Bwyd a diod Ceredigion: y gorau o Gymru

Bwyd môr Bae Ceredigion. Pysgod afon Teifi. Cig oen, eidion a phorc Mynyddoedd Cambria. Ffrwythau, perlysiau, a bwyd gwyllt diddorol. Dim ond rhai o’r cynhyrchion bwyd a diod sy’n dod o ddŵr a daear Ceredigion. Fe allwch chi brynu’r cynhyrchion hyn i gyd yn lleol, yn aml gan y cynhyrchwyr eu hunain. Ac fe allwch chi fynd i’n bwytai bendigedig i fwynhau bwydlenni wedi’u paratoi’n ofalus gan gogyddion sydd wrth eu bodd â’n cynhwysion lleol.


O ddŵr ffynnon pur i jin gwymon môr organig, mae cynhyrchion a brandiau bwyd Ceredigion yn enwog ledled y byd.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a basiwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, mae ein ffermwyr a’n cynhyrchwyr ymroddedig yn creu cynnyrch o safon â blas heb ei ail. Ac mae'r cynnyrch hwn ar werth mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, siopau cig, caffis, tafarndai, a bwytai ledled Ceredigion.

Gallwch chi ymweld ag ystad fferm o’r 18fed ganrif yn Llanerchaeron (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) sy’n dal i gael ei rheoli mewn ffordd hunangynhaliol. Yno, fe welwch chi dda byw cynhenid, gan gynnwys gwartheg duon Cymreig, moch Cymreig, a defaid Llanwenog – defaid sy’n cael eu magu i gadw cydbwysedd yr amgylchedd drwy bori er lles cadwraeth. Yn siop yr ystad, gallwch chi brynu cig oen, eidion a phorc o’r fferm, yn ogystal â ffrwythau, llysiau a phlanhigion o’r gerddi.

Gallwch chi hefyd grwydro i weld y gerddi a’r cychod gwenyn. Oeddech chi’n gwybod bod medd yn cael ei wneud o fêl? Gallwch chi ddysgu mwy am wenyn, mêl a medd drwy ymweld â Fferm Fêl Cei Newydd. Yno, gallwch chi hefyd ddysgu sut i gadw gwenyn, a dysgu mwy am fwyd gwyllt a moddion naturiol Ceredigion. 

Bwyd môr Bae Ceredigion

Bydd cwsmeriaid yn mwynhau bwyd môr Ceredigion mewn bwytai ledled Ewrop, yn ogystal â bwytai bendigedig Ceredigion ei hun. Beth am ymweld ag un o ŵyliau bwyd môr Ceredigion i wylio arbenigwyr yn paratoi pysgod a bwyd môr, ac i flasu danteithion newydd? Fe gewch chi gyfle i sgwrsio â chogyddion adnabyddus a dawnus, a mwynhau cynnyrch Bae Ceredigion ar ei orau.

Fe gewch chi hefyd hyd i stondinau sy’n gwerthu pysgod a bwyd môr ym marchnadoedd ffermwyr Ceredigion. I gael gwybod pa bysgod a bwyd môr sydd yn eu tymor, sut i’w coginio, a sut i adnabod ac enwi gwahanol bysgod a chramenogion, edrychwch ar boster Pysgodfeydd Cymru.

Caws Ceredigion

Gyda thir pori bras, traddodiad hir o gynhyrchu llaeth, a ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu cawsiau arbenigol, fyddwch chi ddim yn synnu o weld dewis da o gawsiau blasus Ceredigion yn ein siopau a’n bwytai lleol.

Gallwch chi ymweld â rhai o ffermydd dyffryn Teifi i weld y broses o gynhyrchu caws: Caws Cenarth ar Fferm Glyneithinog ger Cenarth, a Caws Teifi ar Fferm Glynhynod ger Llandysul. Ar fferm laeth ger y Borth yng ngogledd Ceredigion, fe ddechreuodd un o’n busnesau llaeth mwyaf adnabyddus, Rachel’s Dairy, drwy gynhyrchu iogwrt a chynhyrchion llaeth blasus eraill. Os byddwch chi’n prynu caws o rai o siopau gorau Llundain, mae’n ddigon posibl eich bod yn gyfarwydd â chaws Hafod a chaws Gorwydd, y ddau yn cael eu cynhyrchu ar ffermydd teuluol yn nyffryn Teifi.

Pa ffordd well o gadw atgofion eich gwyliau’n fyw na mynd â bwyd a diod Ceredigion adre gyda chi? Maen nhw hefyd yn anrhegion gwych. Beth am archebu hampyr arbennig ar gyfer parti neu ddathliad, neu beth am osod archeb reolaidd i gael cynnyrch gorau Ceredigion yn syth i garreg y drws?