Chwedlau Ceredigion

Mae gan Geredigion drysorfa o chwedlau sy'n adrodd straeon am diroedd coll ac arallfyd Celtaidd, marchogion, tywysogion a chewri, brenhinoedd a thywysogesau a ddrylliwyd ar y môr, môr-forynion, ysbrydion a thylwyth teg, a hen wragedd yn twyllo’r diafol ei hun. Mae rhai o olygfeydd cyfareddol a straeon cofiadwy'r Mabinogi hefyd yn digwydd yng Ngheredigion.


Tiroedd coll – Cantre’r Gwaelod ac Annwfn

Heb os, chwedl Cantre’r Gwaelod am foddi Maes Gwyddno yw un o’n chwedlau enwocaf. Tybed a yw rhai o’r nodweddion sydd i’w gweld ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn awgrymu bod rhyw wirionedd i’r hanes hwn? A beth am fynd i chwilio am fynedfa Annwfn, yr arallfyd Celtaidd, yn nyffryn Teifi?

Tiroedd coll – Cantre’r Gwaelod ac Annwfn


Y Brenin Arthur yng ngwlad y cewri

Mae ein chwedlau a’n llên gwerin yn egluro llawer o nodweddion arbennig tirwedd Ceredigion – o byllau ar waelod rhaeadrau i greigiau ar ganol traethau. Beth am gerdded i ben bryngaer, mynd am dro ar lan afon, neu fynd am antur ar lan y môr i gael hyd i’r nodweddion sydd wedi ysbrydoli’r straeon hyn, a darganfod tirwedd amrywiol Ceredigion ar yr un pryd? 

Y Brenin Arthur yng ngwlad y cewri


Ysbrydion Ceredigion, a hanes twyllo’r Diafol

Does dim dwywaith bod Ceredigion yn sir dawel, ond mae yna sôn bod ysbrydion yn crwydro ein plasdai, ein mwyngloddiau a'n lonydd tawel. Beth am ymuno â storïwyr a helwyr ysbrydion Ceredigion i gael gwybod mwy? Mae llên gwerin Ceredigion yn cynnwys nifer o straeon am unigolion a lwyddodd i dwyllo’r Diafol. Yn eu plith mae un o straeon enwocaf Cymru sy’n gysylltiedig â hanes adeiladu pont gyntaf Pontarfynach.

Ysbrydion Ceredigion, a hanes twyllo’r Diafol