Pysgota

Mae afonydd, llynnoedd, ac arfordir Ceredigion yn baradwys i bysgotwyr hamdden a physgotwyr môr fel ei gilydd. Mae afonydd Teifi, Aeron, Rheidol ac Ystwyth yn enwog am eu brithyllod, eogiaid, a sewiniaid. Ar hyd yr arfordir, gallwch hefyd fynd allan i bysgota ar y môr gyda physgotwyr profiadol Ceredigion.

 


Pysgota dŵr croywy

Ceredigion yw un o’r llefydd gorau yng Nghymru i bysgota mewn dŵr croyw, yn enwedig i bysgota am sewiniaid, eogiaid, a brithyllod gwyllt. Afonydd Teifi, Aeron, Ystwyth a Rheidol yw afonydd pysgota mwyaf adnabyddus y sir.

Gallwch gael trwydded i bysgota mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd, a phyllau, yn ogystal â’r afonydd sy'n cael eu rheoli gan gymdeithasau pysgota Ceredigion.

Tywyswyr, hyfforddwyr, a gwasanaethau gili 

Gall pysgotwyr profiadol fynd â chi ar eich union i’r llefydd gorau i bysgota, a dangos i chi sut i bysgota hefyd. Mae’r tywyswyr yn darparu gwasanaethau o bob math, o bysgota liw nos i wasanaeth gili llawn. Mae’r pysgotwyr hyn yn adnabod afonydd Ceredigion fel cefn eu llaw, ac maen nhw’n gwybod beth yw’r technegau castio gorau i’w defnyddio ar bob llyn ac ym mhob pwll yn yr afonydd. Gallwch holi’r arbenigwyr am sewiniaid afonydd Teifi a Thywi, yn ogystal â’r brithyllod a’r canghennau glas.

Pysgota môr

​​Cimychiaid a chrancod (a chorgimychiaid a chregyn bylchog yn eu tymor) yw prif ddalfa pysgotwyr masnachol Ceredigion. Felly, mae digon o bysgod eraill yn y môr, fel draenogod môr, merfogiaid, cŵn glas, morleisiaid, morgathod, a gwyniaid môr, heb sôn am ddigonedd o fecryll.

Mae dyfroedd Bae Ceredigion yn enwog am eu mecryll, ac mae digon o gyfle i bysgota o’r traethau a’r glannau. Bydd pysgotwyr brwd yn dal rhywogaethau amrywiol, gan gynnwys draenogod môr a merfogiaid, o’r lan.

Beth am fynd ar daith bysgota o Gei Newydd? Cewch ddewis o deithiau sy’n para rhwng dwy ac wyth awr. Dyma gyfle perffaith i ddal mecryll i’w coginio ar y barbiciw, cranc neu ddraenogyn môr, neu hyd yn oed forgath, siarc neu gongren!

I gael hwyl gyda’r teulu cyfan, beth am brynu ychydig o abwyd a cheisio dal crancod?

Gallwch hyd yn oed gymryd rhan mewn cystadlaethau dal crancod yng Ngŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion yn Aberaeron ym mis Gorffennaf, a Gŵyl Môr i’r Tir Aberystwyth ym mis Awst.


Gwyliwch y llanw! Cadwch lygad barcud ar olion y llanw ar y creigiau a’r tywod. Darllenwch y tablau llanw. A gwnewch yn siŵr na chewch chi'ch dal gan lanw sy’n dod i mewn yn gyflym.

Pysgodfeydd bras

Mae gan Geredigion bysgodfeydd bras gwych lle gallwch ddal carp, sgretod, draenogod dŵr croyw, pysgod rhudd, tybiau’r dail, merfogiaid, gwyniaid, a rhufellod. Bydd gan rai frithyllod gwyllt, a bydd gan eraill frithyllod seithliw. Mae gan sawl pysgodfa gyfleusterau rhagorol i bysgotwyr anabl.

​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​