Golff - ar drywydd y bel fach wen yng Ngheredigion

Heb os, mae’r golygfeydd o gyrsiau golff Ceredigion yn benigamp. O’n bryniau i’n twyni tywod, mae gennym gyrsiau pencampwriaeth i herio golffwyr profiadol, a chyrsiau pwrpasol a fydd at fodd dechreuwyr a selogion fel ei gilydd.


Wedi’i sefydlu yn 1885, gall un o gyrsiau golff Ceredigion, wrth ymyl yr arfordir rhwng y Borth ac Ynys-las, hawlio teitl cwrs golff hynaf Cymru. Yn ne’r sir, mae dau gwrs golff Aberteifi yn rhannu’r un olygfa dros y môr yng Ngwbert, ac yn rhannu hanes sy’n dyddio nôl i’r 1890au hefyd. Ar ôl cyfnod prysur o ddatblygu yn y 1990au, mae gennym bum cwrs parcdir arall i’w mwynhau erbyn hyn.

Cyrsiau golff deunaw twll Ceredigion

Mae pob un o gyrsiau golff deunaw twll Ceredigion wedi’u lleoli ar yr arfordir, ond nid cwrs lincs yw pob un ohonyn nhw.

O Gwrs Golff Aberystwyth sy’n gorwedd mewn dyffryn ar gyrion y dref, cewch olygfeydd panoramig gwych dros Fae Ceredigion. Os nad yw’r golygfeydd yn ddigon i dynnu’ch sylw, bydd y gwynt yn sicr o’ch herio ar dwll 13!

Aberystwyth oedd un o’r cyrsiau a gynlluniwyd gan Harry Vardon, y golffiwr a enillodd Bencampwriaeth Agored Prydain chwe gwaith.

Mae’n bosibl iawn mai Clwb Golff y Borth ac Ynys-las, a sefydlwyd yn 1885, yw cwrs hynaf Cymru. Mae’r cwrs lincs yn gwrs pencampwriaeth sydd wedi’i gofrestru gydag Undeb Golff Cymru. Fe gafodd ei ailgynllunio yn 1945 gan Harry S Colt, y gŵr a gynlluniodd gwrs Sunningdale a thri chwrs a ddefnyddir ar gyfer Pencampwriaeth Agored Prydain: Muirfield, Royal Liverpool, a Hoylake and Royal Portrush. Bydd y cwrs yn sicr o’ch profi bob adeg o’r flwyddyn, ac mae’r clwb yn cynnal nifer o gystadlaethau agored.

Fe sefydlwyd Clwb Golff Aberteifi yn y 1920au, ond mae pobl wedi bod yn chwarae golff yn Aberteifi ers 1895. Mae’r clwb yn cynnal pencampwriaethau Undeb Golff Cymru yn rheolaidd. Gyda chwrs sy’n gyfuniad o barcdir a lincs, heb anghofio awelon y môr, mae pob rownd yn unigryw ac yn herio golffwyr o bob safon.

Mae’r cwrs yn gyfuniad o lincs a doldir, ac mae’r clwb yn falch iawn o’r ffordd mae’n gofalu am yr amgylchedd. Yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, mae’r cwrs yn fôr o liw pan fydd yr eithin a chlychau’r gog yn eu blodau. Mae’r golygfeydd dros aber afon Teifi, Ynys Aberteifi, ac arfordir gogledd Sir Benfro yn werth eu gweld.

I’r de o Aberystwyth, yng Nghlwb Golff a Gwledig Penrhos, Llanrhystud, mae cwrs pencampwriaeth yn gorwedd ar lethau dyffryn coediog tlws gyda golygfeydd gwych dros y bae. Cafodd y cwrs deunaw twll heriol ei ddatblygu ddechrau’r 1990au. Mae yno hefyd faes ymarfer a chwrs naw twll sy’n berffaith i rai sydd am ddysgu sut i chwarae, ymarfer eu crefft, neu feithrin eu sgiliau gyda chwaraewr proffesiynol y clwb.