Ymweld â gerddi Ceredigion

Gyda’i hinsawdd fwyn a’i phridd asidig, mae Ceredigion yn lle perffaith i arddwyr creadigol. Mae garddwyr a meithrinwyr planhigion Ceredigion yn deall y dirwedd, y tywydd a’r hinsawdd i’r dim. Ac maen nhw wedi llenwi rhai lleoliadau annisgwyl â phlanhigion o bob lliw a llun. Mae pob gardd hefyd yn noddfa i fywyd gwyllt.


Gerddi muriog Ceredigion

Roedd gan y rhan fwyaf o blasau Ceredigion erddi â waliau muriog – gerddi â waliau o’u hamgylch – i sicrhau bod cynnyrch a blodau ffres ar gael i’r plas a’i geginau.

Llanerchaeron 

Mae gerddi muriog Llanerchaeron wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd. Erbyn hyn, mae dros 50 o wahanol fathau o afalau yn tyfu yn Llanerchaeron, gan gynnwys afalau cynhenid Cymru. O fewn y waliau, fe welwch chi erddi cegin cynhyrchiol, coed ffrwythau hynafol, olion technegau garddio a ddefnyddiwyd drwy oes yr ardd, borderi llysieuol, a gardd berlysiau hyfryd.

Bu’r gerddi a fferm yr ystad yn gwasanaethu’r plas sy’n dyddio o’r 18fed ganrif. Y plas a gynlluniwyd yn y 1790au yw’r enghraifft fwyaf cyflawn o waith cynnar y pensaer John Nash. Wrth ymyl y plas, mae iard gwasanaethau sy’n cynnwys llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu.

Mae’r tir yn gefndir pwysig i fila Nash, gyda llyn addurniadol a pharcdir wedi’i blannu’n ofalus i wneud i’r plas ymddangos fel pe bai’n swatio yn y dirwedd. Mae’r rhain yn cael eu hadfer yn ofalus er mwyn iddyn nhw adennill bri oes y Sioriaid.

Mae Llanerchaeron yn cynnal digwyddiadau arbennig a gweithgareddau garddio a ffermio tymhorol drwy gydol y flwyddyn.

Tŷ Glyn Aeron

Ar ben pellaf llwybr sy'n disgyn yn raddol drwy'r goedwig, mae gardd furiog Tŷ Glyn Aeron, gardd a gafodd ei hadfer yn ddiweddar. Wrth i chi gerdded drwy’r goedwig, fe ddowch chi’n gyntaf at lannerch lle mae llawer o fylbiau’r gwanwyn wedi’u plannu, gan gynnwys eirlysiau, blodau’r gwynt, a chlychau’r gog. O fewn waliau’r ardd, mae’r lefel isaf yn cynnwys borderi llysieuol, perllan wedi’i hadfer, a gardd gegin. Fe gafodd y coed ffrwythau a’r planhigion eu dewis ar sail cofnodion yn llyfr nodiadau un o arddwyr Tŷ Glyn yn y 19eg ganrif.

Mae ambell i syrpreis ymysg y llwyni a’r planhigion lluosflwydd anarferol, fel offerynnau cerdd sy’n cael eu chwarae gan y gwynt a’r glaw. Mewn cyferbyniad â llonyddwch a lliwiau tawel y goedwig a gwelyau cysgodol yr ardd, mae’r gwelyau teras sy’n wynebu’r de yn llawn planhigion llachar.

Mae gerddi Tŷ Glyn Aeron ar agor drwy gydol y flwyddyn. Does dim tâl mynediad. Mae’r gerddi’n rhan o Ymddiriedolaeth Tyglyn sy’n cynnal diwrnodau codi arian arbennig drwy’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Gall pobl sy’n defnyddio cadair olwyn neu gŵn cymorth fynd i’r gerddi.

