Mae 100 o wneuthurwyr proffesiynol o bob cwr o'r DU wedi cael eu dethol i arddangos yng Ngŵyl Grefftau Cymru gan gynnwys y crochenydd lleol Peter Bodenham o Landudoch, yr artist Ruth Packham o'r Borth, sy'n adnabyddus am ei hadar tecstilau hynod a'r gwehydd Llio James, sy'n wreiddiol o Dalybont.

Digwyddiadau Capital of Craft LIVE
Dros dridiau Gŵyl Grefftau Cymru, bydd The Capital of Craft Live yn cael ei gynnal yn Ystafell Tŵr Castell Aberteifi. Mae Capital of Craft Live yn cynnwys sgyrsiau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau panel gyda gwneuthurwyr blaenllaw, gan archwilio pwysigrwydd gwneud a dyfnder ymarfer crefft yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi archebu eich sedd ar gyfer Capital of Craft Live i osgoi cael eich siomi.
Yn hanesyddol, gwlân oedd y diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae Symposiwm Prifddinas y Crefftau yn archwilio ei le mewn hanes, ei gysylltiadau â'r fasnach gaethweision yn y gorffennol a sut mae ymarferwyr cyfoes yn ymateb i wlân a gwehyddu.

Cerddoriaeth a Gwledda
Gwnewch Ddiwrnod ohono! Dewch am y diwrnod cyfan! Dewch yn newynog, ymgollwch yn y synau a blaswch bob eiliad. Paratoir bwyd yr Ŵyl gan Fwyty 1176 yng Nghastell Aberteifi, a fydd yn gweini coffi barista, cacennau hyfryd, saladau ffres, brechdanau blasus a danteithion tymhorol drwy gydol y diwrnod. Yn newydd ar gyfer eleni, bydd cyfres ddymunol o ffefrynnau bwyd stryd yn ymuno â’r wledd, gan ychwanegu mwy o flas, lliw a dewis.
Mae Gorllewin Cymru yn frith o ddoniau cerddorol a bydd ein cerddoriaeth fyw yn bywiogi’r ŵyl, o werin draddodiadol a chlasurol i fandiau mawr, pop synth a jazz sipsiwn. Cewch brofi perfformiadau bywiog, rhythmau hamddenol ac egni dyrchafol wrth i chi grwydro, siopa a dadflino, a’r cyfan cyn i ni gau am 5pm. Perffaith! Perffaith!

Mae nodweddion eraill Gŵyl Grefftau Cymru yn cynnwys llwybr cerfluniau yng ngerddi’r Castell, bwyd a diod lleol blasus a rhaglen o gerddoriaeth fyw eclectig o Gymru a Lloegr.
Archebwch weithdy a rhowch gynnig ar grefft
Mae mwynhau dwy awr o ymlacio, gwneud a dysgu sgil newydd yn rhan bwysig o brofiad yr Ŵyl Grefft. Mae’r gweithdai’n rhoi cipolwg ar y sgil, yr amynedd a’r dycnwch sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr proffesiynol, mae’n helpu i egluro gwerth y gwaith ac mae’n hollol ddifyr!
Gallwch archebu lle i gweithdy creffftio dan arweiniad 'Make it in Wales' sy'n cynnwys argraffu, creu cywiath gyda darnau o ddefnydd o Felin Tregwynt, marblo a macrame.
Teuluoedd
Dros y penwythnos yn y castell, bydd Labordy Crefftau Plant yn cynnig cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl. Cefnogir y gweithgareddau gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Cered - Menter Iaith Ceredigion a Walden Arts. Mae'r sesiynau yma yn rhai galw heibio ac am ddim.

Trywydd crefftau tref Aberteifi
Mae trefnwyr Gŵyl Grefftau Cymru wedi partneru gyda Oriel Myrddin a chwech lleoliad arbennig yn Aberteifi i greu trywydd crefftau cyfoes ar draws y dref fydd yn arddangos gwaith newydd gan chwe gwneuthurwr dawnus o bob rhan o Gymru. Gwahoddwyd pob gwneuthurwr i ymateb i weithiau celf o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Mae’r gwaith a gomisiynwyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfryngau artistig, gan gynnwys serameg, tecstilau a gwehyddu helyg, i ailddehongli gweithiau celf o’r Casgliadau Cenedlaethol. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, y nod yw gwneud y casgliadau gwerthfawr hyn yn fwy hygyrch ac atyniadol i bawb.
Mwy na phenwythnos
Yn ogystal gweithgareddau ar dir Castell Aberteifi dros benwythnos yr Ŵyl, mae gwyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ychwanegol o gwmpas tref Aberteifi fydd yn parhau drwy gydol mis Medi.
Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn cyflwyno Llwybr Cerfluniau o amgylch y Castell o Fedi 5-12fed. Bydd myfyrwyr a thiwtoriaid yn cyflwyno eu hymatebion i safle Gerddi Castell Aberteifi mewn pren, metel a charreg. Bydd gwaith gan fyfyrwyr cwrs gwneud dodrefn Coleg Ceredigion yn cael eu cynrychioli hefyd gyda darn o waith pren sy'n ymateb i'r gadair enfawr sydd ar safle'r castell.


