Dylan ac RS Thomas - dau fardd Eingl Gymreig yng Ngheredigion

Roedd gan ddau o’n beirdd Eingl-Gymreig mwyaf gysylltiadau agos â Cheredigion. I Dylan Thomas, awdur Under Milk Wood, Ceredigion oedd ‘y lle mwyaf gwerthfawr yn y byd’.

Fe gafodd RS Thomas, yntau, ei ysbrydoli gan dirwedd dyffryn Dyfi, ac fe adawodd ei farc ei hun ar yr ardal.


Ceredigion Dylan Thomas

Bu Dylan Thomas, awdur Under Milk Wood, yn byw yng Nghei Newydd am gyfnod byr ond cynhyrchiol iawn yn ystod y 1940au. Fe gafodd ei ‘ddrama i leisiau’ enwog ei hysbrydoli gan straeon, pobl a lleoliadau yng Nghei Newydd a’r cylch, ardal roedd Dylan yn gyfarwydd â hi ers ei blentyndod. Fe fyddai’n disgrifio Ceredigion fel ‘y lle mwyaf gwerthfawr yn y byd’.

Roedd gwreiddiau Dylan yn ddwfn yng nghefn gwlad y Gorllewin, ac fe fyddai’n dianc rhag prysurdeb Llundain i lonyddwch yr arfordir. Yn blentyn, fe fyddai’n dod ar wyliau i aros gyda’i berthnasau ar fferm yr Hendre ger Aberteifi. Yn ddiweddarach, fe fyddai’n aros gyda ffrind bore oes, Vera Phillips, a’i theulu mewn tŷ rhent yn Nhalsarn yn nyffryn Aeron. Fe fu hefyd yn ymweld ag un o’i gyfoedion yn Llundain, Dewi Emrys, yn ei fwthyn a oedd, yn gyfleus iawn, wedi’i leoli gyferbyn â’r dafarn yn Nhalgarreg. Fe fyddai hefyd wrth ei fodd yn ymweld ag Aberaeron a ffermydd llaeth dyffryn Aeron gyda’i gyfaill, Tommy Herbert y milfeddyg. Mewn tafarndai o Gei Newydd i Lambed ac ar hyd dyffryn Aeron, fe fyddai’n treulio’i amser yn tynnu coes gyda chymeriadau lleol, llawer ohonyn nhw’n hen forwyr neu'n feirdd gwledig. Fe fyddai’n gwrando ar eu straeon ac yn gwneud nodiadau.

Ond y Cei Newydd, y pentref glan môr ar y llethr coediog lle bu’n byw am gyfnod, oedd yr ysbrydoliaeth fwyaf iddo.

Roedd cyfnod Dylan yng Nghei Newydd yn arbennig o gynhyrchiol. Fe ysgrifennodd rhyw 15 o gerddi’r casgliad Death and Entrances yng Ngheredigion. Yn eu plith roedd The Conversation of Prayers a’i gerdd i’w fab, Llewelyn, This side of the truth.

Heb os, roedd Cei Newydd yn noddfa rhag dinistr rhyfel yn Llundain ac Abertawe. Ond fedrodd e ddim dianc yn llwyr gan iddo ysgrifennu A Refusal to Mourn the Death, by Fire, of a Child in London yno hefyd.

Mae’r ffilm The Edge of Love a ffilmiwyd ar leoliad yng Nghei Newydd a Llambed yn portreadu cyfnod ym mywyd Dylan pan fu’n byw ym Majoda, byngalo sy’n edrych allan dros y môr.

Under Milk Wood

Mae ei gerdd brôs, Quite Early One Morning, yn disgrifio wâc ar hyd clogwyni’r arfordir wrth i’r pentref ddeffro. Mae’n debyg bod y gerdd hon yn dempled i'w waith enwocaf, Under Milk Wood. Mae llawer o leoliadau a chymeriadau pentref ffuglennol Llareggub yn debyg iawn i leoliadau a phobl Cei Newydd. Does dim ond raid i chi fynd ar gwch i’r bae ac edrych nôl ar y strydoedd teras i ddychmygu Capten Cat yn breuddwydio am fôr-forwynion a morwyr wedi boddi, a dwyn gweddi’r Parchedig Eli Jenkins i gof.

RS Thomas - cerddi am bobl, tirwedd a natur

Bu’r bardd RS Thomas yn ficer yn Eglwys Sant Mihangel, Eglwys-fach, rhwng 1954 a 1967. Hwn oedd un o’i gyfnodau mwyaf cynhyrchiol fel bardd. Yn ystod ei gyfnod yn y plwyf, fe gyhoeddodd Song at the year’s turning (1955) a sawl cyfrol arall o farddoniaeth. Fe gafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Lenyddiaeth Nobel.

  

Mae barddoniaeth RS Thomas yn trin a thrafod hunaniaeth bersonol a chenedlaethol yng Nghymru’r 20fed ganrif, yn ogystal â gwleidyddiaeth, diwylliant, a chwestiynau ysbrydol. Fe fyddai’n cael ei ysbrydoli gan dirwedd a phobl Cymru, ac yn aml gan fywyd caled gweithwyr fferm. Mae ei brif gymeriad, Iago Prydderch, yn cynrychioli'r gweithwyr hyn.

Bydd RS Thomas yn aml yn cael ei ddisgrifio fel cymeriad anodd, digyfaddawd a oedd yn gwrthod pob cysur modern. Gyda'i wraig, yr artist Elsi Eldridge, fe aeth RS ati i drawsnewid Eglwys Sant Mihangel yn Eglwys-fach, gan dynnu pob plac ac addurn ohoni a phaentio’r pulpud a phob sedd yn ddu.

Roedd RS Thomas hefyd yn gadwraethwr brwd, ac fe fu’n gweithio gyda’r RSPB a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i warchod y barcud. Roedd hefyd yn gyfaill mawr i Bill Condry, dyddiadurwr gwledig papur newydd y Guardian a warden cyntaf Gwarchodfa RSPB Ynys-hir.