Castell Aberteifi

Pan nad oedd ei angen mwyach fel amddiffynfa na charchar, fe gafodd cwrt allanol castell canoloesol Aberteifi ei drawsnewid yn ardd gegin. Yn y 18fed ganrif, fe gafodd rhannau o’r llenfur rhwng y ddau dŵr eu dymchwel i greu gardd grog, ac fe gafodd y cwrt mewnol ei dirlunio i’w ddefnyddio fel lawnt fowlio. Yn gynnar yn y 19eg ganrif, fe adeiladwyd tŷ newydd yno, Castle Green House. Yn ystod yr 20fed ganrif, fe aeth muriau, tŷ a thir y castell rhwng y cŵn a’r brain. Ond mae’r cyfan wedi’i adfer erbyn hyn, ac mae’r gerddi gystal ag y buon nhw erioed.

Mae’r llwyni bytholwyrdd a’r llwyni celyn o ardd cyfnod y Rhaglywiaeth yn dal i fod yno. Ac mae’r safle dwy erw uwchlaw afon Teifi yn cynnwys dros 130 o blanhigion gwahanol, gan gynnwys derwen Twrci fawr, ffawydden goprog, llus yr eira, a chasgliad pwysig o fathau cynnar o gelyn.

Cadwch lygad am y bwa o asgwrn morfil. Fyddai’r un ardd o’r 19eg ganrif yn gyflawn heb un o’r rheini. Nodweddion anarferol eraill yw’r gaer a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r gadair enfawr – lle poblogaidd i dynnu llun – sy'n atgof o'r Eisteddfod gyntaf erioed a gafodd ei chynnal yng nghastell Aberteifi.

Caehir - gardd â’i gwreiddiau yn yr Iseldiroedd

A hithau’n ardd sy’n bartner i’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, fe gafodd gardd Cae Hir ei datblygu ar dri chae pori garw yn y 1980au gan Wil Akkermans, gŵr o’r Iseldiroedd â garddio yng ngwaed ei deulu ers y 18fed ganrif. Yno, mae wedi cyfuno planhigion gwyllt a phlanhigion gardd, a phlannu llu o flodau cyffredin i greu golygfeydd anghyffredin. Fe gewch chi hyd i ardaloedd sy’n seiliedig ar liw, casgliad o blanhigion bonsai, meini a llechi, a nodweddion ffurfiol arloesol. Ar ochr y bryn, mae gerddi addurniadol Cae Hir yn estyn dros chwe erw, gyda nant yn ymlwybro ar eu hyd i fwydo’r gerddi dŵr a phlanhigion amrywiol y corsydd

O batio heulog yr ystafell de, fe gewch chi fwynhau golygfeydd gwych dros y dyffryn. Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yno, gan gynnwys ffair blanhigion ym mis Mai ac arddangosfa gwiltiau ym mis Awst.

Gerddi'r mynyddoedd

Efallai bod rhai o arddwyr arloesol Ceredigion wedi creu gerddi tlws ar gaeau agored, ond mae eraill wedi trawsnewid safleoedd annisgwyl ar rostiroedd agored a llethrau serth yn hafanau hardd sy'n ddigon o ryfeddod.

Bwlch y Geuffordd 

Ar ben lôn gul, fil o droedfeddi uwchlaw lefel y môr ar lethrau dwyreiniol y Mynydd Bach, fe gewch chi hyd i erddi Bwlch y Geuffordd, safle naw erw â choetir a rhostir o’i amgylch. Mae yno dair erw o erddi, gyda phyllau, rhaeadrau a llefydd llaith, yn ogystal ag ardaloedd sych a phoeth, pob un yn llawn planhigion lliwgar o bob math. Mae bywyd gwyllt yn ffynnu yn y cynefinoedd gwahanol hyn, gan gynnwys beleod, llygod dŵr, dyfrgwn a madfallod.

Yma ac acw drwy’r gerddi, fe welwch chi gerfluniau a strwythurau diddorol, yn ogystal â llecynnau llonydd lle gallwch chi ymlacio, myfyrio neu sgetsio. Fe gaiff plant oriau o hwyl yn chwarae yn yr ardd antur lle mae yna offerynnau cerdd, cuddfan helyg, ogof, ac ambell syrpreis fel dreigiau, jyngl a chwt Affricanaidd.

