Sioeau Amaethyddol a Digwyddiadau Cefn Gwlad


Sadwrn Barlys

Mae'r beirniadu'r bore yn drylwyr a phared y prynhawn yn lliwgar wrth i dref Aberteifi ddathlu'r hen draddodiad o'r ffair gyflogi Sadwrn Barlys. Heddiw mae'r ffocws ar feirch, ond mae'r pared yn cynnwys tractorau, hen geir a cherbydau o bob math. 

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fel arfer ym mis Awst, mae Cymdeithas y Cobiau a'r Merlod Cymreig yn dathlu'r creaduriaid gosgeiddig yma yn Aberaeron.  Nid yn unig cewch weld ceffylau o fridfeydd enwog yr ardal yn cael eu harddangos ar eu gorau, ond cewch eich diddanu gan sgiliau gyrrwyr cerbydau o bob math a champau cyfareddol gyda ceffylau o bob rhan o'r byd - i gyd yn y 'Cae Sgwar' yng nghanol tref Aberaeron.  

Faint mae'n gymeryd i gneifio dafad, dybiwch chi?

Mae pob fferm a'i diwrnod cneifio arferol, pan fydd y defaid yn cael eu casglu o'r mynydd ar gyfer cael eu cneifio.  Daw'r traddodiad hwn o pan oedd ffermwyr yn arfer rhannu'r baich o gasglu'r defaid o'r mynydd agored ac yn helpu gyda'r cneifio ym mhob ffern yn ei thro. Heddiw gallwch ddal i weld bugeiliaid a'u cŵn yn casglu a didoli defaid ar y llethrau, ond mae'r cneifio'n cymeryd llawer llai o amser, gyda criwiau o gontracatwyr profiadol a chyflym yn teithio rhwng y gwahanol ffermydd. 

Beth am fynd i weld cneifwyr dawnus yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – a’r cloc? Bydd llawer ohonyn nhw wedi treulio gaeaf hemisffer y gogledd yn cneifio defaid ar ffermydd Seland Newydd.

Yn ystod yr haf yn Llanerchaeron, gallwch weld defaid yn cael eu cneifio yn y dull traddodiadol gyda gweill; neu beth am ymuno â’r dorf yn y cystadlaethau cneifio blynyddol ar ffermydd ger Llambed a Phontrhydfendigaid, neu yn Sioe Tal-y-bont?

Cofiwch fynd â stopwatsh gyda chi - choeliwch chi fyth pa mor gyflym maen nhw!

Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol 

Mae gweld bugeiliaid yn gweithio gyda’u cŵn defaid yn olygfa sy'n werth ei gweld. Gallwch fynd i wylio treialon cŵn defaid ym mhob rhan o Geredigion, ym mis Awst yn bennaf.

Yn 2020 bydd Ceredigion yn gartref i'r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol. Cynhelir yr ornest dros dridiau m Mis Medi ar gaeau Tanycastell, Aberystwyth, yng nghystod bryngaer Pendinas.  Fe welwch bymtheg ci defaid a'u bugeuliaid o Gymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn cystadlu.  Y cŵn yw'r sêr, wrth gwrs, mewn partneriaeth ryfeddol gyda'u bugail yn arddangos eu deallusrwydd a'u gallu i ddidol yn dawel ac ysgafndroed with gystadlu i fod yn bencampwr y pencampwyr, gan eu bod eisioes yn bencampwyr yn eu gwlad eu hunain.  Bydd Gwyl Bwyd a Chefn Gwlad gyda stondinau o bob math yn rhan o'r digwyddiad.  

Fel dwedodd arbennigwr lleol:  "Dywedir mai cŵn defaid yw'r cwn doethaf yn y byd.  Nid ydynt yn cael eu difetha gan enwogrwydd eu gallu eu hunain na'u bugail. Y rhinwedd yma sy'n gwneud treialon cŵn defaid yn gymaint o bleser" 

Go racing - go harness racing

Harness racing is popular in the United States, Canada, Australasia and  in Europe, mainly France, Scandinavia and Wales. Ceredigion has a long and established tradition and in spring and during the summer months, there are several harness racing meets, held on grass tracks. Horses race in two different 'gaits': a trotting horse moves its legs forward in diagonal pairs (right front and left hind together, then left front and right hind), and pacers move their legs laterally (right front and right hind together, then left front and left hind). Both styles can be seen in Ceredigion.  The 'driver' sits in a two wheeled 'sulky'  - a light carriage - behind the horse. 

Tregaron is at the heart of this exciting sport, with several breeders and trainers based in the area too. Tregaron hosts a three day Festival of Harness Racing - one of the biggest prize race meetings of its kind in the UK, and also has a spring meeting in May.   Another big meet takes place at Pentre farm Cellan in early September.  

Talgarreg, Synod Inn near New Quay and Talsarn in the Aeron valley are also venues for races organised by the Wales and Border Counties Racing Association.