Mynyddoedd Cambrian

Mynyddoedd Cambrian yw un o’r ardaloedd gwyllt anghysbell olaf yn ne Ynysoedd Prydain. Yno, mae pentrefi bach yn swatio’n glyd ar ymylon y rhostir eang gwyllt. Ac er mai ychydig iawn o ffyrdd sy’n croesi’r mynyddoedd, mae’r golygfeydd yn wledd i’r llygaid. Mae’r mynyddoedd wedi bod yn denu ymwelwyr o bell ac agos ers cenedlaethau. Yn eu plith roedd y teithiwr a’r awdur o’r 19eg ganrif, George Borrow. Yn ei lyfr Wild Wales, mae’n disgrifio’r dirwedd fel hyn:


‘a lofty mountain in the far distance, a hill right before me, 

and on my left, a meadow overhung by the southern hill’.

Dyw’r mynyddoedd heb newid llawer ers hynny. Maen nhw’r un mor brydferth o dan gwrlid gwyrdd yr haf, carped porffor ac aur grug ac eithin yr hydref, a gorchudd gwyn glân eira’r gaeaf.

O ddringo i ben yr uchaf o bum copa Pumlumon Fawr, yr uchaf o Fynyddoedd Cambria canolbarth Cymru, fe gewch olygfa ddi-dor dros fynyddoedd Eryri a Phen Llŷn i’r gogledd, a Bannau Brycheiniog a’r Preseli i’r de. Tybed oeddech chi’n gwybod mai ‘simnai’ yw ystyr ‘llumon’, ac felly mai ‘y Pum Simnai’ yw ystyr lythrennol yr enw ‘Pumlumon’? Yr Elenydd yw’r enw ar rannau mwyaf anghysbell y mynyddoedd hyn lle mae’r barcud, y cudyll bach, a’r hebog tramor yn magu eu cywion. Mae yno hefyd gors o bwys rhyngwladol.

Afonydd a llynnoedd Mynyddoedd Cambria

Ar lethrau Mynyddoedd Cambria, mae sawl afon fawr yn tarddu o fewn ychydig filltiroedd o’i gilydd. Mae afon Gwy ac afon Hafren, afon hiraf Ynysoedd Prydain, yn tarddu lai na milltir oddi wrth ei gilydd ar lethrau dwyreiniol Pumlumon. Mae hen chwedl yn adrodd yr hanes am daith y ddwy afon hardd hyn ac un o afonydd byr a byrlymus Ceredigion, afon Rheidol, i’r môr. Un diwrnod, fe orchmynnodd eu tad fod y tair yn gadael cartref, gan ddweud y byddai’n rhoi’r holl dir rhwng eu cartref a’r môr iddyn nhw. Fe gododd Hafren yn gynnar a dilyn llwybr hir a throellog i’r môr. Fe ddihunodd Gwy nesaf a dilyn y trywydd mwyaf prydferth i’r môr. Yn olaf, fe ddihunodd Rheidol ac, ar ôl sylweddoli bod angen iddi frysio, fe ddilynodd y llwybr byrraf gan faglu a llamu ar ei hunion i Fae Ceredigion yn Aberystwyth. 

Mae afonydd hiraf Cymru hefyd yn tarddu nid nepell oddi wrth ei gilydd ar fryniau’r Elenydd. Mae afon Tywi’n llifo tua’r de i Fae Caerfyrddin, ac mae afon Teifi’n creu ffin ddeheuol naturiol Ceredigion wrth iddi fynd ar ei hynt i'r môr yn Aberteifi.

Mae ucheldir Ceredigion yn frith o lynnoedd bach, llawer ohonyn nhw wedi’u creu gan rewlifoedd. Ar lethr gogleddol Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol, yn enghraifft o gronlyn marian – pant a naddwyd yn ochr y mynydd gan rewlif.  

Llynnoedd Teifi yw enw’r pedwar llyn sy’n llechu 1,500 troedfedd (455 metr) uwchlaw lefel y môr ger Pontrhydfendigaid: Llyn Teifi, Llyn Hir, Llyn Gorlan, a Llyn Egnant. Dyw abaty Ystrad Fflur ddim ymhell o'r llynnoedd hyn. Oherwydd eu bod mor ddwfn, mae rhai’n credu eu bod yn llynnoedd diwaelod. Roedden nhw’n enwog yn yr Oesoedd Canol hyd yn oed oherwydd eu bod yn llawn llysywod a brithyllod heb eu hail.

