Marchogaeth

Ceredigion yw cartref ceffylau marchogaeth gorau’r byd — y cobiau a’r merlod Cymreig. Cewch flas ar gynefin naturiol y ceffylau cynhenid hyn wrth i chi farchogaeth ar hyd lonydd gwledig, llwybrau ceffylau, a llwybrau hynafol Ceredigion. Bydd llwybrau marchogaeth Ceredigion yn mynd â chi drwy goetiroedd tawel, drwy ddyffrynnoedd afonydd, ac ar hyd llwybrau mynydd hynafol y bugeiliaid a’r porthmyn gynt.


Mae gennym rwydwaith rhagorol o lwybrau ceffylau, llwybrau irlas, a lonydd tawel lle gallwch fynd i farchogaeth a gweld Ceredigion ar ei gorau. Gallwch ddewis o blith dwsin o lwybrau â chyfeirbyst, neu beth am ddilyn y llwybr 78 milltir (126km) o hyd sy’n croesi’r sir o’r gogledd i’r de gan ymweld â dyffrynnoedd Rheidol, Ystwyth, Aeron a Teifi?

O’r dwyrain i’r gorllewin, mae Llwybr y Tywysog Llywelyn yn croesi tirwedd amrywiol Ceredigion, o Fynyddoedd Cambria i draethau Bae Ceredigion. Mae’r llwybr hefyd yn ymuno â’r Rhwydwaith Cenedlaethol o Lwybrau Ceffylau, ac mae’n fan cyfleus i ddechrau darganfod cefn gwlad Ceredigion sy'n estyn yr holl ffordd o dyffryn afon Dyfi i ddyffryn afon Teifi.

Llwybr llinellog yw Llwybr Ystwyth hefyd. Mae’n cysylltu Aberystwyth, y dref brifysgol ger y lli, â Thregaron, y dref farchnad fach ym Mynyddoedd Cambria. Roedd Tregaron yn enwog ymhlith anturiaethwyr cynnar a fyddai’n mynd yno i deithio i’r mynyddoedd ar gefn y merlod Cymreig a fyddai'n cael eu casglu oddi ar y mynyddoedd gan ffermwyr lleol. Mae hwn yn llwybr amlddefnydd, ac mae rhannau ohono’n addas ar gyfer marchogaeth. Mae’n cysylltu â llwybrau cylchol ar draws llethrau coediog yn Llanilar (Llwybr 2 Ceredigion ar Gefn Ceffyl) a Thrawsgoed (Llwybr 7 Ceredigion ar Gefn Ceffyl).

Mae pob un o’r llwybrau hyn yn addas ar gyfer ceffylau sy’n cael eu marchogaeth yn rheolaidd, ac maen nhw’n amrywio o ran hyd a her. Llwybr chwe milltir (9km) hamddenol ar hyd lonydd tawel ac ymylon caeau yw llwybr cylchol Penbryn (Llwybr 10); ond mae llwybr cylchol Llanilar yn 21 milltir (34km) o hyd, ac mae'n dilyn rhan o hen lwybr y rheilffordd, gan godi a disgyn yn serth mewn mannau wrth groesi aeliau'r bryniau rhwng dyffrynnoedd afonydd Rheidol ac Ystwyth. Ar sawl un o’r llwybrau, gallwch ddewis mynd ar hyd llwybr cylchol byrrach neu hirach, neu ymuno â llwybrau eraill.

Ar y wefan Cerdded a Marchogaeth, fe welwch fanylion llwybrau eraill sy’n addas i farchogion.

Weithiau, bydd gwaith cynnal a chadw’n digwydd ar rai llwybrau. Cyn mynd i farchogaeth, chwiliwch am yr wybodaeth ddiweddaraf am eich llwybr.

Mae Grŵp Llwybrau Ceffylau Ceredigion (Ceredigion Bridleways Group) yn trefnu teithiau hwyliog ac mae ganddo wefan ddefnyddiol.

Mae’r rhifau ar y map isod yn cyfeirio at gasgliad o lwybrau a gyhoeddwyd yn y llyfryn Ceredigion ar Gefn Ceffyl. Gallwch lawrlwytho copi o’r bar ochr.