Ceredigion yn nyddiau'r Sioriaid

Wrth i'r diwydiant mwyngloddio, y diwydiant pysgota, masnach ar y môr a datblygiadau amaethyddol ddod â mwy o gyfoeth i Geredigion, fe aeth y bonedd ati i godi tai crand. Dyw plas Llanerchaeron heb newid o gwbl, tra bod Nanteos, Gogerddan a Thrawsgoed wedi'u haddasu, ac eraill wedi ddiflannu'n llwyr.  


Pan briododd y Cyrnol William Lewes o Lanerchaeron yr etifeddes leol, Corbetta Williams Powell o Nanteos, yn 1786, fe ddaeth hi â statws cymdeithasol a gwaddol mawr i Lanerchaeron.

Fe aeth y pâr ati i gyflogi'r pensaer o Gymru, John Nash, i ailwampio'r tŷ, gan drawsnewid y ffermdy bach yn fila hardd yn y dull Paladaidd.

John Nash yng Ngheredigion

Er bod gwedd allanol y fila yn syml, mae llawer o siapau a manylion cymhleth ynghudd ynddi. Gyda gofal mawr, fe osododd Nash y fila mewn man a oedd yn gwneud y gorau o'r golygfeydd ar draws tirwedd Bictiwrésg yr ystad hyd at yr eglwys a gysegrwyd i'r Santes Non, mam Dewi Sant, a llethrau coediog dyffryn Aeron.

Ac yntau wedi bod yn fethdalwr yn Llundain, doedd Nash ddim wedi gwneud ei enw eto fel pensaer, ond roedd yn ŵr uchelgeisiol. Yn fuan ar ôl iddo gwblhau plas Llanerchaeron, bu modd i Nash ddychwelyd i Lundain gyda hyder newydd a phortffolio o weithiau llwyddiannus. Yno, fe aeth ati i ddylunio Pafiliwn Brighton, Stryd Regent yn Llundain, a Phalas Buckingham i'r Brenin Siôr y Pedwerydd.

Dyw ystad Llanerchaeron ddim wedi newid ers 200 mlynedd. Mae'n dal i fod yn hunangynhaliol, gyda'i gerddi muriog a'i fferm ei hun.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, fe gynlluniodd John Nash nifer o adeiladau eraill, gan gynnwys llyfrgell wythochrog brydferth yn Hafod Uchtryd i Thomas Johnes, a Thŷ'r Castell yn Aberystwyth i Syr Uvedale Price, dau ŵr a oedd yn cefnogi'r mudiad Pictiwrésg.

Thomas Johnes yr Hafod

Fe aeth Thomas Johnes ati i ddatblygu ystad yr Hafod drwy blannu miliynau o goed a cherfio golygfeydd panoramig yn nhirwedd arw dyffryn Ystwyth i greu Eden fodern.

Fe gyflwynodd Johnes arferion amaethyddol a bridiau newydd i'r sir hefyd, gan sefydlu fferm arbrofol ar yr ystad yng Ngelmast. Doedd neb yn meddwl bod modd cynnal fferm laeth ar dir yr Hafod a'r cylch, ond fe aeth Johnes ati i arbrofi â gwahanol fathau o wartheg i weld pa rai fyddai'n cynhyrchu'r swm mwyaf o laeth. Ar ôl arbrofi, fe fewnforiodd Johnes 40 buwch laeth o'r Iseldiroedd, a mynd ati i gynhyrchu cawsiau amrywiol yn y llaethdy. Yn 1800, fe gynhyrchwyd bron i bedair tunnell o gaws a 1,200 pwys (540kg) o fenyn yno.

Mae ysbryd arloesol Thomas Johnes yn fyw o hyd yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Prifysgol Aberystwyth ym Mhwllpeiran, gerllaw'r Hafod.

Yn 1785, fe ddaeth y gwaith o adeiladu plas newydd Thomas Johnes, a gynlluniwyd gan Thomas Baldwin o Gaerfaddon, i ben. Yn 1794, fe gafodd llyfrgell a gynlluniwyd gan John Nash ei hychwanegu ato. Ac fe gomisiynodd Johnes bensaer arall, Thomas Wyatt, i adeiladu eglwys newydd yn yr Hafod.

Yn anffodus, ychydig iawn o blas rhyfeddol yr Hafod sy'n weddill erbyn hyn. Ac fe gafodd eglwys Wyatt, ei ffenestri gwydr lliw Ffleminaidd, a chofeb o farmor gan Syr Francis Chantrey a gomisiynwyd gan Johnes, i gyd eu difrodi gan dân yn y 1930au.

Serch hynny, mae'r llwybrau cerdded, y pontydd, y strwythurau carreg, a'r gerddi a gynlluniwyd gan Johnes i gyd yn cael eu hadfer yn raddol gan Ymddiriedolaeth yr Hafod, gyda chymorth gwirfoddolwyr. Ac mae croeso i ymwelwyr fynd i eglwys yr Hafod i ddarganfod ei threftadaeth, i weld cofebau ingol, ac i fwynhau'r lleoliad prydferth.

Mae bwa carreg yn dal i oroesi o gyfnod Thomas Johnes yn yr Hafod hefyd. Fe gafodd ei adeiladu i ddathlu Jiwbili Aur y Brenin Siôr y Trydydd yn 1810. Fe gododd Johnes hefyd adeilad yr Hafod Arms fel llety hela ym Mhontarfynach. Yna, fe aeth ati i'w addasu'n westy i'r ymwelwyr a fyddai'n dod i'r Hafod i edmygu'r dirwedd Bictiwrésg, y llwybrau cerdded, a rhaeadrau dramatig Pontarfynach.

Nanteos

Fe ddaeth William Powell, mab Syr Thomas Powell o Lechwedd Dyrus, Dyffryn Paith, yn feistr plas Nanteos ar ôl priodi Avarina le Brun. Avarina oedd unig blentyn peiriannydd mwyngloddio o Köln a wnaeth ei ffortiwn yn niwydiant cloddio plwm Ceredigion ar ddiwedd y 17eg ganrif, a'i wraig, Anne, merch y Cyrnol John Jones o Nanteos, ac un o gefnogwyr Siarl y Cyntaf yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Fe briododd eu mab, Thomas Powell, wyres Arglwydd Faer Llundain, ac fe ddefnyddiwyd ei chyfoeth i ddechrau adeiladu plas Paladaidd ffasiynol yn Nanteos yn 1739.

George Ernest John Powell oedd un o sgweieriaid mwyaf lliwgar Nanteos. Ac yntau wedi'i addysgu yn Eton a Rhydychen, roedd yn ffrind i'r bardd Algernon Charles Swinburne, ac yn gasglwr celf brwd. Fe adawodd ei gasgliad i Brifysgol Aberystwyth.

Fe gafodd ystad Nanteos ei huno ag ystad gyfagos Gogerddan pan briododd Margaret Pryse o Gogerddan ac Edward Powell o Nanteos. Fe fu farw eu hunig fab yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn 18 oed, ac fe ddaeth teulu Powelliaid Nanteos i ben. I ddysgu mwy am gwpan enwog Nanteos a ddaeth yn wreiddiol o abaty Ystrad Fflur, ac am y straeon ysbrydion sy'n gysylltiedig â'r plas, ewch i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.Yn wahanol i lawer o dai crand eraill Cymru, mae plas Nanteos wedi goroesi, ac mae'n westy braf erbyn hyn.