Tripiau tywys a di-gar

Beth am gael eich tywys i ddarganfod Ceredigion?

Cewch ymlacio mewn sedd gyfforddus ar fws neu ar drên, a mwynhau’r golygfeydd godidog heb orfod cadw llygad ar y ffordd. Bydd trenau Lein y Cambrian yn dod â chi bob cam i Aberystwyth, ond gallwch hefyd deithio ar y trên i ymweld â chwech o Drenau Bach Arbennig Cymru. Gallwch ddefnyddio gwasanaethau bws lleol i deithio ar hyd ein lonydd prydferth i ymweld â phentrefi gwledig a thraethau gorau Ceredigion. Neu beth am ddarganfod Ceredigion gyda tywysydd lleol all ddangos llefydd diddorol diarffordd i chi a'ch cyflwyno i'n ffordd o fyw ni yma yng Ngheredigion.


Rheilffordd Cwm Rheidol

Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cysylltu Aberystwyth â Phontarfynach, gan ddilyn llwybr trawiadol drwy Gwm Rheidol. Ar ôl ymlwybro ar hyd dolydd yr iseldir, mae’r trên stêm yn pwffian ei ffordd i fyny’r llethrau coediog, gan roi cyfle i’r teithwyr fwynhau golygfeydd heb eu hail o’r llynnoedd a’r rhaeadrau. Mae’r trên yn galw mewn gorsafoedd bychain lle gallwch fynd am dro i weld Rhaeadrau Rheidol, gorsaf bŵer trydan-dŵr Cwm Rheidol gyda’i chanolfan ddŵr, ei chronfa ddŵr a’i grisiau pysgod, a’r Tŷ Glöyn Byw drws nesaf. Beth am gerdded rhan o’r ffordd drwy’r coed i’r orsaf nesaf, a mwynhau picnic ar lan yr afon?

O orsaf Pontarfynach,wrth gwrs, gallwch fynd i weld y pontydd enwog dros Raeadr Mynach. 

O bryd i’w gilydd, bydd Rheilffordd Cwm Rheidol yn trefnu teithiau a digwyddiadau arbennig lle gallwch wisgo gwisg ffansi a mwynhau cerddoriaeth fyw ar y siwrnai. Bydd hefyd yn trefnu trenau arbennig adeg Gŵyl Calan Gaeaf a’r Nadolig. Gallwch hefyd roi cynnig ar yrru’r trên stêm!  

O Lein Arfordir y Cambrian i Drenau Bach Cymru 

Bob awr, mae trenau’n teithio o Lundain a chanolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth i Aberystwyth. Lein Arfordir y Cambrian yw un o reilffyrdd mwyaf prydferth Ynysoedd Prydain ac, o Fachynlleth, mae’n dilyn Ffordd yr Arfordir tua’r de-orllewin i Aberystwyth, ac i’r gogledd ar hyd arfordir Meirionnydd i Bwllheli ym Mhen Llŷn. Ar hyd y rheilffordd hon, gallwch aros ac ymweld â rhai o reilffyrdd bach Cymru.  

Fe gafodd straeon Tomos y Tanc eu hysbrydoli gan Reilffordd Tal-y-llyn. I deithio yno heb gar o Aberystwyth, gallwch ddal trên Lein Arfordir y Cambrian drwy Gyffordd Dyfi neu Fachynlleth i Dywyn. Yno, gallwch ddal y trên stêm i Abergynolwyn dan gysgod Cadair Idris. Ychydig ymhellach i’r gogledd, rhwng llethrau Cadair Idris ac aber afon Mawddach, mae Rheilffordd y Frïog.

Awydd mentro ychydig ymhellach? Os felly, beth am deithio ar hyd Lein Arfordir y Cambrian drwy Harlech i Borthmadog cyn dal trên stêm Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru i ganol mynyddoedd Eryri?

Dewis arall yw teithio i’r dwyrain ar hyd Lein y Cambrian i’r Trallwng lle gallwch fynd am daith ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion. 

Darganfod Ceredigion gyda tywysydd lleol

mae pobl leol yn adnabod lonydd Ceredigion fel cefn eu llaw.  Gadewch iddynt rannu eu brwdfrydedd am yr ardal a'ch diddanu gyda hanesion difyr tra maent yn dehongli'r tirwedd, ein treftadaeth, ein diwylliant a'n ffordd o fyw yma yng Ngheredigion. 

