Rhedeg mynydd a pharc

I deimlo’ch traed yn rhydd a chael llond ysgyfaint o awyr iach, beth am fynd i redeg ar hyd arfordir Ceredigion neu ym mryniau a choedwigoedd Mynyddoedd Cambria? Ry’ch chi’n siŵr o fwynhau ein dewis da o lwybrau, heriau, a chystadlaethau.


Llwybrau rhedeg Bwlch Nant yr Arian

Mae yna lwybrau rhedeg wedi'u cyfeirnodi yng Nhanolfan Bwlch Nant yr Arian, ac mae pob un ohonynt yn cychwyn o faes parcio'r ganolfan. Wedi eu henwi ar ôl cerrigfeini lleol, mae llwybrau Y Fuwch a'r Llo yn gyflwyniad gwych i lwybrau rhedeg Mynyddoedd Cambria.

Llwybr Y Fuwch yw'r hiraf o'r llwybrau (6.5 milltir, 10 cilomedr). Mae'n sydd ag amrywiaeth o arwynebau a sawl esgyniad serth, tra bod Y Llo ​​(3.1 milltir, 5 cilometr) yn cychwyn gyda darn gwastad bron ddau gilometr o hyd cyn dringo i fyny i'r grib a dychwelyd nôl  i'r maes parcio.

Mae Bwlch Nant yr Arian yn leoliad hanner marathon hefyd. Cynhelir hanner marathon y Llwybr Arian ym mis Mawrth.

Pontarfynach a'r Hafod

Yn ôl Cymdeithas Athletau Cymru, ystâd coetir Hafod oedd lle trefnwyd, ym 1860, y digwyddiadau athletau ffurfiol cyntaf yng Nghymru. Heddiw mae ystâd Hafod yn cael ei rheoli gan Adnoddau Naturiol Cymru, ac mae yna sawl milltir o lwybrau ar gyfer cerdded sydd hefyd yn boblogaidd ymhlith rhedwyr. Mae Ras yr Hafod yn ddigwyddiad rasio blynyddol ar gyfer oedolion a phlant, a gynhelir ym mis Mai.

Mae Pontarfynach yn gartref i Ras y Barcud Coch, cyfres o ddigwyddiadau cerdded a rhedeg, sy'n cynnwys rasus hanner marathon a 10 cilomedr,  a rasus cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau Cymru. ​

Rasio ar hyd glan môr ac ar y traeth

Does dim ots pa adeg o'r dydd y byddwch ar bromenad Aberystwyth rydych yn siwr o weld rhywun yn loncian arno. Mae'n le delfrydol i wneud hynny - milltir braf a gwasted -gyda golygfeydd bendigedig sy'n newid gyda'r tymhorau ac amser o'r dydd. 

Dyma hefyd lle cynhelir rasys Race for Life, Triathlon a'r ras Dau Gopa Aberystwyth.

Mae ras Y Ddau Gopa yn cychwyn ar y promenad yn yn mynd am yr harbwr a'r marina cyn esgyn 450 troedfedd at gofeb Wellington ar ben hen gaer Pendinas.  Mae'r rhedwyr yna'n troi nôl am gartref, ond nid dyna diwedd y daith. Yn gyntaf rhaid estyn yr ail gopa, sef Craig Glais, ac yna igam ogam lawr y llwybr serth a charegog am y cymal olaf un, a gorffen gyda un sbrint olaf i gyrraedd y llinell derfyn. 

Rhan o gystadlu'r dydd yw'r ras rhwng y Dref a'r Coleg, gyda aelodau Clwb Athletau Aberystwyth yn cystadlu yn erbyn rhedwyr y brifysgol am Gwpan y Dolffin. 

Mae traeth Y Borth a'r Ynyslas yn enwog am weddillion coediwg Cantre'r Gwaelod, ond mae digon o le i redeg hefyd, gan fod y traeth yn fwy na thair milltir o hyd. Mae ras 10 cilomedr traeth y Borth gyda pwynt troi am gartref yn Ynyslas, ac mae rhedeg ar lanw isel y traeth yn cynnig wyneb gwastad cadarn, os blinedig! 

​Sialensau cerdded, loncian a rhedeg 

Me ras 10 milltir y Teifi 10,  yn gwneud y gorau o drywydd  cyflym sy'n dilyn gwastadeddau godidog yr afon Teifi.  Mae'n ras achredig, ac un un sy'n sbarduno cystadleuwyr i wneud eu gorau glas. 

Mae Ras Fynydd Sarn Helen wedi hen ennill ei phlwyf, gan ei bod wedi bod yn cael ei chynnal ganol Mai ers dros 40 mlynedd. Mae'r diwrnod yn cynnwys y ras 16 milltir heriol i fyny rhiw, ras hwyl naw milltir a rasus i'r plant. 

Mae cwmni Hydro Dragon Events yn trefnu cyfres flynyddol o sialensau 'Cerdded, Loncian a Rhedeg' ar hyd llwybrau gorau Ceredigion. Cadwch lygad ar y rhestr digwyddiadau i wybod pryd bydd yr un nesaf.

Wedi'i ysbrydoli gan chwedl y tair 'chwaer' afon sy'n codi ym Mynyddoedd Cambria, ond sy'n cymeryd llwybrau gwahanol iawn am y môr,  mae Sialens 50 cilomedr Mynydd i'r Môr yn decharu rhwng yr Hafren a'r Gwy ym Mhowys, cyn croesi i Geredigion i ddilyn yr afon Ystwyth am y môr, i orffen, ar lan y môr yn Aberystwyth. 

Cyfeiriannu

Defnyddiwch eich sgiliau darllen map i ddod o hyd i byst cyfeiriannu (neu rheolyddion) a'ch gallu i redeg rhyngddynt yn y drefn gywir ar bedwar cwrs cyfeiriannu parhaol sydd ar gael yng nghanolfan Bwlch Nant yr Arian.   Mae dewis o gyrsiau - un haws ar gyfer dechreuwyr, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn aml, a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol. Mae mapiau ar gael o'r ganolfan ymwelwyr. 

O gwmpas tref Aberystwyth ei hun mae llwybrau cyfeiriannu eraill sydd wedi'u cyfeirio'n barhaol. Mae Parc Natur Penglais yn le hyfryd i redeg, yn arbennig yn y gwanwyn pan mae clychau'r gog yn eu llawn flodau.  Mae cyrsiau cyfeiriannau yn agored i bawb ar draws tiroedd y Brifysgol hefyd. 

Mae Clwb Cyfeiriannu Canolbarth Cymru'n trefnu sawl digwyddiad yn yr ardal. Mae pencampwyr y byd fel Megan Carter Davies yn arwain y ffordd ar draws y bryniau.