Cycling and mountain biking

Hoffi ymlwybro'n hamddenol ar hyd lonydd tawel? Mwynhau rhuthro i lawr llethrau ar hyd llwybrau caregog? Beth bynnag sydd at eich dant, go brin fod ffordd well o weld cefn gwlad Ceredigion ar ei orau nag ar ddwy olwyn.


​Mae llwybrau beicio Ceredigion yn debyg iawn i’n hafonydd, yn amrywio o lwybrau hamddenol igam-ogam i lethrau serth a dringfeydd heriol. Ond, ble bynnag ewch chi, ry’ch chi’n siŵr o gael gwledd i’r llygad. Mae ein lonydd yn dawel, ac mae gennym ddigonedd o lwybrau oddi ar y ffordd hefyd.

Llwybrau beicio Ceredigion

Mae rhai o’n llwybrau beicio, fel Llwybr Ystwyth a Llwybr Rheidol sy’n dechrau yn Aberystwyth, neu Lwybr y Cardi Bach sy’n dechrau yn Aberteifi, yn ymuno â Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans. Cyfle perffaith i fynd am reid hirach ar eich beic.

Beicio Mynydd yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn lle gwych i feicio mynydd, gyda dewis da o lwybrau beicio a llwybrau ceffylau. Beth am drefnu eich taith eich hun neu fynd am reid gyda thywysydd lleol? Cewch syniadau am lwybrau posib yn y panel ochr.

I gael golygfeydd godidog, a thipyn o her, mae canolfan beicio mynydd Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth gyda’r gorau. 

Cewch ddewis o dri llwybr, pob un â’i gymeriad ei hun. Fel mae’r enw’n awgrymu, bydd llwybr Summit yn mynd â chi ar hyd llwybrau un trac i’r copaon lle cewch fwynhau golygfeydd gwych.

Mae'r golygfeydd o lwybr Pendam yr un mor drawiadol, ac mae'n cynnwys rhai rhannau technegol i’ch herio. Os hoffech fynd allan i’r bryniau agored, llwybr Syfydrin yw'r un i chi.

Wrth ymyl y ganolfan groeso, fe welwch drac ymarfer pwrpasol. Mae hwn yn lle gwych i feicwyr profiadol a dibrofiad ymarfer eu sgiliau neu gynhesu cyn mentro allan ar y llwybrau hirach sy’n dechrau gerllaw.

Mae beicwyr mynydd yn eu helfen ym Mynyddoedd Cambria, gyda rhwydwaiath eang o lwybrau ceffylau sy'n addas ar gyfer beicio mynydd hefyd.

Gwyl Feicio Aberystwyth 

Bob blwyddyn, mae Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn dathlu beicio o bob math. O gyffro’r gystadleuaeth beicio mynydd i lawr rhiw, a chwys a llafur yr her ddringo, i ras sbortif Gorllewin Gwyllt Cymru, rasys hwyl i blant, a rasys criteriwm, mae hon yn ŵyl a hanner.

Gyda rhai o feicwyr mwyaf blaenllaw Prydain yn rasio ar hyd strydoedd a llethrau Ceredigion, gall ymwelwyr â’r ŵyl wylio’r holl gyffro, cyn neidio ar eu beic a darganfod lonydd tawel a thlws Ceredigion eu hunain.

Mae sbortif poblogaidd Gorllewin Gwyllt Cymru yn rhoi dewis o bedwar llwybr, gan ddibynnu ar eich hwyliau a’ch stamina: y Cawr, y Mynach, y Diafol, a’r Corrach.

Bydd manylion y rasys yn cael eu cyhoeddi ar wefan British Cycling pan fydd y cyfnod cofrestru’n dechrau.​