Mae’r gerddi ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond mis Mai tan fis Hydref yw’r misoedd gorau i ymweld  â nhw. Mae’r gerddi’n rhan o gynllun gerddi agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Pantyfod

Fil o droedfeddi uwchlaw lefel y môr, ar lethr sy’n wynebu’r gorllewin, fe gewch chi hyd i erddi tawel Pantyfod. Wedi’u sefydlu dros gyfnod o 30 mlynedd, mae’r gerddi’n estyn dros safle tair erw a hanner uwchlaw dyffryn Teifi. Gallwch chi gerdded ar hyd llwybrau graean o fwthyn y perchnogion at fan lle cewch chi olygfeydd panoramig dros y dyffryn a’r mynyddoedd tu hwnt.

Mae nifer o ficrohinsoddau yn y gerddi, gan gynnwys llethrau a therasau heulog, llennyrch, llynnoedd, a gerddi corslyd. Mae yno blanhigion amlflwydd prin ac anarferol, llwyni blodeuog persawrus, coed, a gwelyau trofannol. Mae yno hefyd ardd gaeedig â phlanhigion synhwyraidd.

Mae gerddi Pantyfod yn noddfa i fywyd gwyllt ac yn lle perffaith i dynnu lluniau, sgetsio a phaentio. Mae croeso i ymwelwyr ddod â phicnic gyda nhw. Gall ymwelwyr hefyd gysylltu ymlaen llaw i archebu pizzas a fydd yn dod yn syth o’r ffwrn goed. (Rhaid archebu ymlaen llaw.)

Mae'r gerddi ar agor bob prynhawn Sadwrn o fis Mai tan fis Medi. Diwrnodau agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Dyddiau ac amseroedd eraill ar gael drwy drefniant. Lluniaeth ar gael drwy drefniant ymlaen llaw. Neu beth am ddod â phicnic? 

Gerddi creadigol 

Mae pob gardd yn gampwaith creadigol ynddi’i hun – planhigion o bob lliw a llun, technegau tirlunio trawiadol, defnydd dyfeisgar o ddŵr, a nodweddion neilltuol o bob math. Mae rhai’n fwy llachar a lliwgar na’i gilydd. Ac mae gan bob un ei naws ei hun. Ond mae rhai’n mynd â’u syniadau creadigol gam ymhellach.

Sculptureheaven

Fe gafodd cae dwy erw a hanner yn Rhydlewis ei drawsnewid yn ardd gerfluniau o’r enw Sculptureheaven. Ochr yn ochr â phlanhigion lliwgar, mae yno gerfluniau o garreg a phren sydd wedi’u hysbrydoli gan fytholeg a’r cynfyd – o’r Dynion Gwyrdd a Duwies y Ddaear i’r Bwda. Ewch yno i weld Tŷ’r Angylion, y Llwyni Cerddin, a Labrinth y Cewri.

Ar y safle, mae yna weithdy cerflunio a siop anrhegion apothecari hefyd. Gallwch chi fwynhau cacennau cartref a lluniaeth yn yr ystafell haul. Mae Sculptureheaven ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau rhwng 11am a 5pm o fis Ebrill tan ddiwedd mis Hydref, ac ar bob penwythnos gŵyl y banc. Dyddiau ac amseroedd eraill drwy apwyntiad. Mynediad am ddim. Croeso i gŵn ar dennyn.

Llanllyr - gardd Geltaidd

Mae gardd Llanllŷr wedi’i lleoli ar safle lleiandy Sistersaidd a gafodd ei sefydlu gan yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth yn 1180. Mae’r groes Geltaidd gynnar yn yr ardd yn atgof o orffennol y safle.

