Chwaraeon dŵr

Syrffio, bordhwylio, tirfyrddio, barcudfyrddio – beth bynnag yw'r gamp, mae arfordir Ceredigion yn lle delfrydol i rai profiadol a dibrofiad fel ei gilydd. Bae cysgodol Cei Newydd a thraeth agored y Borth yw dau o draethau mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer chwaraeon dŵr. Dewch i arfordir Ceredigion i gael antur yn yr awyr agored.


Hwylio 

Gyda’i threftadaeth forwrol gyfoethog, dyw hi ddim yn llawer o syndod bod hwylio’n gamp boblogaidd ar hyd arfordir Ceredigion, gyda chlybiau yn Aberaeron, Cei Newydd, a Gwbert ger Aberteifi. Mae angorfeydd ar gael i ymwelwyr yn harbwr a marina Aberystwyth hefyd.

Mae Clwb Hwylio Cei Newydd yn trefnu digwyddiadau hwylio ar y cyd â Chanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion. Yng Nghei Newydd, mae'r cystadlaethau hwylio'n dechrau ym misoedd cyntaf y flwyddyn, gan gyrraedd penllanw yn regata Bae Ceredigion ym mis Awst. Yn ogystal â rasys hwylio i rai o bob oed, mae yna gystadlaethau nofio a rhwyfo, a llu o weithgareddau hwyliog ar y traeth sy'n dechrau gyda chystadleuaeth codi cestyll tywod ar y diwrnod cyntaf. 

Bob blwyddyn, fe gynhelir regata yn Aberaeron, Tre-saith, ac Aberteifi hefyd, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau yn harbwr Aberaeron ac ar y cei yn Aberystwyth.

Rhwyfo cychod hir Celtaidd

Mae rhwyfo cychod hir Celtaidd yn gamp boblogaidd yng Ngheredigion, gyda saith clwb yn cymryd rhan yn y gamp ar hyd arfordir y sir yn Aberporth, Tre-saith, Llangrannog, Cei Newydd, Aberaeron, Aberystwyth, a’r Borth.

Bob dwy flynedd, ym mis Mai fel arfer, bydd y clybiau’n cystadlu yn yr Her Geltaidd, ras rwyfo o Arklow yn Iwerddon i Aberystwyth yng Ngheredigion. Er bod y ras yn dipyn o laddfa, fe all y cychod cyflymaf groesi’r dŵr mewn llai na 15 awr.

Bydd cystadleuwyr o sawl gwlad yn cystadlu mewn timau o 12, gyda phedwar yn rhwyfo ar y tro, gyda chocs, mewn cwch hir Celtaidd neu sgiff.

Yn ystod Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi, bydd cychod o bob lliw a llun yn llenwi afon Teifi, gan herio'i gilydd mewn cystadlaethau hwyliog, a diddanu'r dorf.

Traethau syrffio Ceredigion

Ar y cyfan, mae’r tonnau sy’n torri ar ein traethau tywod tlws yn eithaf tyner, felly mae hwn yn lle delfrydol i ddechrau syrffio neu i wella’n gyflym. Ond fe all y gwyntoedd cryfion o’r de-orllewin, ynghyd â’r llanw cryf, greu rhai o donnau syrffio mwyaf arfordir y gorllewin hefyd.

Mae traeth y Borth yn fan poblogaidd i syrffio, gydag amodau dibynadwy a digon o le i bawb. Ychydig ymhellach i’r gogledd, mae traeth Ynys-las yn llai cysgodol, ac fe all y tonnau yno fod yn dipyn mwy o faint.

I’r de o Aberystwyth, mae syrffwyr lleol yn hoff iawn o draethau Llangrannog ac Aber-arth.

Gyda’i fae mawr siâp pedol a’i draeth tywodlyd, mae'r Cei Newydd yn cysgodi rhag y gwyntoedd cryfion, felly mae’n lle gwych i roi blaen troed yn y dŵr am y tro cyntaf neu i fwynhau diwrnod o chwaraeon dŵr gyda’r teulu.

Yn ne Ceredigion, ar aber afon Teifi, mae Gwbert hefyd yn lle da i syrffio, bordhwylio, a barcudfyrddio.

Chwaraeon afon a dŵr gwyn

Mae Clwb Canŵio Paddlers a Chanolfan Addysg Awyr Agored Llandysul yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Canoe UK, ac maen nhw'n darparu cyrsiau hyfforddi a phrofiadau awyr agored o bob math.

Beth am roi cynnig ar gaiacio dŵr gwyn neu gerdded ceunentydd gydag Adventure Beyond? Maen nhw’n gwybod yn union ble i fynd i gael antur fythgofiadwy ar arfordir ac afonydd Ceredigion a gogledd Sir Benfro.

Caiacio môr

Mae caiacio môr yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod baeau cudd ac ogofâu dirgel Arfordir Treftadaeth Ceredigion. Go brin fod ffordd well o weld bywyd gwyllt yr arfordir sy'n cynnwys morloi, dolffiniaid, ac adar y môr.​

Gall yr amodau newid yn gyflym, felly peidiwch â mentro caiacio ar eich pen eich hun ar y môr. Cadwch lygad ar y tywydd, a darllenwch dablau llanw Ceredigion.

Mae’r rhan fwyaf o draethau Ceredigion yn hawdd eu cyrraedd ac yn llefydd da i lansio caiac. Pan fyddwch chi ar y dŵr, gallwch fynd i faeau cudd sydd tu hwnt i gyrraedd eraill.

​​