Bae Ceredigion - arfordir aruthrol gorllewin Cymru

Bae Ceredigion yw bae mwyaf arfordir Cymru. Mae’n ymestyn o Sir Benfro i Ben Llŷn, gyda traethau a childraethau, rif y tywod mân, yn gadwyn ar ei hyd. Pan fyddwch chi'n teithio ar hyd arfordir Ceredigion, yn enwedig ar hyd Llwybr yr Arfordir, byddwch yn gweld y bae bendigedig yn ymestyn o flaen eich llygaid. Byddwch yn gweld Enlli, Eryri, Cadair Idris a'r Preseli yn y pellter. A sôn am orwelion pell, oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu gweld mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon o gopa Pumlumon Fawr, mynydd uchaf Ceredigion, ar ddiwrnod clir?


Arfordir Ceredigion - paradwys i fywyd gwyllt

Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yn byw ar arfordir Ceredigion, ac mae rhannau helaeth o'r arfordir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae poblogaeth fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel yn byw yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, ardal sy’n estyn ar hyd bron i ugain cilometr o’r arfordir ac yn gwarchod mil cilometr sgwâr o Fôr Iwerddon.

Mae glannau deheuol aber afon Teifi’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, unig barc cenedlaethol arfordirol y Deyrnas Unedig, ac mae arfordir gogledd Ceredigion yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau sy’n estyn ar hyd arfordir Parc Cenedlaethol Eryri i Ben Llŷn. Gydag afon Teifi’n ffurfio ffin ddeheuol Ceredigion, afon Dyfi sy’n ffurfio ffin ogleddol y sir. Ac mae UNESCO wedi dynodi dalgylch afon Dyfi, a’r arfordir hyd at Aberystwyth, yn Warchodfa Biosffer oherwydd rhinweddau arbennig y dirwedd, ac iaith a diwylliant y cymunedau.

Ceredigion - cartref chwedlau tir a'r môr

Un o nodweddion arfordir Ceredigion yw’r gyfres o gefnau graean a elwir yn sarnau. Sarn Gynfelyn yw’r amlycaf ohonyn nhw. Gallwch ei gweld yn glir o Lwybr Arfordir Ceredigion rhwng y Borth ac Aberystwyth. Mae’n estyn bron i saith milltir i’r môr at fan a elwir yn Gaer Wyddno. Pan fydd y llanw ar drai, bydd Sarn Gynfelyn yn dod i’r golwg, ac fe allwch lanio arni. Ond bydd hithau, fel Sarn Badrig i’r gogledd, yn diflannu dan y don pan fydd y llanw’n troi, tra bo Sarn Ddewi a Sarn Gadwgan yn cuddio dan y dŵr o hyd yn ne Bae Ceredigion.

Marianau a gafodd eu creu wrth i’r rhewlifoedd gilio ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf yw’r sarnau hyn. Mae’n bosibl eu bod wedi ysbrydoli chwedl Cantre’r Gwaelod, a chwedl dinas golledig Bannow yn Iwerddon. Os ewch chi i draeth y Borth neu Ynys-las pan fydd y llanw ar drai, yn enwedig ar ôl stormydd y gaeaf a’r gwanwyn pan fydd y tywod wedi golchi ymaith, fe welwch chi olion hen goedwig danddwr. Weithiau, bydd olion traed o gyfnod cynhanesyddol yn ymddangos yn y mawn hefyd, cyn diflannu o’r golwg unwaith eto.

Tirwedd arbennig sy'n wledd i'r llygaid

Mae clogwyni ac aberoedd Ceredigion yn gartref ac yn noddfa i amrywiaeth o adar prin, planhigion lliwgar, a chennau sydd wedi addasu’n berffaith i’w cynefin. Bydd adar fel gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las yn treulio misoedd y gaeaf ar lannau afon Dyfi, cyn i weilch y pysgod ddychwelyd o Affrica i nythu ar y corsydd dros fisoedd yr haf.

Ond mae’r clogwyni a’r creigiau eu hunain yn haeddu sylw hefyd, gan fod y gwynt a’r môr wedi erydu a naddu’r cilfachau a’r toriadau i greu ogofâu a chreigiau trawiadol fel Carreg Bica yn Llangrannog, neu Craig y Delyn ger Y Borth. 

Arfordir Treftadaeth Ceredigion

Yn ogystal â bywyd gwyllt eithriadol, mae gan arfordir Ceredigion etifeddiaeth hanesyddol gyfoethog: porthladdoedd bach, hen odynau calch, a nifer o fryngaerau. Mae’r rhain i gyd yn llefydd hudolus i ymweld â nhw. Llefydd lle gallwch chi ddwyn y gorffennol i gof wrth i chi edrych allan dros y môr a gwylio’r haul yn machlud ar y gorwel.

Fe welwch odynau calch ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion yng Nghwmtudu, y Mwnt, Llangrannog, a Sarn Gynfelyn ger Clarach. Rhwng Llan-non Llansanffraid a Llanrhystud, fe welwch gyfres o bedair odyn sy’n datgelu hanes y fasnach lewyrchus rhwng y morwyr a’r ffermwyr.

I weld un o’r golygfeydd panoramig gorau dros Fae Ceredigion, ewch am dro i ben bryngaer Pen Dinas sy'n bwrw'i chysgod dros y ddwy afon sy’n llifo i’r môr yn Aberystwyth. Hwn yw’r safle amddiffynnol mwyaf o’r Oes Haearn ar yr arfordir. Neu beth am adael Llwybr yr Arfordir yn Llangrannog a dringo dros ysgwydd Pen y Badell – enw sy’n disgrifio’n berffaith siâp arbennig y penrhyn a’r bryn lle mae’r gaer bentir hon wedi’i lleoli.

Da chi, ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion i ddarganfod llefydd arbennig fel Castell Bach, cyn i’r môr eu cipio am byth.