Mae Llanllŷr wedi bod ym meddiant y teulu presennol ers 1720, ac fe gafodd yr ardd bresennol ei datblygu dros gyfnod o 30 mlynedd ar safle gardd gynharach o’r 19eg ganrif. Ynddi, mae yna ardd furiog o oes Fictoria, gardd ddŵr ffurfiol a phwll mawr, gardd gorslyd, borderi rhosynnau a llwyni, deildy o dresi’r haul, yn ogystal â labrinth alegoraidd â phlanhigion anarferol. Mae’r gerddi ar agor ar ddiwrnodau agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, a thrwy drefniant ymlaen llaw o fis Ebrill tan fis Hydref.


Gerddi anghyfredin

Mae gerddi Ceredigion yn amrywio o erddi bach twt i erddi mawr ysblennydd. Mae yma hefyd erddi arbenigol, fel gardd liwiau Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre yn nyffryn Teifi, a gardd glöynnod byw yng Nghwm Rheidol.

The Magic of Life - tŷ a gardd glöynnod byw 

Glöynnod byw yw prif atyniad The Magic of Life yng Nghwm Rheidol, ger Aberystwyth. Mae’r tŷ glöynnod byw yn gartref i rai o löynnod byw mwyaf a harddaf y byd. Ac mae’r casgliad helaeth o blanhigion lliwgar persawrus yn y tŷ glöynnod byw yr un mor egsotig â’r creaduriaid eu hunain. Yn eu plith mae coed banana, hibisgws, planhigion adar paradwys, blodau’r dioddefaint, blodau’r angel, a thros 30 math gwahanol o goed mêl.

Tu allan yng ngardd y glöynnod byw cynhenid, fe welwch chi blanhigion o bob lliw a llun sy’n denu glöynnod byw. Erbyn hyn, mae llawer o’r glöynnod byw yn cael eu magu ar y safle gan y botanegydd a’r ecolegydd coedwigoedd glaw, Neil Gale. Mae’r staff bob amser wrth law i adrodd hanesion y planhigion a’r pryfed difyr hyn.

Gardd liwiau Amgueddfa Wlân Cymru

Prosiect cymunedol ar y cyd rhwng Amgueddfa Wlân Cymru, Clwb Garddio Drefach Felindre, a Grŵp Eco Ysgol Penboyr yw’r ardd liwiau. Bob blwyddyn, bydd Grŵp yr Ardd Liwiau yn dewis planhigion a fydd yn ddigon o sioe ac yn creu posibiliadau diddorol wrth fynd ati i liwio gwlân. Gyda chymorth plant yr ysgol gynradd leol, bydd y pridd yn cael ei baratoi, yr hadau’n cael eu hau, a’r planhigion yn cael eu plannu.

Wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, bydd y blodau, y dail a’r gwreiddiau’n cael eu cynaeafu a’u sychu neu’u rhewi yn barod i’w defnyddio i liwio gwlân yn yr hydref.

Gardd fotaneg fach Aberystwyth

Mae casgliad o blanhigion diddorol ac anarferol ar gampws Prifysgol Aberystwyth. Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw adran fwyaf y Brifysgol, ac mae ganddo safleoedd ar hyd a lled Aberystwyth a’r cylch. Ar un o’r safleoedd hynny ar Riw Penglais, mae yna gyfres o dai gwydr botanegol a gafodd eu sefydlu yn y 1940au.

Ymhlith y planhigion mae cnydau bwyd trofannol cyffredin fel banana, pinafal, siocled a choffi, planhigion hynafol a fyddai’n bwydo’r deinosoriaid, planhigion sy’n bwyta pryfed, tegeiriannau, a llawer o blanhigion addurniadol eraill, fel planhigion dŵr. Heb anghofio coedredynen – planhigyn mwyaf y casgliad.

Gall myfyrwyr ac ymwelwyr ymweld â’r tai gwydr yn ystod oriau gwaith (fel arfer rhwng 9.00am-1.00pm a 2.00pm-4.00pm) o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Rhaid i chi gerdded drwy’r sied botiau i gyrraedd y tai gwydr!