
Tregaron: tref farchnad Gymreig
Ar fap y cartograffydd o’r 16eg ganrif, John Speed, Tregaron yw’r unig dref Gymreig yng Ngheredigion. Trefi Normanaidd yw'r tair tref arall – Aberystwyth, Aberteifi a Llambed. Fe gafodd Tregaron siarter i gynnal marchnad yn 1292, ac mae marchnad da byw yn dal i gael ei chynnal yn Nhregaron hyd heddiw.

Mae amaethyddiaeth yn rhan annatod o fywyd Tregaron, gyda’r ardal yn arbenigo mewn defaid a gwartheg cadw. Mae nifer o fridwyr cobiau a merlod Cymreig yn yr ardal hefyd, yn ogystal â hyfforddwyr sy’n arbenigo mewn paratoi ceffylau ar gyfer rasio harnais.
Y Talbot - tafarn a gwesty hanesyddol
Ar brif sgwar y dref saif Y Talbot, tafarn hanesyddol sy'n dyddio'n ol i'r 17 ganrif. Yma byddai'r porthmyn yn ymgynull cyn dechrau ar eu taith dros y mynydd am borfeydd bras a marchndoedd Lloegr. Mae'r adeiled rhestredig gyda lloriau cerrig, distiau hynafod a thanau agored wedi cadw ei gymeriad ond wedi cael ei foderneiddio'n ofalus a chelfydd i gynnig llety a bwyd o'r safon uchaf.
Mae hanes lleol yn son bod eliffant, ddaeth i'r dref gyda syrcas deithiol yn 1848, wedi marw ar ol yfed dwr oedd, mae'n debyg, wedi ei wenwyno gyda phlwm o'r mwyngloddiau lleol, Dwedir i'r eliffant gael ei gladdu tu ol i'r Talbot, ond er i archeolegwyr chwilio yn yn 2011, ni chafwyd hyd i olion yr eliffant.
Henry Richard - 'Yr Apostol Heddwch'
O flaen y Talbot, mae cerflun o un o feibion enwocaf Tregaron, Henry Richard. Bu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Merthyr Tudful, a bu’n ymgyrchwr diflino dros faterion Cymreig ac anghydffurfiol, rhywbeth a barodd iddo gael ei adnabod fel ‘yr Aelod dros Gymru’. Bu’n ymgyrchydd amlwg yn erbyn caethwasiaeth, a fe hefyd oedd sylfaenydd ac ysgrifennydd cyntaf yr Undeb Heddwch, rhagflaenydd Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig fel y mae erbyn heddiw. Ac yntau’n un o hoelion wyth y mudiad dirwestol, mae cerflun Henry Richard, wrth reswm, â’i gefn at y Talbot.
Mae’r eglwys, sy’n sefyll uwchlaw afon Brenig, wedi’i chysegru i Sant Caron. Fe godwyd Capel Bwlchgwynt, adeilad amlwg arall, yn 1775 ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd y dref.

Mae Tregaron wedi’i lleoli mewn man strategol i groesi Mynyddoedd Cambria. Yno, byddai’r porthmyn yn casglu da byw ynghyd i’w gyrru ar hyd llwybrau hynafol ar draws y mynyddoedd i’w pesgi ar borfeydd Swydd Henffodd, cyn mynd â nhw i farchnadoedd canolbarth Lloegr, Llundain, a de-ddwyrain Lloegr.
Ar y ffordd i Lyn Brianne, mae capel Soar y Mynydd yn swatio yng nghysgod y bryniau. Fe gafodd y capel ei adeiladu yn 1822 gan dad Henry Richard i wasanaethu’r ffermwyr a’r porthmyn. Mae’n bur debyg mai hwn yw capel mwyaf anghysbell a thangnefeddus Cymru.

Ryw chwe milltir o Dregaron, mewn dyffryn coediog prydferth, mae adfeilion abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn dal i sefyll ar y safle tawel lle bu’r mynachod yn addoli ac yn astudio ganrifoedd yn ôl. Er i goron Lloegr ddinistrio’r abaty yn ystod rhyfeloedd yr Oesoedd Canol ac i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd yn y 16eg ganrif, mae Ystrad Fflur yn dal i fod yn eicon diwylliannol pwysig i bobl Cymru.
Cors Caron - gwlyptir o bwys byd-eang
Cors Goch Teifi yw enw'r gwlyptir mawr sydd bron â bod yn llenwi pen uchaf dyffryn Teifi. Mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol 2,000 erw. Mae hon yn gors o bwys byd-eang, gan mai hon yw un o’r enghreifftiau mwyaf cyflawn o dirwedd cyforgors yn y Deyrnas Unedig. Fe ddechreuodd y cromenni dwfn o fawn ffurfio dros 12,000 o flynyddoedd yn ôl, ac maen nhw’n dal i dyfu o hyd.
Ewch am dro ar hyd y llwybr pren i ganol y gors i fwynhau awren o lonyddwch ac i wylio’r bywyd gwyllt.

Rasus Tregaron
Dair gwaith y flwyddyn - ym mis Mai, Awst a Medi, mae'r byd trotian yn ymgynnull yn Nhregaron ar gyfer gorchest rasio ceffylau mewn harnais. Mae Clasur Cymru - Welsh Classic yn ras o'r bri uchaf o fewn rasio harnais Prydain gyda gwobrau gwerth £100,000, a fydd yn gwneud y ras y gyfoethocaf o’i math yn y byd.





