Croesi Mynyddoedd Cambria

Mae nifer o ffyrdd yn arwain i Geredigion, ond go brin fod unrhyw un mor ddramatig â’r rheini sy’n croesi Mynyddoedd Cambria. I gael taith hamddenol, gallwch chi ddilyn y ffyrdd dosbarth A sy’n ymlwybro dros ysgwyddau’r bryniau yng ngogledd a de’r sir. Ond os ydych chi’n teimlo’n fwy mentrus, gallwch chi yrru ar hyd y ffyrdd cul sy’n troi a throelli drwy’r rhostiroedd a’r dyffrynnoedd. Ry’n ni’n gwybod bod seiclwyr, beicwyr, a gyrwyr ceir, fel ei gilydd, wrth eu bodd â’r profiad hwn. 


A beth am y rheini sy’n dyheu am antur ar ddwy droed, ar ddwy olwyn, neu ar gefn ceffyl? Wel, fe allwch chi ddilyn yr hen lwybrau hanesyddol ar draws ein rhostiroedd, ein bryniau a’n coedwigoedd. I ddarganfod gwir ysbryd Mynyddoedd Cambria, beth am roi cynnig ar gyfuniad o’r tri?

Llangurig i Aberystwyth

Mae ffordd yr A44 yn estyn yr holl ffordd o Rydychen i Aberystwyth, ac mae hefyd yn cysylltu Ffordd Cambria (yr A470) â Ffordd yr Arfordir (yr A487).

Gydag afon Gwy islaw yn y dyffryn, mae’r ffordd yn croesi Mynyddoedd Cambria o Langurig, gan droelli a dringo’n raddol i fyny’r bryniau i’r man uchaf yn Eisteddfa Gurig (1339 troedfedd / 408 metr). Oddi yno, gallwch chi ddilyn un o’r llwybrau cerdded i gopa Pumlumon.

O Eisteddfa Gurig, mae’r ffordd yn dechrau disgyn drwy gyfres o droeon llydan i Bonterwyd.

Yno, gallwch chi adael y briffordd a theithio i gronfeydd dŵr Nant y Moch lle mae llwybrau eraill sy’n arwain at gopaon Pumlumon yn dechrau. Bydd y ffordd hon yn cau ar gyfer Rali Cymru GB pan fydd ceir rali’n gwibio ar ei hyd. Ond ar adegau tawelach, bydd angen i chi gadw llygad am ddefaid yn pendwmpian ar y ffordd, ac ambell i fuwch ucheldir.

Ar ôl pasio’r prif argae, gallwch chi ddilyn y ffordd fynydd sy’n ymddangos yng nghyfres deledu boblogaidd Y Gwyll i Dal-y-bont. Yno, byddwch chi wedi cyrraedd priffordd arfordirol yr A487 ac un o brif aneddiadau Biosffer Dyfi.

 

Ym Mhonterwyd, gallwch chi hefyd droi tua Phontarfynach a theithio ar hyd yr A4121 i Aberystwyth.

Os byddwch chi'n parhau ar eich siwrnai ar hyd yr A44, byddwch chi'n cyrraedd Llywernog. Yno, fe welwch chi atyniad y Silver Mountain Experience, a chanolfan goedwigaeth Bwlch Nant yr Arian. Mae hon yn ganolfan bwydo barcutiaid ac yn lle gwych i fynd am dro ac i feicio mynydd. Yn ôl ar yr A44, byddwch chi'n disgyn drwy Goginan i Gapel Bangor lle mae afon Rheidol yn llifo drwy’r dyffryn llydan i Aberystwyth.

Cwm Elan i Gwmystwyth

Awydd tipyn o antur ar eich ffordd i Geredigion? Os felly, beth am adael Ffordd Cambria (yr A470) yn Rhaeadr Gwy, a dilyn yr arwyddion i Gwm Elan? Gallwch chi aros i weld y llynnoedd mawr, cyn mynd yn eich blaen ar hyd y B4574 i Gwmystwyth – un o ffyrdd prydferthaf Ynysoedd Prydain.

Mae’r ffordd gul yn disgyn o fwlch caregog ar ben y llwyfandir eang ar flaenau Cwm Elan, gan ddilyn afon ifanc Ystwyth i ddyffryn a naddwyd gan rewlif.

Fe welwch chi fod marian caregog y dyffryn serth wedi’i fritho â thomenni rwbel ac adeiladau segur, atgof o’r hen ddiwydiant mwyngloddio llewyrchus sy’n rhan o hanes y dyffryn erbyn hyn. 

Ar ôl pasio heibio i’r clwstwr o dai a’r capel ym mhentref Cwmystwyth, mae’r ffordd yn sgubo drwy goetir derw hynafol.

