Tablau Llanw ac arolygon y tywydd

Cyn mentro allan ar hyd yr arfordir, ar y tir neu’r môr, cofiwch gael cipolwg ar y tablau llanw.

Os nad y'ch chi’n gyfarwydd â siâp y traethau a’r pentiroedd, fe allech chi fynd i drafferth os byddwch wedi mentro ychydig yn bellach na’r bwriad, neu os bydd amser wedi hedfan heibio wrth i chi fwynhau'ch hunan.


Yn y tablau isod, fe welwch frasamcan o amser ac uchder y llanw yn Aberystwyth.

I gael syniad o amser y llanw mewn lleoliadau eraill ar hyd Bae Ceredigion, gallwch dynnu neu ychwanegu amser fel hyn:

Bar aber y Teifi - 33 munud (yn gynt na Aberystwyth)
Pont Aberteifi  - 23 munud
Aberporth - 21 munud
Y Cei Newydd  - 7 munud
Aberaeron - 5 munud
Aberystwyth  
Borth + 11 munud (yn hwyrach na Aberystwyth)
Aberdyfi + 18 munud
Glandyfi  + 38 munud

Sylwch: Os bydd y tywydd yn wael, gall effeithio ar uchder y llanw.