Y Wybren Dywyll

Dewch i Geredigion i weld yr wybren dywyll ar ei gorau rhwng machlud haul a thoriad gwawr. Ewch i un o’n Safleoedd Darganfod Wybren Dywyll i ddysgu mwy am y sêr a’r planedau sy’n pefrio uwch eich pen a'r chwedloniaeth Geltaidd a Chlasurol amdanynt. Ewch am dro dan olau’r lloer i ddarganfod bywyd gwyllt sy’n effro liw nos, gwyliwch y machlud dros Fae Ceredigion neu'r wawr yn torri dros Fynyddoedd Cambria.


Beth yw’r adeg orau i syllu ar y sêr?

Pan fydd yr awyr yn glir ac yn dywyll, fe allwn ni weld ymhell dros fil o’r sêr mwyaf llachar â’n llygaid ein hunain – heb ddefnyddio unrhyw offer drud.  Gyda’i hwybren dywyll naturiol, mae Ceredigion, yn arbennig yng nghanool Mynyddoedd Cambrian, yn lle delfrydol i fwynhau syllu ar y sêr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn gan fod yna wastad rhywbeth diddorol i'w weld, ond i chi gofio edrych i fyny.

Byddwn ni bob amser yn rhyfeddu o weld y Llwybr Llaethog, gyda’i sêr bach a mawr dirifedi a’i gymylau o lwch a nwyon, yn fwa disglair uwch ein pennau. Gellir ei weld drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r sêr yn ymddangos yn arbennig o lachar rhwng mis Hydref a mis Ebrill.  Yr hydref, y gaeaf a’r gwanwyn yw’r tymhorau gorau i fwynhau awyr y nos. Bydd seryddwyr yn aml yn cyfeirio at hwn fel y tymor arsylwi.

Ar ddechrau’r gwanwyn, cyn i’r dyddiau ymestyn ormod, does dim rhaid i chi aros yn hir iddi nosi er mwyn mynd allan i weld y sêr, felly gall hon fod yn adeg ddelfrydol o’r flwyddyn i syllu ar y sêr fel teulu. Beth am ddechrau drwy chwilio am yr Arth Fawr – Ursa Major – sydd i’w gweld drwy gydol y flwyddyn? O fewn yr Arth Fawr, fe welwch chi glwstwr o sêr sy’n ffurfio’r Aradr, a bydd hon yn ei thro yn eich helpu i gael hyd i Seren y Gogledd.

Rhwng mis Medi a mis Tachwedd, gallwch chi weld cytser Cassiopeia – ar ffurf llythyren W – ar ei orau.  Yr hydref yw’r adeg orau hefyd i weld galaeth Andromeda pan fydd yn uchel yn yr wybren. Hon yw’r alaeth agosaf at ein galaeth ni – y Llwybr Llaethog – ac fe allwn ni ei gweld heb gymorth telesgop. Os oes gennych chi delesgop, o fis Chwefror tan ddechrau mis Gorffennaf yw’r adeg orau i weld galaethau eraill.

Mae’r gaeaf yn dymor da i weld seren Aldebaran â’i lliw coch prydferth, neu i chwilio am batrymau fel y tair seren lachar mewn rhes a elwir yn Wregys Orïon – neu’n Groes Fendigaid, Llathen Fair, y Tri Brenin a Llathen Teiliwr yn draddodiadol – a’r clwstwr o sêr o’r enw’r Twr Tewdws neu’r Pleiades.

Mae Triongl yr Haf yn cynnwys sêr sydd hefyd yn rhan o’r Alarch (Cygnus), yr Eryr (Aquila) a Thelyn Arthur (Lyra). Nesaf at Driongl yr Haf, mae cytser bach o’r enw Delphinus – neu’r Dolffin. Go brin fod unrhyw le gwell i weld y cytser hwn nag un o draethau Ceredigion, gyda’i dolffiniaid enwog yn nofio dafliad carreg i ffwrdd yn nyfroedd Bae Ceredigion!

Ddechrau’r haf, ryw ddwy awr ar ôl i’r haul fachlud a chyn i’r wawr dorri, cofiwch gadw llygad am gymylau nosloyw sydd – fel y mae’r enw’n ei awgrymu – yn disgleirio liw nos. Weithiau, bydd hyd yn oed y seryddwyr mwyaf pybyr yn cael modd i fyw pan fydd yr Aurora Borealis – a elwir hefyd yn Oleuni’r Gogledd neu’n Ffagl yr Arth – i’w gweld mor bell i’r de â chanolbarth Cymru.

Cawodydd sêr gwib

Does dim dwywaith bod gweld seren wib yn mynd ar ei hynt drwy’r wybren yn brofiad arbennig, ond mae gweld cawod o hyd at gant o sêr gwib yr awr yn saethu drwy’r awyr yn brofiad hudolus.

