Celf, cerdd a pherfformio

Mae tirwedd, môr, bywyd gwyllt a chymeriadau Ceredigion wedi bod yn ysbrydoli arlunwyr, ffotograffwyr ac awduron lu ers cenedlaethau lawer. Ac mae sîn gelfyddydol Ceredigion yn llawn bwrlwm o hyd. Beth am dynnu’ch lluniau’ch hunan, mynd ar gwrs byr, ymweld â stiwdio arlunydd, mynd i gyngerdd neu ymarfer côr, neu dreulio penwythnos i’w gofio yn un o’n gŵyliau niferus?


Cerddoriaeth a pherfformio

Does dim dwywaith fod Ceredigion yn sir gerddorol. Mae’r Cardis yn creu, yn perfformio ac yn mwynhau cerddoriaeth o bob math mewn lleoliadau o bob math. Prin fod unrhyw gymuned yng Ngheredigion heb gôr. Mae Aberystwyth ei hun yn gartref i ddwsin o gorau ac ensemblau. Gallwch chi glywed cerddoriaeth fyw mewn tafarndai, neuaddau pentref, amgueddfa, castell, ac ambell gae hyd yn oed – ry'n ni'n sicr yn cynnal ein gŵyliau cerdd mewn lleoliadau gwych. Ac mae’r arlwy’n eang hefyd – o gerddoriaeth werin i gerddoriaeth glasurol, o gerddoriaeth roc a jazz i gerddoriaeth y byd.

 

Cerddoriaeth a pherfformio


Celf ac arlunwyr Ceredigion

Mae Aberystwyth yn gartref i gasgliadau celf o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Yn eu plith mae casgliad gwych o gelf serameg, gwaith print a chelf addurniadol sy’n dyddio o’r 15fed i’r 20fed ganrif, a gwaith arlunwyr adnabyddus o Gymru. Ym mhob twll a chornel o Geredigion, fe gewch chi hyd i arlunwyr cyfoes sy’n gweithio mewn gwahanol gyfryngau. Bydd llawer ohonyn nhw’n agor eu stiwdios ac yn cynnal gweithdai neu arddangosfeydd arbennig fel rhan o Daith Celf a Chrefft Ceredigion. Ac mae yma ddigon o gyfle i chi greu hefyd.

Celf ac arlunwyr Ceredigion