Bwyta allan

Ceredigion yw un o ardaloedd amaethyddol cyfoethocaf Cymru, enwog am ei chynnyrch llaeth yn ogystal a bwyd môr Bae Ceredigion, pysgod o'r afon Teifi a chig oen Mynyddoedd Cambrian.  Mae llefydd arbennig i fwyta allan, gyda bwydlenni wedi eu paratoi yn ofalus gan gogyddion sy'n frwd am ddefnyddio y cynnych lleol gorau. 

O frecwast, te prynhawn a chinio nos, bydd digon o ddewis i blesio'ch poced a'ch blas.  

Mwynhewch ddetholiad o gawsiau, bara a phiclau blasus gyda gwydriaid o gwrw lleol. Gwnewch yn siwr eich bod cael pysgod a sglodion ar lan y môr, neu sewin ffres o'r Teifi gyda tato newydd, neu yn y gaeaf, bowlen o gawl twym gyda tafell o fara a chaws.


Chwiliwch am lefydd ar draws Ceredigion - o gaffis glan môr i dafarndai cysurus cefn gwlad - lle gallwch ddewis o fwydlen sy'n gwneud y gorau o gynnyrch lleol, boed hynny'n ginio dydd Sul o gig oen, eidion neu borc, cyri, pitsa neu wledd lysieuol. 

Defnyddiwch y rhestrau isod, a dilynwch y linciau i gael mwy o wybodaeth am y bwydlenni ac amseroedd agor y bwytai.  

Rhestr llefydd i fwyta allan yn Aberystwyth (diweddarwyd yn Ebrill 2025) 

Rhestr llefydd i fwyta allan yn yr ardal i'r gogeldd a dwyrain o Aberystwyth  - Pontarfynach, Tregaron ayyb (diweddarwyd Ebrill 2025)

Rhestr llefydd i fwyta yn Aberaeron (diweddarwyd Ebrill 2025) 

Rhestr llefydd i fwyta y ardal Aberteifi (diweddarwyd Ebrill 2025)