Mae’r cawodydd trawiadol hyn yn werth eu gweld ac yn digwydd o dymor i dymor bob blwyddyn. Mae cawod sêr gwib Lyrid i’w gweld rhwng canol a diwedd mis Ebrill, a chawod sêr gwib Perseid i’w gweld rhwng diwedd mis Gorffennaf a chanol mis Awst. Ar noson glir ddiwedd yr hydref, cadwch lygad am gawod sêr gwib Leonid sy’n enwog am wibio’n gyflym ac am ddisgleirio’n llachar. Mae’r gawod hon yn ei hanterth ganol mis Tachwedd.


Mae seryddwyr yn gallu rhagweld pa bryd y bydd sêr gwib a chawodydd sêr gwib i’w gweld, ac fe allwch chi ddefnyddio apiau a chanllawiau ar-lein i gael gwybod beth gallwch chi ddisgwyl ei weld. Beth am gynllunio’ch gwyliau neu’ch ymweliad â Cheredigion i gyd-daro ag un o’r cawodydd hyn a mwynhau ein hwybren dywyll ar ei gorau?

Syllu ar y sêr yng Ngheredigion – ein hawgrymiadau ni

I fynd ati i syllu ar y sêr eich hunan, beth am drefnu i aros mewn bwthyn neu babell glampio yng nghefn gwlad? Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd diffodd eich goleuadau a chamu allan i fwynhau’r wledd o sêr uwch eich pen.

Bydd pâr da o finociwlars yn siŵr o’ch helpu i weld mwy, gan gynnwys nodweddion y lleuad. Yn ystod cyfnod lleuad newydd, gall telesgop eich helpu chi i weld gwrthrychau llai llachar, fel galaethau pell i ffwrdd, nifylau a chlystyrau o sêr diddorol. Dewch â’ch offer eich hun gyda chi, neu edrychwch i weld a oes offer ar gael yn eich llety neu a oes modd i’r perchennog drefnu i chi gael benthyg offer i syllu ar y sêr. Holwch hefyd am dywyswyr lleol all eich harwain i'r llefydd gorau i weld y machlud neu wawr dros y mynydoedd.

Beth am gael gafael ar siart o’r sêr neu blanisffer i’ch helpu i adnabod ac i enwi’r planedau, y sêr a ffenomena eraill yr wybren dywyll? Gallwch chi hefyd lawrlwytho apiau defnyddiol  - maw sawl un ar gael am ddim.

Os yw’r awyr yn glir, mae hefyd yn debygol o fod yn oerach, hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf, felly cofiwch fynd â dillad cynnes neu garthen gyda chi. Os ewch chi â diod gynnes a phicnic blasus gyda chi, gallwch chi syllu ar y sêr tan oriau mân y bore – neu hyd yn oed aros i wylio’r wawr yn torri a’r wybren yn newid unwaith eto.

Mae lleuad llawn yn llachar iawn ac yn ei gwneud hi'n anoddach gweld y sêr yn glir, felly ceisiwch ddewis noson glir pan mae'r lleuad yn newydd.

Cofiwch gael cipolwg i weld ble mae’r Safle Darganfod Wybren Dywyll agosaf, a pha bryd y bydd grwpiau lleol neu Awyr Dywyll Cymru yn cynnal digwyddiadau arbennig.

Safleoedd Darganfod y Wybren Dywyll yng Ngheredigion

Mae Safle Darganfod Wybren Dywyll Coed y Bont wedi’i leoli mewn coetir cymunedol, ac mae’n lle hygyrch a diogel i syllu ar y sêr. Mae hefyd yn gartref i’r bele, creadur bach swil sy’n mentro allan o’i ffau liw nos. Fe gewch chi hyd i’r safle rhwng pentref Pontrhydfendigaid ac abaty Ystrad Fflur.

Os mentrwch chi ymhellach i Fynyddoedd Cambria i'r dwyrain o Ffair Rhos, ger Pontrhydfendigad fe gyrhaeddwch chi at Lynnoedd Teifi, sydd o fewn ffiniau Parc Awyr Dywyll Cwm Elan

Ger Pontarfynach, mae Safle Darganfod Wybren Dywyll y Bwa. Mae ffotograffwyr wedi tynnu lluniau trawiadol fan hyn o sêr di-ri yn disgleirio uwchben y bwa carreg sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif.  

O Bontarfynach, fe allwch chi ymweld ag Ystad Cwm Elan sydd wedi’i dynodi’n Barc Wybren Dywyll. Yno, fe gynhelir digwyddiadau rheolaidd i syllu ar y sêr, ac mae astroffotograffwyr wrth eu bodd yn mynd yno i dynnu lluniau o’r sêr uwchben yr argaeau.

Os ewch chi ar hyd y ffordd fynydd o Dregaron, a dilyn y ffordd gul heibio i gapel anghysbell Soar y Mynydd, fe ddowch chi at gronfa ddŵr Llyn Brianne. Mae maes parcio’r argae yn Safle Darganfod Wybren Dywyll.

