Rheidol

Mae afon Rheidol yn tarddu yn Llyn Llygad Rheidol ar lethrau Pumlumon, copa uchaf Mynyddoedd Cambria. Mae’r afon yn disgyn yn serth ac yn gyflym i’r môr drwy dirwedd goediog ddramatig. 

 


Yn ôl y chwedl, roedd gan frenin y mynydd dair merch, sef afonydd Hafren, Gwy a Rheidol. Fe orchmynnodd eu bod yn gadael cartref, gan ddweud y byddai’n rhoi’r holl dir rhwng eu cartref a’r môr iddyn nhw. Fe ddilynodd pob un ohonyn nhw lwybr gwahanol i’r môr. Fe gododd Hafren yn gynnar a dilyn llwybr hir a throellog i’r môr. Fe ddihunodd Gwy nesaf a dilyn y trywydd mwyaf prydferth i’r môr. Yn olaf, fe ddihunodd Rheidol ac, ar ôl sylweddoli bod angen iddi frysio, fe ddilynodd y llwybr byrraf gan faglu a llamu ar ei hunion i’r môr ym Mae Ceredigion.

Mae ucheldir Ceredigion yn frith o lynnoedd bach, llawer ohonyn nhw wedi’u creu gan rewlifoedd. Ar lethr gogleddol Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol, yn enghraifft o gronlyn marian – pant a naddwyd yn ochr y mynydd gan rewlif.

Dalgylch afon Rheidol yw sail cynllun trydan dŵr enfawr Cwm Rheidol sy’n estyn dros 60 milltir sgwâr (162 cilometr sgwâr) ac yn cynnwys cronfeydd dŵr Nant y Moch, Dinas a Rheidol, a chyfres o ddyfrffyrdd a phibellau. Hon yw’r system fwyaf o’i bath yng Nghymru. Drwy ddefnyddio’r dŵr glaw sy’n syrthio ar y mynyddoedd cyfagos i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae’r system o gronfeydd dŵr hefyd yn helpu i reoli llif yr afon, gan ddiogelu’r cymunedau ar lawr y dyffryn rhag llifogydd.

O gronfa ddŵr Nant y Moch, mae’r afon yn llifo drwy bentref Ponterwyd, cyn rhuthro yn ei blaen i geunant serth llawn coed deri hynafol a phlymio dros Raeadr Gyfarllwyd. Fe allwch chi weld y rhaeaedr brydferth hon drwy’r coed o Bontarfynach. 

Pont y Person yw’r unig bont dros yr afon rhwng Ponterwyd a Phontarfynach. Byddai’r ffeirad glew yn defnyddio’r fan hon i groesi’r ceunant i gyrraedd eglwys hynafol Ysbyty Cynfyn, a dyna darddiad yr enw. Fe fyddai dyn yn cael chwecheiniog y dydd i gynnal y bont a oedd, bryd hynny, yn styllen bren yn hongian ar gadwyni a oedd yn sownd yn llethrau careog y ceunant. Pan godwyd pont newydd yno yn yr 20fed ganrif, fe ddefnyddiwyd hofrenyddion i’w gosod yn ei lle.

Ym Mhontarfynach, mae afon bwerus Mynach yn rhuthro dros gyfres o byllau creigiog i greu un o raeadrau mwyaf trawiadol Cymru, cyn ymuno ag afon Rheidol. Ar draws y rhaeadr, mae yna dair pont, pob un wedi’i hadeiladu ar ben y llall. Yn ôl y chwedl, fe godwyd y bont wreiddiol gan y Diafol ei hun, gan fod y dasg tu hwnt i allu unrhyw fod dynol.

Teithio ar y trên bach stêm o Aberystwyth yw un o’r ffyrdd gorau o gyrraedd Pontarfynach.  Yn wreiddiol, fe ddefnyddiwyd Rheilffordd Cwm Rheidol i gludo mwynau a phren o fwyngloddiau a phlanhigfeydd Mynyddoedd Cambria. O Aberystwyth, mae’r trên bach yn dilyn yr afon wrth iddi ymlwybro drwy’r dyffryn llydan, ond yna mae’r dyffryn yn culhau wrth i’r trên bwffian ei ffordd i fyny’r llethrau coediog serth. Wrth i chi deithio i fyny’r dyffryn, fe welwch chi siâp carw ar y llethr, darn o dir wedi’i liwio gan fwynau lle nad oes dim yn tyfu. Mae’r nodwedd anghyffredin hon yn heneb gofrestredig, un o ddim ond dwy enghraifft o’r fath yn y Deyrnas Unedig.