Gallwch ddewis eich cludiant - bws bach neu fawr ar gyfer grwpiau,  car cyfforddus neu hyd yn oed feic modur a 'sidecar' traddodiadol'.  Gallwch ddewis hyd eich taith hefyd - o daith flasu fer tua dwyawr o hyd, i dripiau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Bydd yr amser yn hefan heibio!

Bydd taith hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yn eich galluogi i ddarganfod Ceredigion o safbwynt gwahanol, cymeryd hoe i werthfawrogi golygfa a darganfod llefydd gorau cefn gwlad Ceredigon am baned a theisen. 

 

Crwydro arfordir Ceredigion gyda bws y Cardi Bach

Mae gwasanaeth bws y Cardi Bach yn ddelfrydol i rai sy’n cerdded Llwybr Arfordir Ceredigion neu i rai sydd am dreulio diwrnod ar y traeth heb fynd â’r car. Mae bws y Cardi Bach yn cludo teithwyr rhwng Aberteifi a'r Cei Newydd drwy gydol y flwyddyn, gan alw ym mhentrefi gwyliau poblogaidd Aberporth, Tre-saith, a Llangrannog. 

Mae’r bws hefyd yn ffordd gyfleus o ymweld â thraethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Mwnt, Penbryn a Chwmtydu. 

Crwydro cymunedau Ceredigion ar fws

Awydd diwrnod heb gar yng Ngheredigion? Wel, dyma rai syniadau i’ch helpu i gynllunio siwrnai o’n prif drefi ar fws. Gall gwasanaethau bws Ceredigion fynd â chi i’n trefi a’n pentrefi gwledig, a’ch cludo ar hyd yr arfordir lle gallwch gerdded Llwybr yr Arfordir. Ble bynnag ewch chi, bydd y golygfeydd yn werth eu gweld.

Crwydro cefn gwlad canol Ceredigion

O Aberystwyth, gallwch ddal bws rhif 585 sy’n teithio drwy Langeitho, Tregaron, Llanddewi Brefi a Chellan i Lambed. Ar y ffordd, cewch weld llefydd lle bu’r porthmyn yn casglu defaid a gwartheg ynghyd cyn dechrau ar eu siwrnai dros y mynyddoedd i farchnadoedd Lloegr. I gael blas ar yr hen lwybrau hyn, beth am fynd am dro ar hyd llwybrau cerdded sy'n dechrau yn y trefi a’r pentrefi hyn?

Mae bws rhif 588 hefyd yn cysylltu Aberystwyth â Llambed, gan deithio dros y Mynydd Bach, drwy gymunedau bach Trefenter a Bethania, i Langeitho, Llanio a Llangybi yn nyffryn afon Dulas.

Mae bws T1 TrawsCymru hefyd yn teithio o Aberystwyth i Lambed, gan ddilyn yr arfordir drwy Lanrhystud a Llannon i Aberaeron, cyn troi tua’r wlad a theithio drwy Ddyffryn Aeron i Felin-fach ac i Lambed.

Ymweld â Dyffryn Teifi 

Beth am ddal bws rhif 460 i grwydro ar hyd gwaelod Dyffryn Teifi o Aberteifi, gan ymweld â rhaeadrau Cenarth, tref farchnad Castellnewydd Emlyn, ac Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre? Neu beth am ddal bws rhif 551 neu 552 i deithio drwy’r wlad i Landysul, ac yna nôl i’r arfordir yng Nghei Newydd?

Biosffer Dyfi

I ddarganfod ardal Biosffer Dyfi, gallwch deithio ar y trên o Aberystwyth i Fachynlleth. Gallwch alw yn y Borth i ddarganfod Cors Fochno, coedwig danddwr Cantre’r Gwaelod, afon Leri, a thwyni tywod Ynys-las? Yna, gallech deithio ar y trên i Aberdyfi ar ochr arall yr aber lle gallwch chwilio am y gloch sy’n canu adeg penllanw.

O Fachynlleth gallwch ymweld a Chanolfan y Dechnoleg Amgen - mae bysus TrawsCymru yn pasio pen y ffordd yn rheolaidd. Gam ymhellach mae Corris, lle mae Rheilffordd fu gynt yn cario llechi o'r cloddfeydd, yn cael ei hadfer, ac ym mherfeddion y mynydd a gloddwyd mae atyniad Labyrinth y Brenin Arthur, ger Canolfan Grefft Corris.