Aberteifi - hen dref sirol hanysyddol

Aberteifi yw’r porth hanesyddol i Geredigion o’r de-orllewin. Mae'r dref wedi'i lleoli mewn man strategol wrth y groesfan gyntaf o'r môr ar draws afon Teifi. Yn y 18fed ganrif, roedd yn borthladd pwysig ar ymyl yr Iwerydd.

 


Cardigan lies at the first, strategic bridging point across the river Teifi, which, along with access to the woods and rich agricultural land of its hinterland, gave it advantages that are being reinvented and reinvigorated today, just as the Lonely Planet  guidebook suggests:

"Cardigan has the feel of a town waking from its slumber. An important entrepôt and herring fishery in Elizabethan times, it declined with the coming of the railway and the silting up of the River Teifi in the 19th century. Now its surrounding natural beauty, hip craft shops, home-grown fashion labels, gourmet food stores and homely B&Bs are bringing it back to life. Its alternative arts scene is growing and the jumble of historical architecture that lines its streets and lanes has been given a new lease of life. Most importantly, Cardigan Castle has been restored and now serves as a hub of Welsh language, culture and performance."

Castell Aberteifi

Fe adeiladwyd castell cyntaf yr ardal gan y Normaniaid yn 1093. Dros y ganrif a hanner nesaf, bu brwydro taer dros y castell, ac fe newidiodd ddwylo 16 o weithiau. Yn 1171, fe adeiladodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gastell carreg ar y safle gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf. O lannau afon Teifi, fe allwn ni weld muriau’r castell hwnnw heddiw, uwchlaw’r bont hynafol y bu tywysogion Cymru, marchogion Normanaidd, a brenhinoedd Lloegr yn ymladd drosti lawer gwaith.

Ar ôl i’r gwaith adeiladu ddod i ben, fe gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ŵyl i ddathlu. Hon, yn ôl pob tebyg, oedd yr Eisteddfod gyntaf, ac mae’r traddodiad yn dal i fod yn fyw ar hyd a lled Ceredigion a Chymru heddiw.

Yn 2015, fe ailagorodd Castell Aberteifi ar ôl llawer o waith adfer. Yno, fe welwch chi arddangosfa sy’n adrodd hanes y castell dros 900 mlynedd, yn ogystal â gerddi, ardal chwarae i blant, siop anrhegion, bwyty, a llety. Mae’r castell hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau o bob math, gan gynnwys cyngherddau pop a gwerin, a ffeiriau treftadaeth.  Gallwch chi hyd yn oed ddysgu i ganu’r delyn yno!

Aberteifi: porthladd a thref farchnad hanesyddol

Rhoddodd Harri'r Wythfed siarter i Aberteifi yn 1543. Erbyn y 18fed ganrif, Aberteifi oedd y porthladd pwysicaf yn ne Cymru. Roedd yno ddiwydiant penwaig a diwydiant adeiladu llongau ffyniannus, a byddai’r llongau masnach yn cludo pysgod, llechi, brics, rhisgl mân, ŷd, a chwrw. 

Fe adawodd llawer o ymfudwyr borthladd Aberteifi i chwilio am fywyd newydd yng Ngogledd America a thu hwnt.

Perlau pensaernïol

Mae llawer o adeiladau Aberteifi, gan gynnwys Tŷ’r Castell, yn dyddio o oes y Sioriaid. Ond mae tafarn hynaf y dref, y Llew Du, yn dyddio o’r 12fed ganrif, er iddi gael ei hestyn yn ystod yr 17eg ganrif. Mae hanes tafarn y Llew Coch ar lan yr afon yn estyn nôl i’r 1630au. Os edrychwch chi’n ofalus o dan bont Aberteifi, fe welwch chi rai o’r bwâu gwreiddiol o’r 17eg ganrif islaw’r rheini a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Hen garchar Aberteifi oedd un o’r adeiladau cynharaf a gynlluniwyd gan y pensaer John Nash. Erbyn hyn, mae’n dŷ llety cyfforddus.