Ymlwybro tua’r môr

Wedi iddi dasgu drwy’r ceunant serth a rhuthro dros raeadrau lu, mae cymeriad yr afon yn newid ar ôl iddi adael y gronfa ddŵr olaf. Ar ei glannau, mae Gorsaf Bŵer Rheidol a meithrinfa bysgod sy’n magu brithyllod ar gyfer y cronfeydd dŵr ac afon Rheidol ei hun. I fyny’r afon o’r orsaf bŵer, fe gafodd grisiau pysgod eu naddu yn y graig i osgoi Rhaeadr Rheidol. Ar y grisiau chwe metr o uchder, mae yna 14 pwll sy’n rhoi llefydd diogel i’r pysgod silio.

I ddysgu mwy am yr orsaf bŵer a’r dirwedd sy’n ei bwydo, fe allwch chi ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Gorsaf Bŵer Rheidol. Drws nesaf, fe allwch chi weld glöynnod byw o bob lliw a llun yn y Tŷ Glöyn Byw. Wrth y gored, fe allwch chi groesi afon Rheidol i gyrraedd gorsaf Aber-ffrwd ar Reilffordd Cwm Rheidol. Pan fydd hi’n nosi, mae dŵr y gored yn dawnsio’n dlws dan y llifoleuadau.

Diwydiant distaw

Roedd y twristiaid cynnar wrth eu bodd â’r ardal hon. Bydden nhw’n dod i weld y mwyngloddiau arian sy’n britho Mynyddoedd Cambria, yn ogystal â rhaeadrau Pontarfynach ac ystad yr Hafod. Bu’r teithiwr ac awdur, George Borrow, yn aros ym Mhonterwyd, ac fe ysgrifennodd am ei ymweliad yn ei lyfr Wild Wales. Ers ei gyhoeddi yn 1854, dyw’r llyfr erioed wedi bod allan o brint!

Ar ddarn o dir tonnog rhwng llethrau serth dyffryn Rheidol i’r de a’r dwyrain, a’r rhostir agored i’r gogledd, mae cymuned fach Ystumtuen yn swatio. A hithau’n gymuned fwyngloddio ers yr 17eg ganrif o leiaf, ffermio gwynt yw ei diwydiant yn yr 21ain ganrif. Ond fe fu pobl yn byw ar y graig uwchlaw afon Rheidol ers cyfnod llawer cynharach. Castell Bwa Drain yw un o’r aneddiadau mwyaf yn yr ardal o’r Oes Haearn. Oddi yno, mae yna olygfeydd pell dros ddyffryn Rheidol, yr holl ffordd i’r arfordir.

Ym mhentref Capel Bangor – Penllwyn, mae afon Melindwr yn ymuno ag afon Rheidol. Mae un o dafarndai’r pentref yn gartref i fragdy lleiaf Cymru, ac mae eglwys Dewi Sant yn lle llawn llonyddwch, dafliad carreg o ffordd yr A44. Os dilynwch chi’r ffordd i fyny’r dyffryn i gyfeiriad Ponterwyd, fe gyrhaeddwch chi Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Mae tomenni gwastraff yr hen ddiwydiant cloddio plwm ac arian i’w gweld hwnt ac yma ar hyd llethrau dyffrynnoedd Rheidol a Melindwr. Gerllaw, mae atyniad y Silver Mountain Experience yn Llywernog yn gyfle i chi gael cipolwg ar fywyd y mwynwyr. Ar y rhostir agored uwchben Llywernog, gall beicwyr mynydd ymarfer eu sgiliau yng Nghanolfan Bwlch Nant yr Arian, gan ddilyn llwybrau newydd a llwybrau lle bu cenedlaethau o fwynwyr yn cerdded.

I orffen ei thaith, mae afon Rheidol yn ymlwybro ar hyd y dolydd gwastad i’r môr yn Aberystwyth. Yno, mae’n llifo dan bont Trefechan i’r harbwr, lle mae’n ymuno ag afon Ystwyth.