Apiau am ddim
I gael straeon, gwybodaeth a gweithgareddau ar flaenau eich bysedd, beth am lawrlwytho ap Chwedlau’r Gorllewin? Bydd yr ap yn dod â thirwedd chwedlonol Ceredigion yn fyw. Cewch ddysgu mwy am ddiwylliant yr ardal, ac ymweld â llefydd sy’n gysylltiedig â rhai o’n chwedlau mwyaf cyfareddol, gan gynnwys chwedlau Taliesin, Cantre'r Gwaelod, a Twm Siôn Cati.
Mae gan dref Aberystwyth ap am ddim sy’n cynnwys gwybodaeth am y dref, y siopau a’r bwytai, yn ogystal â chynigion arbennig.
Yn Aberteifi, gallwch ddefnyddio Wi-Fi’r dref am ddim. Gall ymwelwyr â Chastell Aberteifi ddefnyddio Wi-Fi’r castell am ddim i ddysgu mwy am yr adeiladau a’r tiroedd hanesyddol. Gallwch ddilyn tair taith wahanol o amgylch y safle, a gweld lluniau rhyngweithiol, lluniau panormamig 360 gradd, a lluniau o’r castell cyn ac ar ôl y gwaith adfer. Gallwch wylio fideos a gwrando ar straeon sain i ddysgu am hanes y castell, y cyn-berchnogion, a’r ysbrydion sy’n dal i fyw yno.
Gallwch hefyd chwarae gêmau a phosau rhyngweithiol, a chael hyd i eitemau hanesyddol cudd i ddatrys yr Helfa Drysor. Wrth i chi grwydro o amgylch y safle, fe gewch chi hysbysiadau ar eich ffôn am fannau o ddiddordeb, ac fe gewch chi newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau’r castell yn syth i’ch ffôn.
Mae apiau Ceredigion yn defnyddio technoleg GPS a Beacon i ddangos cynnwys perthnasol areich dyfais pan fyddwch chi'n crwydro o le i le.
Gallwch lawrlwytho’r apiau am ddim i’ch ffôn clyfar neu’ch llechen o’ch cartref i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad, neu gallwch ddefnyddio Wi-Fi lleol am ddim i’w lawrlwytho ar ôl cyrraedd.
Ap tref Aberystwyth am ddim
Ap tref Aberystwyth ar Google Play
Ap tref Aberystwyth ar yr AppStore
Ap tref Aberteifi am ddim
Ap tref Aberteifi ar Google Play
Ap tref Aberteifi ar yr AppStore
Ap Castell Aberteifi
Ap Castell Aberteifi ar Google Play
Ap Castell Aberteifi ar yr AppStore
Ap Chwedlau'r Gorllewin
Ap Chwedlau'r Gorllewin ar Google Play
Ap Chwedlau'r Gorllewin ar yr AppStore
Ap Llwybr Arfordir Cymru
Defnyddiwch yr ap hwn i gael teithiau cerdded anghyffredin. Mae’n cynnwys gweithgareddau hwyliog i blant, ac adnoddau rhyngweithiol sy’n gweithio gyda’r byrddau gwybodaeth sydd wedi’u gosod mewn saith lleoliad ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Cei Newydd yw un o’r lleoliadau hyn, union hanner ffordd ar hyd y llwybr. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau rhithwir i ddysgu am Storm Fawr 1859, y storm fwyaf i daro arfordir Cymru erioed, gan gynnwys tri lle yng Ngheredigion: Aberystwyth, Cei Newydd, ac Aberporth.
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli sawl safle yng Nheredigion. Mae dau ap y gallwch eu lawrwlytho. Mae’r ap PlacesToGo yn dangos ble gallwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud yng nghoedwigoedd cyhoeddus Cymru a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Gallwch chwilio am fapiau llwybrau cerdded a chanfod i ble i fynd i feicio mynydd ac i farchogaeth mewn coedwigoedd.
Mae’r ap Place Tales yn egluro treftadaeth naturiol a diwylliannol rhai o’r coedwigoedd a’r gwarchodfeydd hyn. Mae’n cynnwys llwybrau sain a chwedlau gwerin i helpu i ddod â’r mannau hyn yn fyw
Gellir lawrlwytho’r ddau ap yn rhad ac am ddim ar Android a dyfeisiau iOS o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Cadw
Ar ap Cadw, cewch fanylion holl safleoedd Cadw ledled Cymru, gan gynnwys Ystrad Fflur yng Ngheredigion.
Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Cadw.
Gwefan Gwlad y Chwedlau
Ar wefan Gwlad y Chwedlau, cewch hyd i fap sy’n dangos lleoliad straeon a chwedlau o bob math, yn ogystal â gwybodaeth am feirdd a llenorion o bob rhan o Gymru.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru.