Digwyddiadau Nadolig Ceredigion

Mwynhewch y Nadolig yng Ngheredigion gyda gwledd o gynnych lleol.  Archebwch eich coeden Nadolig a bwyd a diod o'r safon uchaf ar gyfer yr Wyl gan gyflenwyr lleol, a gallwch ddewis  anrhegion o waith crefftwyr medrus  mewn ffeiriau Nadolig a siopau ar draws y sir.  


Mae Ceredigion yn paratoi ar gyfer y  Nadolig o ganol Tachwedd  pan mae busnesion a chymunedau'n addurno a gosod goleuadau i ddod a lliw a llawenydd i'r strydoedd.    Mae ffeiriau a marchnadoedd Nadolig  yn cael eu cynnal mewn neuaddau bach a mawr ar draws y sir, lle mae stondinau  yn llawn danteithion, planhigion a chrefftau lliwgar wedi eu paratoi gan ddwylo celfydd cynhyrchwyr lleol. 

Cynhelir gweithdai creu llusernau yn yr wythnosau cyn noson yr orymdaith. 

Goleuadau a llusernau Nadolig hudolus

Mae gorymdaith llusernau Aberteifi yn un o uchafbwyntiau gaeaf Ceredigion pan ddaw’r gymuned at ei gilydd i greu a dathlu. Mae'r orymdaith, sy'n cael ei harwain gan faer y dref a band, yn cael ei chynnal ddechrau Rhagfyr. Mae’r orymdaith yn cychwyn yn ardal Pendre ac yn mynd ymlaen ar hyd y Stryd Fawr ac i mewn i dir Castell Aberteifi, lle bydd jyglwyr tân, arddangosfa tân gwyllt a bwyd a diod blasus ar gael gan Cegin 1176.

Gorymdaith llusernau Nadolig Aberystwyth sy'n arwain pawb at seremoni goleuo coeden Nadolig a goleuadau Nadolig y dref yn Sgwâr Owain Glyndwr. Wedi goleuo'r goeden, cynhelir gwasanaeth carolau awyr agored ac yna mae cyfle i bori drwy’r amrywiaeth o stondinau marchnad. Ac wrth gwrs bydd digon o win cynnes a mins peis ar gael! Ar y ddau ddydd Sadwrn blaenorol, cynhelir gweithdai gwneud llusernau yn Eglwys Sant Mihangel.

Ble mae Siôn Corn ?

Bydd Siôn Corn yn ymweld â threfi, siopau a sawl lleoliad lleoliad arall yng Ngheredigion cyn y Nadolig i gwrdd â phlant Ceredigion. Gwelwch y rhestr ffeiriau i weld ble a phryd bydd yn ymweld. 

 Bwciwch amser i weld gweithdy'r tylwyth teg ac ogof Sion Corn yn atyniad  Silver Mountain Experience yn Llywernog. Mae gweithgareddau di ri i'ch diddanu yno. Bydd Sion Corn yn treulio sawl diwrnod yn yr atyniad lle  gallwch archwilio gweithdy a chwrdd â Siôn Corn yn ei Groto! 

Fe wyddom mai mewn car llusg mae Siôn Corn yn arfer teithio ond gallwch chi deithio ar y tren gyda Rheilffordd Dyffryn Teifi  i gyrraedd Groto Siôn Corn yn nyffryn Teifi. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw, gan fod y gweithdy a Groto Siôn Corn yn lefydd prysur iawn. 

Perfformiadau clasurol y Nadolig a hwyl a sbri pantomeim 

Ni fyddai'n Nadolig heb gyfle i ymweliad â'r theatr!

Mae Theatr Mwldan yn Aberteifi yn cynnig arlwy gyfoethog o berfformiadau theatr, cyngherddau a phanto blynyddol gan Theatr Aberteifi. Robin Hood yw panto 2023, a gynhelir ar 3 penwythnos yn ystod mis Rhagfyr, gan gynnwys Noswyl Nadolig. 

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gartref i gerddorfa symffoni Aberystwyth, Philomusica sy'n cynnal cyngerdd sy'n  dehongli mythau a chwedlau Cymru. Mae cantorion unigol yn dod â hud i dymor y Nadolig hefyd  gyda chynhyrchiad Good Evening Mr Buble yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a Natasha Watts yn Theatr Mwldan Aberteifi.

Bob blwyddyn mae disgwyl mawr am gabaret Nadolig Cabarela yn ogystal â’r cyngerdd elusennol blynyddol gan Sgarmes, côr cymysg poblogaidd Aberystwyth.

