Rheilffordd Cwm Rheidol
Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cysylltu Aberystwyth â Phontarfynach, gan ddilyn llwybr trawiadol drwy Gwm Rheidol. Ar ôl ymlwybro ar hyd dolydd yr iseldir, mae’r trên stêm yn pwffian ei ffordd i fyny’r llethrau coediog, gan roi cyfle i’r teithwyr fwynhau golygfeydd heb eu hail o’r llynnoedd a’r rhaeadrau. Mae’r trên yn galw mewn gorsafoedd bychain lle gallwch fynd am dro i weld Rhaeadrau Rheidol, gorsaf bŵer trydan-dŵr Cwm Rheidol gyda’i chanolfan ddŵr, ei chronfa ddŵr a’i grisiau pysgod, a’r Tŷ Glöyn Byw drws nesaf. Beth am gerdded rhan o’r ffordd drwy’r coed i’r orsaf nesaf, a mwynhau picnic ar lan yr afon?
O orsaf Pontarfynach,wrth gwrs, gallwch fynd i weld y pontydd enwog dros Raeadr Mynach.
O bryd i’w gilydd, bydd Rheilffordd Cwm Rheidol yn trefnu teithiau a digwyddiadau arbennig lle gallwch wisgo gwisg ffansi a mwynhau cerddoriaeth fyw ar y siwrnai. Bydd hefyd yn trefnu trenau arbennig adeg Gŵyl Calan Gaeaf a’r Nadolig. Gallwch hefyd roi cynnig ar yrru’r trên stêm!
O Lein Arfordir y Cambrian i Drenau Bach Arbennig Cymru
Bob awr, mae trenau’n teithio o Lundain a chanolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth i Aberystwyth. Lein Arfordir y Cambrian yw un o reilffyrdd mwyaf prydferth Ynysoedd Prydain ac, o Fachynlleth, mae’n dilyn Ffordd yr Arfordir tua’r de-orllewin i Aberystwyth, ac i’r gogledd ar hyd arfordir Meirionnydd i Bwllheli ym Mhen Llŷn. Ar hyd y rheilffordd hon, gallwch aros ac ymweld â rhai o reilffyrdd bach Cymru.
Fe gafodd straeon Tomos y Tanc eu hysbrydoli gan Reilffordd Tal-y-llyn. I deithio yno heb gar o Aberystwyth, gallwch ddal trên Lein Arfordir y Cambrian drwy Gyffordd Dyfi neu Fachynlleth i Dywyn. Yno, gallwch ddal y trên stêm i Abergynolwyn dan gysgod Cadair Idris. Ychydig ymhellach i’r gogledd, rhwng llethrau Cadair Idris ac aber afon Mawddach, mae Rheilffordd y Frïog.
Awydd mentro ychydig ymhellach? Os felly, beth am deithio ar hyd Lein Arfordir y Cambrian drwy Harlech i Borthmadog cyn dal trên stêm Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru i ganol mynyddoedd Eryri?
Dewis arall yw teithio i’r dwyrain ar hyd Lein y Cambrian i’r Trallwng lle gallwch fynd am daith ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion.
Crwydro arfordir Ceredigion gyda bws y Cardi Bach
Mae gwasanaeth bws y Cardi Bach yn ddelfrydol i rai sy’n cerdded Llwybr Arfordir Ceredigion neu i rai sydd am dreulio diwrnod ar y traeth heb fynd â’r car. Mae bws y Cardi Bach yn cludo teithwyr rhwng Aberteifi a'r Cei Newydd drwy gydol y flwyddyn, gan alw ym mhentrefi gwyliau poblogaidd Aberporth, Tre-saith, a Llangrannog.
Mae’r bws hefyd yn ffordd gyfleus o ymweld â thraethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Mwnt, Penbryn a Chwmtydu.
Crwydro cymunedau Ceredigion ar fws
Awydd diwrnod heb gar yng Ngheredigion? Wel, dyma rai syniadau i’ch helpu i gynllunio siwrnai o’n prif drefi ar fws. Gall gwasanaethau bws Ceredigion fynd â chi i’n trefi a’n pentrefi gwledig, a’ch cludo ar hyd yr arfordir lle gallwch gerdded Llwybr yr Arfordir. Ble bynnag ewch chi, bydd y golygfeydd yn werth eu gweld.
Crwydro cefn gwlad canol Ceredigion
O Aberystwyth, gallwch ddal bws rhif 585 sy’n teithio drwy Langeitho, Tregaron, Llanddewi Brefi a Chellan i Lambed. Ar y ffordd, cewch weld llefydd lle bu’r porthmyn yn casglu defaid a gwartheg ynghyd cyn dechrau ar eu siwrnai dros y mynyddoedd i farchnadoedd Lloegr. I gael blas ar yr hen lwybrau hyn, beth am fynd am dro ar hyd llwybrau cerdded sy'n dechrau yn y trefi a’r pentrefi hyn?
Mae bws rhif 588 hefyd yn cysylltu Aberystwyth â Llambed, gan deithio dros y Mynydd Bach, drwy gymunedau bach Trefenter a Bethania, i Langeitho, Llanio a Llangybi yn nyffryn afon Dulas.
Mae bws T1 TrawsCymru hefyd yn teithio o Aberystwyth i Lambed, gan ddilyn yr arfordir drwy Lanrhystud a Llannon i Aberaeron, cyn troi tua’r wlad a theithio drwy Ddyffryn Aeron i Felin-fach ac i Lambed.
Ymweld â Dyffryn Teifi
Beth am ddal bws rhif 460 i grwydro ar hyd gwaelod Dyffryn Teifi o Aberteifi, gan ymweld â rhaeadrau Cenarth, tref farchnad Castellnewydd Emlyn, ac Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre? Neu beth am ddal bws rhif 551 neu 552 i deithio drwy’r wlad i Landysul, ac yna nôl i’r arfordir yng Nghei Newydd?
Biosffer Dyfi
I ddarganfod ardal Biosffer Dyfi, gallwch deithio ar y trên o Aberystwyth i Fachynlleth. Gallwch alw yn y Borth i ddarganfod Cors Fochno, coedwig danddwr Cantre’r Gwaelod, afon Leri, a thwyni tywod Ynys-las? Yna, gallech deithio ar y trên i Aberdyfi ar ochr arall yr aber lle gallwch chwilio am y gloch sy’n canu adeg penllanw.
O Fachynlleth gallwch ymweld a Chanolfan y Dechnoleg Amgen - mae bysus TrawsCymru yn pasio pen y ffordd yn rheolaidd. Gam ymhellach mae Corris, lle mae Rheilffordd fu gynt yn cario llechi o'r cloddfeydd, yn cael ei hadfer, ac ym mherfeddion y mynydd a gloddwyd mae atyniad Labyrinth y Brenin Arthur, ger Canolfan Grefft Corris.