Penbryn

Mae traeth Penbryn, gyda’i dywod mân euraidd, yn swatio dan lethrau coediog. Yno, fe allwch chi chwilota mewn pyllau glan môr ac ogof smyglwyr. Mae hefyd yn lle hyfryd i syllu ar y sêr liw nos.


Mae traeth Penbryn, gyda’i dywod mân euraidd, yn swatio dan lethrau coediog. Yno, fe allwch chi chwilota mewn pyllau glan môr ac ogof smyglwyr. Mae hefyd yn lle hyfryd i syllu ar y sêr liw nos.

Traeth gwledig â bron i filltir o dywod meddal yw traeth Penbryn. Mae afon Hoffnant yn llifo o’r llethr coediog uwchlaw ar draws y traeth i’r môr. Gyda chysgod rhag y gwyntoedd, mae’r traeth sy’n disgyn yn raddol tua’r môr yn boblogaidd ymhlith teuluoedd.

Fe gewch chi hyd i byllau glan môr ar ben deheuol y traeth, ac ogof smyglwyr ar y pen gogleddol.

Does ryfedd iddo gael ei ddewis yn lleoliad i ffilmio diweddglo rhamantus y ffilm James Bond, Die Another Day.  

I gyrraedd y traeth, gallwch chi gerdded ar hyd lôn goediog o Lanborth lle cewch chi hyd i lefydd parcio a chaffi. Ar y traeth ei hun, mae yna ardal droi i rai sydd angen mynediad anabl neu fynediad brys i’r traeth yn unig.

Gallwch chi hefyd gerdded i’r traeth drwy’r coed sy’n llawn blodau yn y gwanwyn.

Mae traeth Penbryn wedi’i leoli ar Lwybr Arfordir Cymru a Cheredigion, rhwng Tre-saith a Llangrannog.