Mae cronfeydd dŵr Mynyddoedd Cambria hefyd yn adnabyddus iawn, o lynnoedd hanesyddol Claerwen, Elan, a Chlywedog yn y dwyrain i Nant y Moch a Chwm Rheidol yn y gorllewin.

Pumlumon a'r mynyddoedd arian

Pumlumon Fawr yw mynydd uchaf Mynyddoedd Cambria. Mae’n sefyll 2,467 troedfedd (752 metr) uwchlaw’r môr, y copa uchaf rhwng Cadair Idris yn Eryri a Phen y Fan ym Mannau Brycheiniog. Ond mae pedwar copa arall ym Mhumlumon hefyd:

Pen Pumlumon Arwystli (741m 2,431 troedfedd), Pen Pumlumon Llygad-bychan (727m 2,385 troedfedd), Pumlumon Fach (668m 2,192 troedfedd), a Phumlumon Cwmbiga (622m 2,040 troedfedd). Mae copa arall, y Garn (6,84m, 2,244 troedfedd), hefyd yn rhan o’r grŵp.

Ers cyn cof, bu pobl yn cloddio am fetelau gwerthfawr ym Mynyddoedd Cambria. Mae’r sillafiad Seisnig sy’n cael ei ddefnyddio weithiau ar gyfer Pumlumon, sef Plynlymon, hefyd yn rhyw led awgrymu’r cysylltiad â’r arian a’r plwm a fu’n denu mwynwyr i’r ardal, gan fod y gair Cymraeg ‘plwm’ yn deillio o’r gair Lladin ‘plumbum’.

Erbyn hyn, mae’r dirwedd yn annaearol o dawel, heblaw am gân yr ehedydd a chri’r barcud. Ond mae olion dramatig gorffennol diwydiannol yr ardal i’w gweld hwnt ac yma o hyd: yr olwynion dŵr a’r simneiau sydd wedi’u hadfer ym Mhont-rhyd-y-groes a Chwmsymlog, hen felinau segur Cwmystwyth, a thomen rwbel anarferol ‘Y Carw’ yn y coed ar lethrau Cwm Rheidol. Gallwch weld y domen yn glir wrth i chi deithio ar y trên bach ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol.

Yr Elenydd - lle i gael llonydd 

Gyda nawdd hael tywysogion Cymru a chyfoeth yn deillio o fwyngloddio a bugeilio diadellau o ddefaid yn pori tiroedd maith ar draws y mynyddoedd, cafodd diwylliant Cymraeg y Canol Oesoedd gyfle i flodeuo yn Ystrad Fflur. Yma yn nhawelwch yr abaty anghysbell yng nghesail y mynyddoedd, bu’r mynachod yn cofnodi Brut y Tywysogion – hanes cynnar Cymru – a chasgliad Llyfr Gwyn Rhydderch s'n cynnwys hanes seintiau Cymru a chwedlau'r Mabinogion.  Yma hefyd, medden nhw, y rhoddodd y mynachod loches ddiogel i’r Greal Sanctaidd rhag ymrafael cythryblys y byd canoloesol.

Uwchlaw afon Camddwr, yn swatio’n glyd ym mryniau’r Elenydd, mae capel Soar y Mynydd, un o gapeli mwyaf anghysbell Cymru. Fe gafodd ei adeiladu yn 1822 i wasanaethu ffermwyr a bugeiliaid yr ardal bellennig hon.

Mae pobl yn dal i addoli yng nghapel Soar y Mynydd hyd heddiw, ac mae ymwelwyr o bob rhan o’r byd yn dal i fynd ar bererindod i’r safle hudolus hwn. I gyrraedd capel Soar y Mynydd, rhaid i chi deithio ar hyd ffordd fynydd gul sy’n mynd o Dregaron i Abergwesyn ym Mhowys, neu deithio heibio i Lyn Brianne o Randir-mwyn yn Sir Gâr. O Landdewi Brefi yn Nyffryn Teifi, gallwch deithio ar hyd llwybr mynydd hynafol a phrydferth a fyddai’n cael ei ddefnyddio gynt gan y porthmyn.