Cyngerdd arall sy'n rhan bwysig o arlwy'r Nadolig yw pan ddaw Cymry’r West End i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

Mae cwmni actorion o' gymuned Theatr Felinfach wedi bod yn perfformio pantomeim gwreiddiol bron bob blwyddyn ers dros hanner can mlynedd. Mae hwyl a sbri go iawn wrth i giamocs pantomeim ddiddanu tra'n tynnu sylw at straeon a helyntion lleol. 

Ar gyfer Nadolig 2023 mae Amgueddfa Ceredigion hefyd yn cynnal perfformiad o glasur Dylan Thomas, A Child's Christmas in Wales gan Lighthouse Theatre. Beauty and the Beast yw Pantomeim Neuadd Goffa AberaeronBargoed Farm eleni. 

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno cynyrchiadau theatr drwy gydol y flwyddyn, gyda perfformiadau theatr gan grwpiau cymunedol a chwmniau teithiol proffesiynol. Ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2023 mae perfformiadau o A Christmas Carol ym mis Tachwedd, Vanity Fair a The Lion, The Witch and The Wardrobe ym mis Rhagfyr. Yna, ym mis Ionawr, mae cwmni'r Wardeniaid, sydd wedi dod â doniolwch a hwyl i’r theatr ers 30 mlynedd yn dod â’r tymor i ben gyda cynhyrchiad o Sinderela.

Hefyd, mae Theatr Mwldan  a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth  yn lleoliadau lle gallwch fwynhau darllediadau o berfformiadau o theatrau enwocaf y byd gan gynnwys balé ac opera o Dŷ Opera Brenhinol Llundain a'r Met yn Efrog Newydd.

Carolau a cherddoriaeth Nadolig

Daw y delynores o fri rhyngwladol Catrin Finch yn ymuno â Chor Dyffryn Arth mewn noson o gerddoriaeth a darlleniadau’r Nadolig yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron ac yn Aberystwyth. Cynhelir cyngerdd ardderchog gan Choirs for Good yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth. 

Mae croeso i bawb ymuno yng ngwasanaethau Nadolig eglwysi a chapeli Ceredigion.  Un o'r lleoliadau mwyaf deniadol i brofi gwasanaeth yng ngolau cannwyll ar noswyl Nadolig yw Eglwys y Grog, Mwnt, a bydd awyrgylch arbennig yng ngwasanaeth golau cannwyll  Ystrad Fflur.   Cewch gyfle i ymweld â chapel hanesyddol Hen Gapel, Llwynrhydowen  lle cynhelir plygain yng ngolau cannwyll ar noswyl Nadolig gan gymuned Undodaidd dyffryn Teifi. 

Mae eglwysi urddasol Tysul Sant, Llandysul,  ac eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr  yn leoliadau hanesyddol eraill i fwynhau gwasanaeth carolau. Cynhelir oedfa Nadolig yng nghapel hardd campws Llambed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd. 

Mae eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth  yn dechrau Rhagfyr gyda 'trywydd y stabl',  a dilynir hyn bob Sul tan y Nadolig gan wasanaethau carolau hwyliog. 

Yn draddodiadol, 'does dim rhaglen a 'does neb yn arwain gwasanaeth Plygain, gan fod unawdwyr, grwpiau a hyd yn oed ambell i gor yn cymeryd eu tro i ganu carolau traddodiadol. Mae'r canu i gyd yn ddi-gyfeiliant ac ni chaiff yr un ei ail adrodd.  Mae'r traddodiad unigryw yma yn fyw ac iach yng  eglwys Ioan Fedyddiwr, Penrhyncoch, ger Aberystwyth, ac yn brofiad bythgofiadwy.

Un o'r lleoliadau mwayf annisgwyl lle cynhelir gwasanaeth carolau bob Noswyl Nadolig yw'r capel a grewyd gan garcharorion rhyfel o'r Eidal. Mae'r capel wedi ei addurno o ddenyddiau bob dydd, ond yn edrych fel capel bychan yn yr Eidal.  Rhaid bwcio a thalu o flaen llaw i fynychu'r digwyddiad.

Ffeiriau a marchnadoedd Nadolig

Dewch ar draws ffeiriau Nadolig bron ym mhob neuadd bentref rhywbryd rhwng canol Tachwedd a'r Nadolig.

Cynhelir Marchnad Nadolig gyda stondinau di-ri ym Mhafiliwn Cymru ym Mhontrhydfendigaid lle mae crefftwyr a chogyddion lleol yn arddangos eu cynnyrch.  Mae'n le da am anrheg wahanol a deniadol.  Cynhelir ffair Nadolig ar gampws Prifysgol Cymru Dewi Sant yn Llambed hefyd gyda stondinau bwyd a chrefftau a cherddoriaeth i'ch diddanu.  

