Ysbryd mwynwyr Mynyddoedd Cambria

Mwyngloddiau copr, aur, arian a phlwm Ceredigion a Mynyddoedd Cambria yw rhai o'r hynaf yn Ynysoedd Prydain, yn dyddio nôl dros ddwy fil o flynyddoedd. Ers hynny, mae mynachod, brenhinoedd ac anturiaethwyr o bell ac agos wedi dod i gloddio am eu ffortiwn ym mryniau Ceredigion.


Yn 1744, roedd gŵr o'r enw Lewis Morris yn gwneud arolwg o'r ardal ar ran y Goron, ac fe ddisgrifiodd Cwmsymlog fel yr ardal fwyaf cyfoethog o ran plwm ac arian yn nheyrnas y Brenin. Gan fod cymaint o arian yn cael ei gloddio ym mwyngloddiau Mynyddoedd Cambria, fe gafodd Bathdy Brenhinol ei sefydlu yng nghastell Aberystwyth yn ystod yr 17eg ganrif.

Yn yr 17eg ganrif, roedd Syr Hugh Middleton yn prydlesu sawl mwynglawdd yn yr ardal, gan ennill incwm o £18,000 y flwyddyn. O 1750 ymlaen, fe dyfodd diwydiant mwyngloddio plwm ardal, gan gyrraedd uchafbwynt yng nghanol y 19eg ganrif. Erbyn 1870, roedd 10,000 o weithwyr yn gysylltiedig â diwydiant mwyngloddio Mynyddoedd Cambria, ac roedd gweithwyr yn tyrru yno o ardaloedd mwyngloddio eraill fel Cernyw, a hyd yn oed o'r Eidal a'r Almaen. Gan fod cynifer o ieithoedd yn cael eu siarad ym mwynglawdd Esgair Mwyn yn 1755, fe ddisgrifiodd Lewis Morris y lle fel Babel yn ei adroddiad.

Mae tirwedd gogledd Ceredigion yn frith o olion hen felinau, tomenni, gefeiliau, bythynnod, capeli a mynwentydd sy'n gysylltiedig â'r mwynwyr.

Ewch i ymweld ag atyniad y Silver Mountain Experience yn Llywernog, a dilynwch lwybrau cerdded Ysbryd y Mwynwyr i ddarganfod Cwmsymlog, Cwmystwyth, a safleoedd eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant.

Ewch i ymweld ag eglwysi'r bonedd, fel eglwys yr Hafod, a chapeli'r mwynwyr a'u teuluoedd, fel capeli Cwmystwyth a Chwmsymlog. Ewch i weld yr olwynion dŵr mawr o'r cyfnod hwn yn Ffwrnais, Llywernog a Phont-rhyd-y-groes.

I wneud y gorau o'ch ymweliad â safleoedd mwyngloddio Ceredigion, beth am fynd ar daith dywys, ymweld â safle â gwybodaeth ddeongliadol, neu ymuno â gweithgor?