O westai neu wely a brecwast glan afon neu glan môr i ddewis gwych o dafarndai gwledig, gall Ceredigion gynnig llety cyfforddus i chi mewn amgylchedd hanesyddol gyda chyfleusterau a chwaeth fodern.
Fe gewch ddewis o fythynnod gwyliau ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad Ceredigion gyda golygfeydd syfrdanol a digon o le i ymlacio a mwynhau gyda theulu a ffrindiau. Mae meysydd carafanau a gwersylla hefyd mewn lleoliadau da ar gyfer traeth neu wyliau cefn gwlad.
Awydd cysgu lle bu tywysogion unwaith yn teyrnasu? Neu fwynhau egwyl foethus yn hen gyfrinfa hela gŵr bonheddig yn y goedwig?
Gallwch fod yn agos at y traeth mewn 'sea container' neu hen gerbyd rheilffordd sydd wedi'u trosi'n llety, neu hyd yn oed hen gell carchar - ond eich dewis chi fydd pryd i gyrraedd a gadael, wrth gwrs!
Does dim gwell na deffro i synau tyner nant neu adar y coetir mewn hen felin neu ysgubor. Bydd plant wrth eu bodd ar lety sy'n gysylltiedig a fferm.
Asiantaeth leol dan reolaeth teuluol yw West Wales Holiday Cottages, sydd a'i bencadlys yn Aberporth. Maent yn cynrychiolli 260 o lety gwyliau ar draws Ceredigion, ond yn cynnal ymdeimlad o gymuned a hunaniaeth unigol y perchnogion a'u llety. Yr amcan yw trefnu'r cyfuniad perffaith o lety a gwesteion.
Mae yna ddewis da o eiddo lle mae digon o le i ddod a sawl cenhedlaeth o'r teulu neu grwp o ffrindiau at ei gilydd.
Beth am aros mewn rhywle unigryw fel cwt bugail, fan dyn sioe - mae dewis o letyau amgen a diddorol hefyd.
Wrth ddewis eich llety gwyliau, chwiliwch am farc ansawdd Cymru/Wales o gynllun asesu ansawdd cenedlaethol swyddogol Cymru, yna gallwch fod yn hyderus ei fod wedi cael ei wirio cyn i chi gofrestru.
Llety a gwasanaeth ardal Aberystwyth wedi ei ddiweddaru o restri a ddarparwyd gan Croeso Cymru/ AA, Ionawr 2025
Llety a gwasanaeth ardal de Ceredigion wedi ei ddiweddaru o restri wedi eu darparu gan Croeso Cymru / AA, Ionawr 2025
Areas covered: Aberaeron, New Quay, Cardigan, Teifi Valley
Llety hunan -ddarpar Aberystwyth a gogledd Ceredigion ddiweddarwyd o restri a ddarparwyd gan Croeso Cymru / AA, Mehefin 2025
Ardaloedd: Aberystwyth, Borth a thua Tregaron
Llety hunan-ddarpar de Ceredigion - wedi ei ddiweddaru o restri a ddarparwyd gan Croeso Cymru / AA. Mehefin 2025
Ardaloedd: Aberaeron, Cei Newydd, Llangrannog, Aberporth, Aberteifi, Llandysul a Lanbedr Pont Steffan
Mesydd carafannau a gwersyllta Ceredigion (wedi ei ddiweddaru o restri wedi eu darparu gan Croeso Cymru /AA ym mis Ionawr 2025
Llety amgen Ceredigion - hosteli, glampio, llety prifysgol wedi ei ddiweddaru o restri a ddarparwyd gan Croeso Cymru, Mehefin 2025
Llety ger Llwybr Arfordir Ceredigion - rhestr wedi ei pharatoi gyda gwybodaeth gan Croeso Cymru ac wedi ei diweddaru ym mis Ionawr 2025