Ffordd Cymru : Ffordd yr Arfordir

Dewch i adnabod arfordir Bae Ceredigion - Bae mwyaf godidog - Cymru gyda trip ar hyd Ffordd yr Arfordir, un o deulu Ffordd Cymru sef Ffordd Cambria, Ffordd yr Arfordir a Ffordd y Gogledd – sy’n eich arwain ar draws gwlad o gestyll, ar hyd yr arfordir a thrwy ein cefn gwlad mynyddig. 


Mae Ffordd yr Arfordir yn rhedeg ar hyd Bae Ceredigion yn ei gyfanrwydd. Trywydd 180 milltir (290 cilomedr) o hyd ydyw sy'n nadreddu rhwng Aberdaron ym mhen draw Llŷn i ddinas fechan Tyddewi yn y de orllewin, rhwng moroedd glas ar y naill ochr a mynyddoedd mawr ar y llall.  

Yn ystod eich taith byddwch yn darganfod Arfordir Treftadaeth gwarchodedig, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a dau Barc Cenedlaethol. Ar hyd y ffordd, cewch eich cyfareddu gan dirweddau nodedig Gymreig o draethau euraidd, pentrefi harbwr prydferth, aberoedd ardderchog, cilfachau cudd a chestyll a chaerau cadarn. Mae ardaloedd eang o dywod, clogwyni anferth, yn ogystal â thraethau o bob math.

Ffordd yr Arfordir yng Ngheredigion


Mae Ffordd yr Arfordir yn le wrth fodd calon naturieithwyr, gyda cynefinoedd gwarchodedig yn noddfa i amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, ac mae digon o gyfleoedd i wylio a chraffu'n agos ar y creaduriaid heb darfu arnynt.  Fe welwch lamhidyddion, dolffiniaid, morloi ac adar y glannau ar drip cwch o'r Cei Newydd, neu gallwch archwilio cynefin glas y dorlan, y creyr glas a dyfrgwn rhwng yr hesg ar lannau aber y Tefi. Yn yr haf cewch gyfle i weld y gweilch, neu wyddau'r Ynys Las sydd ymysg ymwelwyr adenogl y gaeaf ar forfa heli aber yr afon Dyfi.  

Gerllaw mae Ynys-hir, gwarchodfa gyntaf Cymru yr ymddiriedolaeth gwarchod adar, yr RSPB.  Os ydych yn teithio ar y tren i Aberystwyth, byddwch yn pasio'n glos i nyth y gweilch a gallwch hefyd weld llochesau gwarchodfa Ynys-hir wrth i'r cledrau groesi Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a chors Fochno.   Mae'r gors, y morfa heli a thwyni tywod Ynys-las o bwysigrwydd rhyngwladol am amrywiaeth yr adar sydd i'w gweld yno.  I danlinellu hyn oll, mae'r clwstwr yma o warchodfeydd yng nghanol unig Fiosffer Cymru sydd wedi ei dynodi gan UNESCO.

Os yw'r amgylchiadau'n iawn, fe gewch gyfle i weld olion y goedwig danfor ar draeth y Borth a'r Ynyslas, cagliad arallfydol o foncyffion coed hynafol sy'n ymestyn am bron i dair milltir ar hyd y traeth.  Yn ôl y chwedl, dyma olion o Gantre'r Gwaelod, y tir a gollwyd i'r mor flynyddoedd maith yn ôl. 

Aberystwyth yw prif dref Ffordd yr Arfordir a chanolbarth Cymru, gyda'r Coleg ger y Lli a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ganlbwynt i fywyd byrlymus y dref glan mor. Mae'r castell a chaer Peninas yn tystio i'w safle strategol rhwng y de a'r gogledd, fel mae'r gymysgedd o acenion gwahanol yr iaith Gymraeg ar ei strydoedd. 

Cymerwch y cyfle i ddargyfeirio oddi wrth yr arfordir am ychydig i archwilio'r mynydd-dir. Cymerwch hoe with deithio ar reilffordd Cwm Rheidol am Bontarfynach , lle mae'r rhaeadrau enwog yn y ceunant chwedlonol. Gallwch fynd yn eich blaen am Yr Hafod neu i alw yn Ystrad Fflur i fwynhau yr hedd a'r hanes.

Byddwch an ddarganfod trefi marchnad Tregaron a Llambed yn ogystal a harbyrau hyfryd Aberaeron a'r Cei Newydd a thraethau Llangrannog ac – rydych yn siwr o gael croeso cynnes.

Mae digonedd o ddolenni a chilffyrdd i’w harchwilio: Pen Llŷn ac Eryri, Ardudwy,  Cadair Idris, Pumlumon a Mynyddoedd Cambria'r canolbarth, Aberteifi a'r Preseli … cyfleoedd i ddarganfod eich llwybr eich hun rhwng y môr a'r mynydd.  Ac ar eich taith cewch ddewis ardderchog o lefydd bwyta ac i aros, a gweithgareddau celfyddydol neu awyr agored di ri i'w profi. 

Mae'n bryd darganfod Cymru a Ffordd Cymru - mwynhewch eich antur!