Mordeithiau gweld bywyd gwyllt

Heb os, mordaith i weld bywyd gwyllt yw un o uchafbwyntiau unrhyw ymweliad â Cheredigion. Tybed oeddech chi’n gwybod bod dyfroedd Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel?

O’r môr, cewch weld arfordir Ceredigion drwy lygaid gwahanol, a rhyfeddu at ein bywyd gwyllt cyfoethog sy'n cynnwys dolffiniaid, morloi, llamhidyddion, crwbanod môr, a rhywogaethau anarferol fel pysgod haul.


Y Cei Newydd yw un o’r llefydd gorau i weld dolffiniaid trwyn potel Bae Ceredigion. Gallwch eu gweld o’r lan ac o’r môr. Mae gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth Seawatch ganolfannau yn YCei Newydd, a bydd gwyddonwyr yn ymuno ag ymwelwyr ar fordeithiau i ymchwilio i’r boblogaeth led-breswyl o ddolffiniaid a llamhidyddion.

Cewch ddewis da o fordeithiau gyda thywyswyr a chapteiniaid profiadol sy’n gwybod ble’n union i fynd i weld y bywyd gwyllt, a beth yw’r ffordd orau o lywio’r cwch i gael gweld y creaduriaid heb darfu arnyn nhw.

Gallwch ddewis mordeithiau sy’n para awr, awr a hanner, dwy awr, pedair awr, neu hyd yn oed wyth awr a mwy. I gael gwybodaeth am amserlenni, prisiau tocynnau, a mordeithiau arbennig, ewch i wefannau darparwyr y mordeithiau.

Beth sydd i'w weld ar arfordir Ceredigion?

Mae’r morlo llwyd wrth ei fodd ar gildraethau cysgodol ac ogofâu dirgel Ceredigion, yn enwedig pan fydd y morloi benywaidd yn chwilio am lonydd i esgor ar eu morloi bach a’u magu yn yr hydref. Yn aml, gallwch weld morloi o Lwybr yr Arfordir, yn enwedig o amgylch y Mwnt, Cwmtudu, a Chraig yr Adar ger Cei Newydd. Mordaith yw’r ffordd orau (a mwyaf diogel) o weld llawer o’n hogofâu a’n rhaeadrau, ac mae digon o ddewis ar gael.

Fel mae’r enw’n awgrymu, Craig yr Adar, ychydig i’r de o Gei Newydd ar hyd Llwybr yr Arfordir, yw un o’r llefydd gorau i weld bywyd gwyllt morol Ceredigion. Yno, fe welwch nythfa o wylogod yn heidio ar y clogwyni yn y gwanwyn, yn ogystal â morloi llwyd a dolffiniaid trwyn potel yn y tonnau islaw.

Cadwch lygad hefyd am adar eraill y môr: llursod, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, mulfrain gwyrdd, a huganod. Gydag adennydd chwe throedfedd o led, mae gweld huganod yn plymio i ddal pysgod yn dipyn o olygfa.

Craffwch ar y creigiau am y frân goesgoch, brân brin â phig a choesau coch. Creigiau arfordir Bae Ceredigion yw un o'r llefydd gorau ym Mhrydain i'w gweld. Mae aderyn cyflymaf Prydain, yr hebog tramor, hefyd yn llechu ar hyd y clogwyni. Gall gyrraedd cyflymder o 200 milltir yr awr.

Ar unrhyw adeg o'r flwyddyn fe welwch fe welwch amrywiaeth o flodau ar hyd y glannau, o gymylau o flodau gwynion yn y gwanwyn ar y ddraenen ddu (Prunus spinosa),  llwyni melyn yr eithin (Ulex europaeus), a'u harogl fel cnau coco, gwyn y gludlus arfor (Silene maritima)a blodau pinc neu borffor clustog Fair (Armeria maritima). 

Mae ffotograffwyr wrth eu bodd cyfuniad lliwiau planhigion, cennau, a'r golau'n newid ar y clogwyni  a thonnau’r môr. Ar Ynys Lochtyn, ychydig i’r gogledd o Langrannog, yn y glaswellt byr ar ymyl y clogwyn, fe welwch garpedi o flodau bach glas yn y gwanwyn, tebyg i glychau’r gog. Seren y gwanwyn (Scilla verna) yw enw’r blodyn bach hwn. Ar lawer o’r dolydd ar hyd yr arfordir, fe welwch degeirianau tlws hefyd, a thrwy fisoedd yr haf, fe welwch gymylau o glustogau Mair, ar y creigiau a'r gwlyptiroedd, a llu o blanhigion mae fforwyr wrth eu bod yn chwilio amdanynt.