Preifatrwydd a cwcis

Mae Darganfod Ceredigion, sydd ym mherchnogaeth ac yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cymeryd eich preifatrwydd go ddifrif, ac yn gwneud pob ymdrech i'w warchod.

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan yma. Mae rhai cwcis yn hanfodol i alluogi'r wefan weithio'n effiethiol. Mae eraill yn mesur maint a phatrwm defnydd o'r wefan.


Pwy ydyn ni

Darganfod Ceredigion yw brand gwasanaeth gwybodaeth a marchnata twristiaeth Cyngor Sir Ceredigion.

Preifatrwydd

Nid yw gwefan Darganfod Ceredigion yn dal nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am ymwelwyr i’r wefan hon, ac eithrio lle nodir yn benodol.

Ni fydd Darganfod Ceredigion yn gwneud unrhyw ymdrech i adnabod defnyddwyr unigol.

Defnyddio cwcis

Ffeil destun fach yw cwci sy'n cael ei gosod a'i storio ar eich cyfrifiadur, ffôn symudol neu ddyfais arall gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw.

Defnyddir cwcis yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio neu weithio'n fwy effeithlon a hefyd i ddarparu gwybodaeth i berchennog y wefan ar sut mae ymwelwyr I’r wefan yn ei defnyddio.

Gallwch reoli neu ddileu cwcis yn ôl eich dymuniad. 

Rydym yn defnyddio cwcis am nifer o resymau, gan gynnwys:
• galluogi’r wefan i wethio (cwci sesiwn); a
• olrhain defnydd o’r wefan ac ymddygiad ymwelwyr arni (cwci parhaus).

Mae'r cwcis sesiwn a ddefnyddiwn yn gwbl angenrheidiol i'r wefan weithio. Nid yw cwcis sesiwn yn cadw gwybodaeth bersonol.

Mae'r cwcis parhaus a ddefnyddir ar y wefan hon yn ein helpu i wella profiad defnyddiwr y wefan trwy roi mewnwelediad inni o sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Cwcis Google Analytics yw'r rhain, sy’n casglu ystadegau anhysbys, agregedig. Ni allwn ni nac unrhyw drydydd parti eich adnabod chi'n bersonol trwy hyn.

Safleoedd Trydydd Parti

O bryd i'w gilydd mae Darganfod Ceredigion yn cynnig cynnwys o wefannau trydydd parti ar ei gwefannau ee fideos / delweddau wedi'u hymgorffori neu ddolenni i dudalennau neu borthwyr cyfryngau cymdeithasol. Gallai'r rhain gynnwys cwcis eu hunain, ac nid yw Darganfod Ceredigion yn gyfrifol ddefnydd y cwcis yma. I gael rhagor o wybodaeth am y rhain, dylech edrych ar bolisi preifatrwydd y trydydd parti.

Mae Darganfod Ceredigion yn cynnig dolenni i lawer o wefannau allanol eraill a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni. Nid yw Darganfod Ceredigion yn cymeradwyo unrhyw un o'r safleoedd ac rydych chi'n ymweld â nhw ar eich risg eich hun. Dylai defnyddwyr hefyd fod yn ymwybodol y gall y gwefannau hyn fod yn defnyddio eu cwcis eu hunain, a dylent ymgynghori â pholisi preifatrwydd pob gwefan i gael mwy o wybodaeth.

Newidiadau i'r tudalennau Preifatrwydd a Chwcis

Mae’n bosib y gall cynnwys y dudalen hon gael ei newid o bryd i’w gilydd, felly ail ymwelwch â’r dudalen yn achlysurol i weld unrhyw ddiweddariadau.

Rheoli Cwcis

Mae gennych y gallu i dderbyn neu wrthod cwcis o unrhyw wefan drwy addasu'r gosodiadau ar eich porwr. Os ydych yn dymuno cyfyngu neu rwystro'r cwcis sy'n cael eu gosod gan ein gwefan, gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr.

I gael gwybodaeth am sut i reoli a cwcis gallwch ddefnyddio'r 'Help' o fewn eich porwr neu ewch i  www.aboutcookies.org

Nodwch, fodd bynnag, y gallai dileu neu analluogi’r cwcis hyn effeithio ar sut mae ein gwefan yn gweithio ac efallai na fydd ganddoch fynediad i rai agweddau ohonni.