Drwy deithio ar hyd traciau heb wyneb caled drwy’r Elenydd, fe gyrhaeddwch chi hostelau anghysbell Tŷ’n Cornel a Dolgoch sydd hefyd yn Safleoedd Darganfod Wybren Dywyll. Ar yr arfordir, mae traethau Penbryn a Chwmtudu hefyd wedi’u dynodi’n safleoedd o’r fath. 

 

Darganfod byd natur rhwng y cyfnos a'r wawr

Pan fydd hi’n nosi dros fisoedd y gaeaf, cewch wylio un o’n rhyfeddodau naturiol mwyaf trawiadol pan fydd y drudwy’n ymgasglu i glwydo dros nos. Promenâd Aberystwyth yw un o’r llefydd gorau i’w gwylio’n gwau eu patrymau cymhleth yn yr awyr cyn mynd i glwydo dan y pier tan y bore bach.

Mae enw Saesneg y troellwr mawr (ightjar) yn crybwyll ei fod yn greadur y nos. Mae’r aderyn hwn yn dod i Gymru o Affrica ym mis Mai cyn ymfudo eto ym mis Awst/Medi. Ei brif gynefin yng Ngheredigion yw rhostiroedd a choedwigoedd conwydd yr ucheldir, yn enwedig ym Mynyddoedd Cambria.

Mae’n hawdd adnabod y dylluan wen pan fydd hi’n mynd ar ei hynt i hela yn y cyfnos - ei lliw golau'n ei gwneud yn hawdd i'w gweld. Ond dyw’r dylluan wen ddim yn hedfan ar ei gorau pan fydd ei phlu yn wlyb, felly os gwelwch chi un yng ngoleuadau’ch car, rhowch ddigon o amser iddi hedfan oddi yno’n ddiogel.

Pan fydd hi’n nosi, cadwch lygad am ystlumod hefyd. Fe allech chi eu gweld nhw’n hedfan o amgylch goleuadau stryd, ar hyd gwrychoedd a rhwng llinellau o goed. Mae ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Safle Darganfod Wybren Dywyll hefyd. Yno, mae’r coedwigoedd a’r dolydd tawel yn llefydd delfrydol i weld ystlumod.

Mae Castell Aberteifi yn gartref i un o’n hystlumod cynhenid prin, ystlum y bedol fwyaf. Mae’r safle’n cael ei warchod yn ofalus, ond gallwch chi wylio’r creaduriaid yn clwydo drwy wylio’r camera ystlumod. O bryd i’w gilydd, gallwch chi fynd ar daith dywys arbennig i’w gweld. 

Mae Ceredigion yn gyfoethog o goetiroedd a gwrychoedd, ac fe allwch chi fwynhau swyn a sain côr y bore bach ble bynnag y byddwch chi. Efallai y gwelwch chi bryfed tân yn pefrio fel goleuadau bach yng ngwrychoedd Ceredigion dros fisoedd yr haf. Cadwch lygad amdanyn nhw’n fuan ar ôl iddi nosi ar nosweithiau tywyll o ddiwedd mis Mai tan fis Medi.

Ddechrau’r gwanwyn, cadwch lygad am lyffantod yn croesi’r ffordd, yn enwedig ger llynnoedd neu afonydd – fel ffordd y B4343 rhwng Tregaron a Llambed sy’n dilyn hynt afon Teifi. Mae arwyddion ffordd arbennig yno i’ch rhybuddio!

Beth am edrych i weld a oes teithiau tywys ar gael gyda’r nos neu ben bore yng ngwarchodfa RSPB Ynys-hir, neu beth am gysylltu ag un o grwpiau bywyd gwyllt Ceredigion i ymuno â phrosiect gwirfoddol i gofnodi bywyd gwyllt?

Machlud haul mawreddog

Mae Ceredigion yn adnabyddus am ei machlud, yn enwedig ar yr arfordir lle bydd yr haul yn ymddangos fel pe bai’n suddo i’r môr gan droi’r awyr yn gynfas amryliw. O dymor i dymor, bydd yr olygfa’n newid wrth i’r haul fachlud mewn gwahanol fannau ar hyd y gorwel.

Mae ffotograffwyr ac arlunwyr wrth eu bodd â naws dawel a golau tyner yr Awr Las, pan fydd lliw glas y sbectrwm ar ei gryfaf. Mae hyn yn digwydd pan fydd yr haul ychydig islaw’r gorwel – yn union cyn machlud haul ac yn fuan ar ôl toriad gwawr.

Pan fydd yr haul yn machlud, cadwch lygad am ffenomenon y fflach werdd, yn enwedig os bydd yr haul yn ymddangos fel rhith ar y gorwel.

Gallwch chi hyd yn oed drefnu i fynd ar fordaith o Aberteifi neu Gei Newydd i wylio’r wawr neu’r machlud – dwy adeg berffaith o’r dydd i weld bywyd gwyllt yr arfordir.