
Fe gafodd Castell Aberteifi ei adfer yn ddiweddar ac mae’n cynnal llawer o ddigwyddiadau, gan gynnwys cyngherddau a ffeiriau bwyd a chrefftau. Gallwch hefyd fynd i wersi Cymraeg neu ddysgu i ganu’r delyn yno. Mae arddangosfa barhaol - y cyntaf o'i bath yn y byd - yn adrodd stori'r Eisteddfod ac yn cynnwys eitemau na ellir eu gweld yn agos fel arfer, fel coron eisteddfod.

Dathlu 850 mlynedd o’r Eisteddfod gyda’r Garreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys
Bydd taith ddiwylliannol wythnos o hyd ar draws gorllewin Cymru yn nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yr haf hwn.
Bydd Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn teithio trwy drefi a phentrefi lleol cyn cyrraedd pen ei daith yng Nghastell Aberteifi lle bydd dathliad cyhoeddus.
Wedi’i ddisgrifio fel ‘gorymdaith enfawr a dathliad trochol’, bydd yr Arglwydd Rhys – sylfaenydd y traddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol – yn deffro yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi ar 19 Mehefin. O’r fan honno bydd yn teithio i leoliadau sy’n gysylltiedig â beirdd cadeiriog yr Eisteddfod, gyda seremonïau safle-benodol wedi’u creu gyda chymunedau lleol a fydd yn cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones, y cerddor Mari Mathias, a’r perfformiwr Eddie Ladd.
Canolbwynt y prosiect fydd gorymdaith drwy strydoedd Aberteifi ar 27 Mehefin, dan arweiniad pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys wedi’i greu gan Theatr Byd Bach, a’i gi Teifi wedi’i greu gan Skeleton Crew. Bydd yr orymdaith yn dod i ben ar y cei, lle bydd beirdd cyfoes a chadair Eisteddfod eleni yn cyrraedd ar flotilla ar yr afon, a’r goron ar gefn ceffyl, cyn i gynulleidfaoedd gael eu harwain i’r castell ar gyfer dathliad celfyddydol ar raddfa fawr i nodi 850 mlynedd o draddodiad.
Dywedodd Marc Rees, arweinydd creadigol y prosiect, fod y pen blwydd yn cynnig cyfle prin: “Rydw i wedi gwirioni fy mod wedi cael fy ngofyn i helpu i lunio’r garreg filltir hon. Mae fy ngwaith yn ymateb i safleoedd a chymunedau ac yn ail-ddychmygu digwyddiadau hanesyddol trwy lens gyfoes, aml-gelfyddydol. Mae’r pen blwydd yma’n gynfas i anrhydeddu gwaddol yr Arglwydd Rhys, ac rwy’n edrych ymlaen i ddod â’r foment hanesyddol hon yn fyw.”
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Gan ddod â chymuned, treftadaeth a pherfformiad cyfoes ynghyd, mae Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn argoeli i fod yn ddathliad pwerus o’r Eisteddfod Genedlaethol, gan anrhydeddu ei gwreiddiau wrth edrych ymlaen at ei dyfodol.”
Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi lle cystadlodd beirdd, cerddorion a pherfformwyr am anrhydedd y gadair farddol. Sefydlodd yr achlysur hwn draddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gŵyl deithiol ddiwylliannol fwyaf Ewrop sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a threftadaeth.
Seremonïau’r Eisteddfod
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn symud o le i le bob blwyddyn, a bydd seremoni gyhoeddi'n cael ei chynnal flwyddyn cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal. Fel arfer, bydd y seremoni'n cael ei chynnal yng Nghylch yr Orsedd. Gallwch weld meini Cylch yr Orsedd yng nghastell Aberystwyth ac mewn parciau yn Aberteifi a Llambed.
Mae nifer o seremonïau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod hefyd. Efallai mai seremoni cadeirio’r bardd yw’r enwocaf ohonyn nhw. Bob blwyddyn, bydd cadair newydd yn cael ei chreu, a bydd y bardd buddugol yn cael cadw’r gadair. Gallwch weld casgliad o gadeiriau eisteddfodol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llawer ohonyn nhw wedi’u cerfio’n gain â symbolau o bob math. Tybed allwch chi adnabod pa un o'r cadeiriau eisteddfodol a welir yma a roddwyd gan Gymry Seland Newydd, er enghraifft?

Mynd o 'steddfod i 'steddfod yng Ngheredigion
Heddiw, mae’r eisteddfod fodern yn ŵyl sy’n cynnwys cystadlaethau barddoni, llefaru, dawnsio, drama, celf a chrefft, a llawer mwy. Mae traddodiad eisteddfodol Ceredigion yn gryf, gydag eisteddfodau lleol yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi ledled y sir. Mae’r eisteddfodau hyn yn rhan o deulu o eisteddfodau sy'n cael eu cynnal ym mhob rhan o'r byd, o Awstralia i Batagonia.
Os cewch chi gyfle i fynd i eisteddfod, fe gewch chi flas ar ddigwyddiad cymunedol traddodiadol sy’n dangos diwylliant byw yr ardal.
Fel arfer, bydd eisteddfodau’n cynnwys dau fath o gystadlaethau:
• cystadlaethau llwyfan (e.e. canu, llefaru, actio, dawnsio, offerynnau cerdd)
• cystadlaethau gwaith cartref (e.e. llenyddiaeth, cyfansoddi, celf a chrefft).
Fel arfer, bydd eisteddfodau pentref yn cael eu cynnal mewn capel neu neuadd bentref. Bydd rhai’n para' drwy’r prynhawn a’r nos, bydd eraill yn para' penwythnos cyfan.

Mae tymor yr eisteddfodau bach yn estyn o fis Medi tan ganol mis Gorffennaf. Bydd seibiant ym mis Awst pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal. Beth am fynd i eisteddfod i fwynhau gwledd o ganu a llefaru, y cyfan yn Gymraeg, yng nghwmni doniau lleol a rhai o sêr y dyfodol?

Y gadair a’r goron yw’r prif wobrau barddonol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel arfer, bydd y gadair yn cael ei rhoi am gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, a’r goron yn cael ei rhoi am gasgliad o gerddi heb gynghanedd. Mae nifer o feirdd Ceredigion wedi ennill y gwobrau hyn dros y blynyddoedd, ond llond dwrn yn unig sydd erioed wedi cyflawni’r dwbl, a chipio cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol. Un o’r rheini yw Donald Evans o Dalgarreg – ac fe gyflawnodd e’r gamp ddwywaith.
Mae llawer o enillwyr yr eisteddfodau lleol yn sêr cenedlaethol a rhyngwladol erbyn hyn. Bob blwyddyn, bydd cystadlu brwd yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc hefyd, gyda’r arlwy’n amrywio o lenyddiaeth a cherddoriaeth i gomedi.







