Gwybodaeth ymarferol i'ch cynorthwyo i gynllunio eich ymweliad

Rydym wrth ein bodd  i estyn croeso i ffrindiau hen a newydd i’n cymuned ni yma yng  Ngheredigion. Fel ymwelwyr rydych chithau’n rhan o’r gymuned hon nawr. Hydewrwn y cewch fwynhad o'ch ymweliad ag un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru lle cewch groeso twymgalon. Mae Ceredigion yn amcanu i fod yn gyrchfan ymwelwyr groesawgar, gyfrifol a chynaliadwy. Gwnewn bob ymdrech i wneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. 

Mae cynllunio o flaen llaw yn ffordd o sicrhau y cewch y gorau o'ch ymweliad. Dilynwch y linciau ar y wefan am fwy o wybodaeth a cysylltwch gyda'r Canolfannau Croeso i holi am wybodaeth leol.