Pan gyrhaeddwch chi fforch yn y ffordd, ewch i’r chwith i gyrraedd ystad goediog yr Hafod a phentref Pont-rhyd-y-groes, neu ewch yn eich blaen ar hyd y B4575 i Bontarfynach a’i rhaeadrau enwog.

Ar ael y bryn, cyn i chi ddisgyn i Bontarfynach, fe welwch chi'r Bwa, porth o garreg a godwyd i nodi Jiwbilî Aur y Brenin Siôr y Trydydd yn 1810.

Dros Fwlch Abergwesyn i Dregaron

Dim ond ugain milltir o hyd yw’r ffordd gul rhwng hen dref ffynnon Llanwrtyd ar yr A483 a Thregaron, ond fe all deimlo’n hirach na hynny. Ac mae’n sicr y byddwch chi am gymryd eich amser i fwynhau’r golygfeydd godidog, ac aros i weld rhaeadrau a phyllau Cwm Gwesyn – lle poblogaidd i gael picnic.

Ar ben Drygarn Fawr, y man uchaf a mwyaf anghysbell ar dir comin eang Abergwesyn, fe welwch chi garnedd o’r Oes Efydd. Oddi yno, fe gewch chi olygfeydd pell dros Bumlumon a Bannau Brycheiniog.

Bydd angen i chi fod mewn gêr isel iawn i fynd igam-ogam o amgylch troeon tynn Grisiau’r Diafol sy’n enwog ymhlith gyrwyr a beicwyr fel ei gilydd.

Mae’r dirwedd yn wyllt fan hyn: rhostir eang agored â border o goedwigoedd pinwydd o’i amgylch. Fe welwch chi nentydd yn rhaeadru dros y creigiau i byllau islaw, ac fe all fod rhaid i chi aros i’r defaid sy’n lolian ar y tarmac twym symud – yn anfoddog – o’ch ffordd.

Prin iawn yw’r arwyddion o’r ddynoliaeth yn y bryniau hyn: gridiau gwartheg, ambell bont isel dros nentydd sy’n llifo’n gyflym (ac sy’n amhosibl eu pasio pan fyddan nhw’n llifeirio ar ôl glaw trwm y gaeaf), ac ychydig o hen gorlannau neu fythynnod. Fe welwch chi hefyd flwch post a blwch ffôn coch lle mae’r ffordd yn croesi dyffryn Camddwr.  

Dilynwch yr arwyddion i Soar y Mynydd, y capel gwyn diarffordd a godwyd i wasanaethu bugeiliaid y bryniau. Gerllaw, mae cronfa ddŵr Llyn Brianne. Os dilynwch chi’r ffordd sy’n pasio heibio i ymyl y llyn, byddwch chi'n cyrraedd Rhandir-mwyn a gwarchodfa natur Gwenffrwd Dinas sy’n eiddo i’r RSPB. Yno, mae ogof sy’n gysylltiedig â Twm Sion Cati, yr arwr chwedlonol o Dregaron.

Ymhen hir a hwyr, bydd y ffordd yn disgyn rhwng creigiau serth Cwm Berwyn i Dregaron, a byddwch chi'n gweld coedwigoedd llydanddail – derw, ynn, bedw a cherddin – a dolydd gwyrddion pen uchaf dyffryn Teifi o’ch blaen.

I Lanbedr Pont Steffan a’r arfordir

Mae ffordd yr A482 yn ymlwybro ar hyd ysgwydd ddeheuol Mynyddoedd Cambria drwy Lanbedr Pont Steffan (Llambed yn lleol)  i Aberaeron ar arfordir Ceredigion.

Mae’r ffordd yn dechrau dringo yn Llanwrda, ger Llanymddyfri, yn Nyffryn Tywi. Mae’n troi a throelli drwy ddyffrynnoedd coediog dwfn a thros gyfres o gribau eang sy’n gwahanu afon Tywi, afon Cothi, ac afon Teifi. 

Gan basio mwyngloddiau aur Rhufeinig Dolaucothi ym Mhumsaint, mae’r briffordd yn croesi afon Cothi ac afon Twrch. Nid nepell o’r fan hyn, gallwch chi droi tua’r gogledd a dilyn hen ffordd Rufeinig Sarn Helen, ffordd fynydd gul â golygfeydd gwych, ar draws y mynydd rhwng pentref Ffarmers yn Sir Gâr a Llanfair Clydogau yng Ngheredigion.

Os byddwch chi'n parhau ar eich siwrnai ar hyd yr A482, byddwch chi'n gweld afon Teifi yn mynd ar ei hynt ar draws y bryniau, wrth i chi ddisgyn drwy Gwmann i lawr y dyffryn a’i lifddolydd. Yna, byddwch chi'n croesi’r afon dros Bont Steffan ac yn cyrraedd Llambed.

http://llanfairclydogau.com/