Llanerchaeron yw lleoliad hyfryd ffair Nadolig dros benwythnos cyntaf mis Rhagfyr. Bydd y stondinau yno'n llawn anrhegion, bwyd ac addurniadau Nadolig deniadol. 

Castell Aberteifi  yw lleoliad hudolus Ffair Nadolig y dref, gyda dros 40 o stondinau i'w darganfod yn y pafilwn a thŷ'r castell. Cofiwch fynd i weld Sion Corn gyda'r plant, neu fwynhau gwydriaid o win Nadolig twym. 

Bydd siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agor yn hwyr ar noson y Ffair Nadolig yno, a gerllaw yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth mae dros 50 o stondinau yn llawn cynnyrch bwyd, crefftau ac anrhegion drwy gydol Rhagfyr. Mae'r arddangosfa ar agor bob dydd, ac ychydig yn hwyrach yn ystod yr wythnos. 

Bwyd a diod Nadolig da o Geredigion

Mae Ceredigion yn haeddiannol falch o'r cynnyrch lleol sydd ar gael mewn siopau ac erbyn hyn gael tu hwnt i'r sir ar-lein hefyd. Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth a Marchnad Ffermwyr Llandudoch yn cael eu cydnabod ymysg  y goreuon yn y DU, gyda stondinau’n cynnig danteithion blasus – cynnyrch traddodiadol a danteithion wedi’u dylanwadu gan dreftadaeth diwylliannau  eraill.

Cynhelir Marchnad yr Hen Dref yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ar y penwythnosau sy'n arwain at y Nadolig. 

Mae gan drefi Ceredigion gigyddion a phoptai teuluol o’r safon uchaf, ac mae ein danteithion melys a’n diodydd yn cael eu dosbarthu i’r siopau gorau ledled y wlad.

Nid yn unig ar y stryd fawr cewch gynnig arbennig o gynnyrch lleol ar werth, ond mewn siopau fferm a delis fel Bargoed Farm, yn Llwyncelyn, Cherry Picked yn Sarnau, Riverside yn Nhregaron  a siop gymunedol Cletwr yn Nhre'r Ddol.

Siopau ar agor yn hwyrach a pharcio am ddim 

Mae trefi Ceredigion yn byrlymu gyda masnach yn ei siopau annibynnol, ac mae'n bleser darganfod trysorau ar ac oddi ar y stryd fawr.  Beth am ymuno yn Helfa Drysor Nadolig Aberystwyth i gael eich arwain i siopau diddorol ar draws y dref. 

Mae goleuo coeden Nadolig y dref a chynnau'r goleuadau fel arfer yn golygu bod siopau ar agor yn hwyrach na'r arfer, a marchnad neu ffair, parêd a cherddoriaeth yn llonni'r awyrgylch. Bydd prif stryd Llambed ar gau  am noson ac mae sôn bod Siôn Corn wedi cael gwahoddiad i alw heibio hefyd. 

Er bod angen car llusg go fawr ar Siôn Corn i gludo'r holl anrhegion fydd yn ei dosbarthu dros y Nadolig does dim angen iddo boeni am barcio tra bo'n siopa yng Ngheredigion gan fod meysydd pario'r Cyngor yn rhad ac am ddim ar y tri Sadwrn cyn y Nadolig. 

Coed, torchau ac addurniadau Nadolig

Caru arogl coeden Nadolig go iawn?  

Gallwch archebu addurniadau naturiol a choeden Nadolig wedi ei thyfu ym Mynyddoedd Cambrian Ceredigion neu lethrau dyffryn y Teifi yn uniongyrchol gan y tyfwyr eu hunain. Mae dewis o fath a maint o goed.  

 

Deunyddiau naturiol a chynaladwy sy'n cael eu defnyddio i greu torchau ac addurniadau Nadolig mewn gweithdai yn Llanerchaeron, ac yng nghanolfan ardd The Flower Meadow ger Llandysul, lle gallwch greu torch ar un penwythnos ac addurn ar gyfer y bwrdd cinio Nadolig ar benwythnos arall.   Yng nghanolfan ymwelwyr gwarchodfa'r RSPB Ynyshir gallwch ddysgu sut i greu torch fach wedi ei chrosio, neu greu torch helyg, neu os dymunwch, gallwch fynychu'r ddau weithdy. Yn gynwysiedig yn y pris, gallwch fwynhau cinio Nadolig os trefnwch i fynychu gweithdy creu torchau Nadolig Plas Nanteos.