Darganfod traethau, harbyrau a phentrefi glan môr Ceredigion

Gydag arfordir chwedeg milltir o hyd, traethau tywod sy’n ddelfrydol i deuluoedd, a childraethau cysgodol, mae Ceredigion yn lle poblogaidd i ddod ar wyliau glan môr. Yma, fe gewch chi ddarganfod ogofâu, pyllau glan môr, twyni tywod, ac olion coediwg hynafol Cantre'r Gwaelod.  Ac mae yma ddigon o le i fwynhau chwaraeon dŵr o bob math hefyd. Ry’n ni’n falch o safon uchel ein traethau, gyda nifer ohonnynt yn ennill cydnabyddiaeth Baner Las, Gwobr Glan Môr ac bob blwyddyn.  

Ry’n ni’n rhestru’r cymunedau a'r traethau isod môr yn eu trefn o’r gogledd i’r de.

 


Pentref a thraethau Borth ac Ynyslas

Bron i dair milltir o dywod euraid. Dŵr bas. Baner Las a Gwobr Glan Môr. Does ryfedd mai’r Borth yw un o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion ymhlith teuluoedd. Mae digonedd o le i redwyr, syrffwyr a barcudfyrddwyr ar draeth cyfagos Ynys-las hefyd.

Pentref a thraethau Borth ac Ynyslas


Clarach a Wallog

Traeth cysgodol Clarach yw un o draethau pentref gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion. O Glarach, fe allwch chi gerdded i Aberystwyth dros Graig Glais neu i draeth anghysbell Wallog i weld Sarn Gynfelyn, un o sarnau colledig Cantre’r Gwaelod yn ôl yr hanes.

 

Clarach a Wallog


Traethau Aberystwyth

Glan y môr yw calon Aberystwyth, a bydd ymwelwyr a thrigolion lleol, fel ei gilydd, wrth eu bodd yn mynd am dro ar hyd y prom sy’n cysylltu traethau’r de a’r gogledd, y naill ochr a’r llall i bentir y castell. 

 

Traethau Aberystwyth


Aberystwyth

Peidiwch â gadael i’w ffordd o fyw hamddenol a’i lleoliad ar arfordir y gorllewin eich twyllo.  Mae Aberystwyth yn dref brifysgol â gorwelion eang sy’n fwrlwm o ddiwylliant a syniadau. I ddarganfod ei threftadaeth gyfoethog, ewch i ymweld ag amgueddfeydd, archifdai ac orielau’r dref. Tybed allwch chi gyfrif sawl gwaith byddwch chi’n dod ar draws termau fel ‘y cyntaf’, ‘yr hynaf’, ‘yr hiraf’, ‘y gorau’…?

Mae Aberystwyth yn lle delfrydol i aros er mwyn darganfod arfordir Bae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.

 

Aberystwyth


Glannau Llanrhystud, Llannon, Aber-arth ac Aberaeron

I’r de o Aberystwyth mae’r arfordir yn wyllt,  a rhwng Llanrhystud ac Aberaeron mae traethau caregog, ond tywodlyd pan mae'r llanw ar drai,  a chreigiau wedi’u llyfnhau gan donnau’r môr. Mae'n boblogaidd gyda syrffwyr profiadol lleol ac mae hanes diddorol i’w ddarganfod ar hyd y glannau hyn hefyd.  

 

Glannau Llanrhystud, Llannon, Aber-arth ac Aberaeron


Aberaeron

Tref fach dlws, fel darlun cerdyn post, gydag adeiladau lliwgar, harbwr hamddenol,  'Slawer dydd, roedd yn borthladd pysgota a masnachu prysur, o lle hwyliodd rhai o deuluoedd Ceredigion i chwilio am fywyd newydd yn America. Erbyn heddiw, gyda'i rhaglen brysur o ddigwyddiadau bob haf, Aberaeron yw un o drefi mwyaf poblogaidd Ceredigion.

Aberaeron


Traethau a phentref y Cei Newydd

Mae tri thraeth braf yng Nghei Newydd – Traeth yr Harbwr, Traeth y Dolau, a Thraeth Gwyn. Traeth yr Harbwr, gyda’i dywod euraid gwych, yw’r prif draeth. Mae’n swatio islaw’r pentref, ac mae wal yr harbwr yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd y môr. Gyda Baner Las, dŵr glân clir, ardal nofio ddiogel, a thywod mân meddal, mae Traeth yr Harbwr yn ffefryn ymhlith teuluoedd, ac yn lle delfrydol i folaheulo ac i godi cestyll tywod.

Traethau a phentref y Cei Newydd


Pentref a thraethau Llangrannog

Llangrannog yw un o bentrefi glan môr mwyaf poblogaidd Ceredigion, ac mae'n denu teuluoedd a syrffwyr fel ei gilydd. Mae Carreg Bica, y graig sy’n ymwthio fel dant o’r tywod, yn gwahanu’r ddau draeth.

Gerllaw mae gwersyll a chanolfan gweithgareddau'r Urdd.

Pentref a thraethau Llangrannog


Penbryn

Mae traeth Penbryn, gyda’i dywod mân euraidd, yn swatio dan lethrau coediog. Yno, fe allwch chi chwilota mewn pyllau glan môr ac ogof smyglwyr. Mae hefyd yn lle hyfryd i syllu ar y sêr liw nos.

Penbryn


Pentref a thraeth Tresaith

Beth sydd i’w weled yn Nhre-saith? Dyna un o gwestiynau Cynan yn ei gerdd fawl i’r pentref. Wel, heddiw, fe welwch chi draeth o dywod euraid braf, Baner Las yn cyhwfan yn yr awel, pobl yn syrffio ac yn hwylio yn y tonnau, a phlant yn chwilota mewn pyllau glan môr. Mae enw’r pentref yn tarddu o chwedl Geltaidd, ac mae nofel boblogaidd wedi’i lleoli yno hefyd.

 

Pentref a thraeth Tresaith


Pentrf a thraeth Aberporth

Islaw’r pentref prydferth hwn, mae penrhyn bach yn gwahanu’r traeth euraid braf yn ddau: Traeth Dolwen ar y naill law a Thraeth y Dyffryn ar y llall. Gyda theuluoedd yn heidio yno, mae’n lle poblogaidd i adeiladu cestyll tywod, creu celf tywod, a chwilota mewn pyllau glan môr.

Pentrf a thraeth Aberporth


Traeth Mwnt

Llecyn delfrydol ar arfordir Ceredigion yw’r Mwnt. O ben Foel y Mwnt, uwchlaw’r traeth euraid cysgodol, fe gewch chi olygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. I gyrraedd y traeth ei hun, rhaid i chi gerdded i lawr rhes o risiau wrth ymyl y nant.

Traeth Mwnt


Aberteifi - tref harbwr hanesyddol ar lannau'r Teifi

Aberteifi yw’r porth hanesyddol i Geredigion o’r de-orllewin. Yn y 18fed ganrif, roedd yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu arhyd arfordir Cymru ac Iwerddon ac draws yr Iwerydd.

 

Aberteifi - tref harbwr hanesyddol ar lannau'r Teifi