ysbrydion a bwganod

Mae nifer o straeon yn sôn am ysbrydion a bwganod ym mwyngloddiau arian a phlwm Mynyddoedd Cambria. Byddai'r mwynwyr eu hunain yn credu bod cnocwyr neu ysbrydion tanddaearol yn eu cynorthwyo i gael hyd i'r mwynau. Os ewch chi ar daith danddaearol yn atyniad y Silver Mountain Experience ym mwynglawdd Llywernog, cofiwch wrando'n astud i glywed sŵn cnocio. Os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr a chwilfrydig, beth am fynd yno adeg Calan Gaeaf neu fynd i hela ysbrydion yn ystod y penwythnos ymchwil paranormal blynyddol?

Mae gennym ni hefyd lawer o straeon am ganhwyllau cyrff — cymeriadau tebyg i fwci bo neu Jac y Lantern — yn ymddangos fel golau cannwyll yn hofran uwchben corsydd Ceredigion. Yn ôl y sôn, mae’n bosib adnabod yr ysbrydion hyn pan fyddan nhw'n croesi dŵr neu’n sefyll ym mhorth eglwys. Mae esboniadau mwy gwyddonol yn awgrymu bod y golau'n ymddangos pan fydd nwyon yn dianc o’r corsydd, neu fod rhai mathau o ffwng yn creu bioymoleuedd.

Mae pobl hefyd yn honni iddyn nhw weld ysbrydion yn carlamu ar geffylau ar draws rhostir Rhosmeherin ger Pontrhydfendigaid, a gweld angladdau lledrithiol ar lonydd unig. Fe ddywedir bod angladd ledrithiol – neu toili yng Ngheredigion – yn darogan y bydd angladd go iawn yn digwydd yn fuan. 

Yn ôl chwedlau lleol, mae ysbrydion rhyfedd wedi symud eglwysi cyfan dros nos. Mae un chwedl yn honni bod eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn i fod i gael ei hadeiladu ar safle arall, ond bod rhan o’r eglwys yn cael ei dymchwel bob nos tan i lais ysbryd gynghori’r adeiladwyr i’w chodi yng Ngenau’r Glyn. Mae chwedl debyg yn gysylltiedig â hanes adeiladu eglwys Llanwenog.

Yn ôl y sôn, mae ysbrydion yn crwydro rhai o blasdai Ceredigion hefyd. Mae plas Nanteos, ger Aberystwyth, yn westy cyfforddus erbyn hyn, ond mae ganddo hanes hir, felly dyw hi'n fawr ddim syndod bod ambell i ysbryd yn dal i grwydro’r lle. Yn eu plith mae mynachod canoloesol a ddaeth â’r Greal Sanctaidd i abaty Ystrad Fflur i’w gadw’n ddiogel, ac ysbryd telynor sy’n dal i ganu ei delyn mewn coedwig gyfagos, yn ôl y sôn. 

Mae ysbryd go anarferol yn byw yng nghastell Aberteifi – ysbryd epa Barbari a gafodd ei achub o long Sbaenaidd a oedd wedi dryllio gan Syr Rowland Rees, un o breswylwyr castell Aberteifi yn ystod y 19eg ganrif. Un noson stormus, fe laddwyd Syr Rowland yn ystod dadl am briodas ffo ei unig fab â merch masnachwr lleol. Welodd neb mo’i epa dof ar ôl hynny… ac eithrio pan fyddai ei ysbryd yn ymddangos ar noson stormus.

Mae rhai wedi gweld ysbryd mwy diweddar ym Mynyddoedd Cambria. Heb fod ymhell o safle damwain awyren filwrol ar lethrau Pumlumon Cwmbiga, mae gyrwyr ar ffordd yr A44 yn honni iddyn nhw weld awyren yn hedfan yn isel uwch eu pen, ond doedd dim smic o sŵn yn dod ohoni. Wrth gwrs, bydden ni bob amser yn argymell eich bod yn cadw'ch llygaid ar y ffordd!