Ar lan ddeheuol afon Teifi, mae’r hen stordai o oes Fictoria yn siopau, swyddfeydd a fflatiau erbyn hyn. Ar y Stryd Fawr, fe agorodd adeilad Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad yn 1860, yr adeilad dinesig cyntaf i gael ei adeiladu gan ddilyn egwyddorion cynllunio John Ruskin.

Digwyddiadau lliwgar

Un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr y dref yw Dydd Sadwrn Barlys. Mae’r dathliad o fywyd cefn gwlad yn digwydd ar ddydd Sadwrn olaf mis Ebrill bob blwyddyn. Bydd ceffylau gorau’r ardal, a thractors a pheiriannau o bob math, yn llenwi’r strydoedd â lliw. Bydd y dref hefyd yn llawn bwrlwm adeg gorymdaith llusernau’r gaeaf – yr arwydd cyntaf fod y Nadolig yn agosáu.

Aberteifi artistig

Mae’r celfyddydau’n fyw ac yn iach yn Aberteifi, gyda dwy theatr a nifer o leoliadau lle gallwch chi glywed cerddoriaeth fyw. Gyda theatr, sinema, oriel a chaffi, mae Theatr Mwldan yn llwyfannu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau celfyddydol ac adloniant proffesiynol drwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd yn gartref i Ŵyl Fawr Aberteifi, wythnos gyfan o gyngherddau, cystadlaethau, a digwyddiadau celfyddydol.

Gerllaw, mae Theatr y Byd Bychan yn cynnal perfformiadau, gan gynnwys theatr bypedau, dosbarthiadau ioga a sgiliau syrcas, a llu o ddigwyddiadau eraill, llawer ohonyn nhw’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Mae Castell Aberteifi’n lleoliad bendigedig ar gyfer cyngherddau, ac mae nifer o sêr y byd opera a’r sîn bop wedi ymddangos ar y llwyfan ar lawnt y castell.

Yn Neuadd y Dref, mae llawer o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys dawnsfeydd amser te, yn cael eu cynnal; ac mae Oriel y Gyfnewidfa Ŷd yn arddangos gwaith arlunwyr adnabyddus a lleol.

Yn Stiwdio 3, fe gewch chi hyd i oriel a gweithdy lle mae cyrsiau crefft o bob math yn cael eu cynnal.

Gyferbyn â’r castell, mae Oriel Canfas yn arddangos gwaith arlunwyr cyfoes; ac mewn stryd tu ôl i’r castell, fe gewch chi hyd i oriel a siop Custom House. 

Tra byddwch chi’n crwydro o amgylch siopau ac orielau Aberteifi, cofiwch alw heibio i Awen Teifi, siop lyfrau Cymraeg y dref, lle cewch chi hefyd ddewis o ddarluniau gan arlunwyr lleol.

Cadwch lygad hefyd am gardigan enfawr Aberteifi, cardigan sy’n darlunio hanes y dref mewn gwlân.

Siopa yn Aberteifi

Mae marchnad dan do Aberteifi wedi’i lleoli yn Neuadd y Dref ar ganol y Stryd Fawr. Yn wreiddiol, byddai marchnad cig a llaeth y dref yn cael ei chynnal yno. Erbyn heddiw, mae’n ardal siopa brysur gyda masnachwyr annibynnol lleol yn cynnal dros 50 o stondinau. Mae Marchnad Neuadd y Dref ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn.

Yn siopau annibynnol Aberteifi, fe gewch chi hyd i nwyddau o safon, crefftau lleol, gwaith celf diddorol, a bwyd lleol ffres: bara, cig, ffrwythau a llysiau, heb sôn am gwrw lleol a chacennau cartref. Gallwch chi hefyd brynu dillad, esgidiau, llyfrau, anrhegion, beiciau, nwyddau metel, a llawer mwy.