Gweithgareddau ac anturiaethau awyr agored yng Ngheredigion
Awydd dianc am gyfnod o fywyd bob dydd y dref a’r ddinas, a darganfod rhan newydd o Gymru? Os felly, dewch ar wyliau i Geredigion i gael antur yn yr awyr agored. Cewch lond ysgyfaint o awyr iach wrth i chi roi cynnig ar weithgareddau o bob math, y cyfan yn nhirwedd drawiadol yr arfordir a’r ucheldir.

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn rhan arbennig iawn o Lwybr Arfordir Cymru, gyda'r tirwedd mwyaf amrywiol o'r holl lwybr.
Yn ogystal â golygfeydd gwych i'r gogledd tuag at Eryri ac i'r de tuag at y Preseli yn Sir Benfro, mae gan lwybr Arfordir Ceredigion gyfoeth o fywyd gwyllt, nodweddion daearegol ac archeolegol, a hanes lliwgar i'w ddarganfod ar hyd y ffordd.

Teithiau tywys a llwybrau cylchol yr arfordir
I ddathlu 15 mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion, mae tîm Hawliau Tramwy Arfordir a Chefn Gwlad Ceredigion yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar chwe thaith gerdded dywys yn ystod haf 2023. I archwilio’r arfordir yn annibynnol mae 26 o deithiau cerdded cylchol y gallwch eu dilyn sy’n cysylltu â Llwybr yr Arfordir.

Mae tua 2,500 cilomedr o lwybrau yng Ngheredigion felly mae digon o ddewis os ydych am aros yn lleol, am fynd am dro o gwmpas y dref neu i ddilyn trywydd hirach rhwng môr a mynydd.
Gallwch gerdded i ben Pumlumon, mynydd uchaf Ceredigion, ar hyd pum llwybr.
Am dro hamddenol ar hyd glannau afon neu yng nghoedlannau Ceredigion fe gewch fwynhau lliwiau ac aroglau'r gwahanol dymhorau, a gweld y wlad ar ei gorau.

Gyda'i hinsawdd fwyn a'i phridd asidig, mae Ceredigion yn lle perffaith i greu gerddi creadigol.
Mae garddwyr a meithrinwyr planhigion Ceredigion yn deall y dirwedd, y tywydd, a’r hinsawdd i’r dim, ac maen nhw wedi llenwi rhai lleoliadau annisgwyl â phlanhigion o bob lliw a llun. Mae pob un o'r gerddi hefyd yn noddfa i fywyd gwyllt.

Mordeithiau bywyd gwyllt Bae Ceredigion
Mae dyfroedd Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel, a gallwch fynd ar fordaith i weld y creaduriaid gwyllt hardd hyn yn eu cynefin naturiol.
Mae trip mewn cwch, boed am antur neu i fwynhau prydferthwch byd natur, heb os yn un o uchafbwyntiau unrhyw ymweliad â Cheredigion.

Ceredigion wyllt: natur, coed a rhaeadrau
Mae llond gwlad o lefydd gwyllt i’w darganfod yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae ein rhostiroedd, ein coedwigoedd, ein hafonydd, a’n lonydd tawel gyda’u perthi blodeuog yn gynefinoedd gwych lle gallwch weld amrywiaeth cyfoethog o adar a chreaduriaid eraill.
Dewch am dro a darganfod gwarchodfeydd natur mwyaf arbennig Ceredigion.

Daw adar o bellafoedd Affrica ac yn ynsoedd y gogledd i ymgartrefu am gyfnod yn hesg y corsydd a gwastadeddau heli aberoedd afonydd Teifi a Dyfi. Daw adar môr i nythu a magu eu cywion ar glogwyni creigiog arfordir Bae Ceredigion ac i goetiroedd hynafol a rhostiroedd Mynyddoedd Cambrian.
I adarwyr, bydd rhywbeth arbennig i’w weld neu ei glywed ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Mae bod ar gefn beic yn ffordd ardderchog o fwynhau'r awyr agored yng nghefn gwlad Ceredigion.
Gallwch wibio ar hyd y ffordd fawr neu ymlwybro ar hyd lonydd tawel heb boeni gormod am draffig, neu mae dewis ardderchog o lwybrau mynydd hawdd a heriol.
Gallwch ddilyn y llwybrau ar eich liwt eich hun, neu gallwch ddarganfod hoff lwybrau tywyswyr lleol.

Syrffio, bordhwylio, tirfyrddio, barcudfyrddio – beth bynnag yw'r gamp, mae arfordir Ceredigion yn lle delfrydol i rai profiadol a dibrofiad fel ei gilydd. Bae cysgodol Cei Newydd a thraeth agored y Borth yw dau o draethau mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer chwaraeon dŵr.
Dewch i arfordir Ceredigion i gael antur yn yr awyr agored, a gwneud tipyn o sblash.

Ceredigion yw cartref ceffylau marchogaeth gorau’r byd – y Cobiau a’r Merlod Cymreig.
Cewch flas ar gynefin naturiol y ceffylau hyn wrth i chi farchogaeth ar hyd ein llwybrau ceffylau a’n lonydd gwledig tawel, ar hyd llwybrau coediog dyffrynnoedd ein hafonydd, ac ar hyd llwybrau mynydd hynafol y bugeiliaid a’r porthmyn gynt.

I deimlo’ch traed yn rhydd a chael llond ysgyfaint o awyr iach, beth am fynd i redeg ar hyd arfordir Ceredigion neu ym mryniau a choedwigoedd Mynyddoedd Cambria?
Dydyn ni ddim fel arfer yn eich annog i wibio trwy Geredigion, ond y tro yma, mae'n wahanol. Ry’ch chi’n siŵr o fwynhau ein dewis da o lwybrau, heriau, a chystadlaethau.

Beth am dreulio diwrnod heb gar?
Bydd trenau Lein y Cambrian yn dod â chi bob cam i Aberystwyth, ond gallwch hefyd deithio ar y trên i ymweld â chwech o Drenau Bach Arbennig Cymru. Gall gwasanaethau bws cyflym TrawsCymru eich cludo o brif drefi Ceredigion i drefi a dinasoedd ledled Cymru, a gallwch ddefnyddio gwasanaethau bws lleol i deithio ar hyd ein lonydd prydferth i ymweld â phentrefi gwledig a thraethau gorau Ceredigion.