
Parêd Dydd Gwyl Dewi
Baneri, pypedau enfawr. plant yn eu gwisgoedd traddodiadol - mae parêds Gwyl Dewi Ceredigion yn llawn lliw a hwyl. Mae'r cyfnod yn gyfle i gymunedau cyfan ddod at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau.
Yn Aberystwyth, mae'r achlysur yn gyfle i anrhydeddu pobl leol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r gymdeithas leol a Chymru. Pob blwyddyn dewisir 'tywysydd' i arwain y parêd ac i annerch y dorf.
Dewch i ymuno a'r orymdaith - beth am wisgo mewn coch gyn a gwyrdd neu hyd yn
wisg draddodiadol?
Yn Aberteifi mae draig enfawr cwmni theatr Byd Bychan yn arwain plant ysgolion yr ardal trwy'r dref am y castell.
Plant y dref sy'n ganolog i barêd Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron hefyd.
Tybed ddewch chi ar draws y Ledis ar y Lon - theatr stryd gan Gwmni Theatr Felinfach - rhan o Wyl Frinj 'Byddwch Lawen'

Dewch i Aberporth i ddymuno'n dda i'r rhwyfwyr mewn cychod rhwyfo Celtaidd, fydd yn ymwlybro ar hyd yr arfordir i Lan-non, i ddathlu cysylltiadau'r ardal gyda Dewi Sant , a non, ei fam.

Gwisg gennin yn dy gap a gwisg hi yn dy galon
Bydd yn amlwg ei bod yn gyfnod dathlu Dydd Gwyl Dewi, gan y bydd ffenestri siopau'r trefi wedi eu haddurno gyda symbylau Cymru a chynnyrch lleol, a byrddau caffis gyda bwnsied o gennin Pedr yn addurno'u byrddau.
Mae Dydd Gwyl Dewi yn gyfle i 'wneud y pethau bychain' fel dywedodd Dewi. Mae gweithred fach feddylgar a charedig yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Gallwch weld cennin a chennin Pedr yn tyfu yn yr un ardd furiog ar ystad Llanerchaeron.
Cawl, pice ar y maen a bara brith- blasus!
Fel pob traddodiad teuluol, mae pawb a'i rysait cawl arbennig, ond fel arfer mae'n cynnwys cig ( cig oen neu eidion) a chymusgedd o lysiau tymhorol. Mae wastad yn cael ei weini gyda colffyn da o gaws, a bara menyn.
Mewn neuaddau pentref ar draws y sir mae cymunedau'n dod ynghyd i fwynhau disgl hael o gawl yng nghwmni ei gilydd. Os bydd dal le yn y bola, bydd tarten afal neu bwdin reis i ddilyn a phaned a phice neu fara brith i orffen.
Cewch gawl ar y fwydlen bron ym mhob caffi - a gallwch gael llond cwpan fawr i fynd bant a chi o siop Coop Tregaron. Does dim gwell ar bod ma dro neu reid beic.

Cerdd a dawns
Yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth cynhelir cyngherddau ardderchog, a i ddathlu Dydd Gwyl Dewi bydd doniau adnabyddus yn ymgynnull i gynnal cyngerdd arbennig. Mae Cyngerdd Gwyl Dewi yn cael ei gynnal ym mhlasdy RHosygilwen, ger Aberteifi hefyd.
Bydd bandiau Cymraeg yn perfformio'n lleol hefyd, ac os digwydd Dydd Gwyl Dewi fod yr un pryd a gem rygbi - wel, dyna fydd hwyl - beth bynnag fo'r sgôr!
Cynhelir twmpath dawsio gwerin yn fisol yn Aberystwyth, ac yn yr haf mae'n ddigon tebygol y gwelwch chi ddawnswyr Seithennin yn dawnsio ger y Bandstand ar y Prom yn Aberystwyth. Mae croeso i chi ymuno a nhw a dysgu'r symudiadau, neu gallwch falle achub ar y cyfle i werthfawrogi crefft clocsiwr heini.
Y wisg a'r het Gymreig
Wyddoch chi bod mwy hag un canolfan gwneud hetiau yng Ngheredigion slawer dydd?.
Yn ol cofnod yn y Topographical Dictionary of Wales (1833) roedd gwlan Ceredigion ( Cardiganshire bryd hynny) yn ardderchog ar gyfer ffeltio i wneud hetiau ‘Cardiganshire wool has long been noted for its felting quality, owing to which, and to the cheapness and abundance of peat fuel, the hat manufactories are very numerous: in these are made most of the common hats worn in South Wales, which are strong and durable: the wool of the Michaelmas shearing is the best for this purpose. The above manufactures consume the greater part of the wool produced in the county’
Mae casgliad arbennig o hetiau Cymreig yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, a gallwch weld esiamplau yn arddangosfa Canolfan Dreftadaeth Tregaron hefyd. r
Tra yn Aberystwyth, ewch draw at yr Hen Goleg i chwilio am y 'gargoyle' o ferch yn gwisgo het Gymreig. Mae aanifer o ddreigiau i'w gweld hefyd.
![]()
Llefydd Dewi Sant yng Ngheredigion
Un o'r llefydd enwocaf yn hanes Dewi Sant yw Llanddewi Brefi. Dyma lle cododd y tir dan ei draed fel bod y dorf fawr oedd wedi ymgynnul i'w glywed yn siarad yn gallu ei weld hefyd. Ewch lawr i'r arfordir hefyd - i bentref ac eglwys Llanon, ac ymlaen i eglwys fach Mwnt lle bu pererinion yn galw ar y ffordd i Dyddewi.



