Digwyddiadau
Gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i’ch diddanu, mae Ceredigion fel arfer yn fwrlwm o weithgareddau gydol y flwyddyn. Ry’n ni’r Cardis yn gwybod sut i gael hwyl, ac ry’n ni’n barod i ddathlu popeth, o’n ceffylau cynhenid a’r macrell di-nod i gerddorion ac artistiad o fri. Mae bwyd da a cherddoriaeth dda yn rhan annatod o’n bywyd ac mae yma ddigon i bawb.
Dewch i ymuno yn yr hwyl. Fe welwn ni chi yno!
Mae trefnwyr yn brysur yn paratoi i sicrhau bod digwyddidau yn digwydd yn ddiogel a llawn sbri. Mae rhai digwyddiadau blynyddol heb eu cadarnhau eto. Ewch i wefannau neu gyfryngau cymdeithasol y lleoliadau neu'r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf. Gall rhai digwyddiadau fod yn fyw ac ar lein.
Mae rhestr o ddigwyddiadau yn cael eu rhannu dan ' Events' ar Dudalen Facebook Darganfod Ceredigion hefyd.

Yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy'r flwyddyn, mae gan Geredigion sawl gŵyl fwyd a diod yn ystod y flwyddyn, lle gallwch chi flasu danteithion a chynnyrch crefftus lleol.
Blaswch gwrw wedi’i fragu a gin a wisgi wedi’u distyllu’n lleol, blaswch fwyd môr Bae Ceredigion a sewin afon Teifi a darganfyddwch amrywiaeth o gaws, teisennau a chyffeithiau a gynhyrchwyd yn lleol.
Ymlaciwch, mwynhewch, a gwnewch ychydig o siopa am ddanteithion a chofroddion blasus o Geredigion.

O'r diwedd ... ar ôl mwy na dwy flynedd o baratoi, gohirio, rhagweld ac aros bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal yng Ngheredigion ym mis Awst 2022. Bydd Cymry o bell ac agos yn dod ynghyd i fwynhau hwyl yr ŵyl sy'n dathlu pob agwedd ar ddiwylliant Cymru gan gynnwys celf, gwyddoniaeth, treftadaeth a busnes yn ogystal â cherddoriaeth, barddoniaeth, comedi a chyngherddau.
Clywch, siaradwch, trochwch eich hunan mewn diwylliant Cymraeg byw ar y Maes yn Nhregaron ac ar draws Ceredigion.

Mae'n debyg bod gan Geredigion fwy o sioeau nag unrhyw ardal arall, gyda phob cymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu, cystadlu a chael hwyl. Dewch i edmygu'r anifeiliaid a chael eich syfrdanu gan y gorau o gefn gwlad Ceredigion.
Mae gan bob sioe ei chymeriad ei hun, ac mae ystod eang o ddosbarthiadau o goginio, crefft a gosod blodau i yrru cerbydau, cneifio defaid a chystadlaethau cŵn.
Efallai y byddech chithau hefyd am roi cynnig ar rai o'r dosbarthiadau hwyl?