Llety: ble i aros

Ceredigion yw cartref rhoi o lety mwyaf adnabyddus a nodweddiadol Cymru, sy'n cynnwys gwestai glan môr gyda golygfeydd godidog a thafarndai cefn gwlad sydd bellach yn cynnig profiad penigamp gyda bwydlen arbennig a llety moethus.  Gallwch ddewis aros mewn carafan neu faes gwersylla, neu beth am lety amgen diddorol le gallwch ymlacio gyda prydferthwch natur?


O westai neu wely a brecwast glan afon neu glan môr i ddewis gwych o dafarndai gwledig, gall Ceredigion gynnig llety cyfforddus i chi mewn amgylchedd hanesyddol gyda chyfleusterau a chwaeth fodern.

Fe gewch ddewis o fythynnod gwyliau ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad Ceredigion gyda golygfeydd syfrdanol a digon o le i ymlacio a mwynhau gyda theulu a ffrindiau. Mae meysydd carafanau a gwersylla hefyd mewn lleoliadau da ar gyfer traeth neu wyliau cefn gwlad. 

Awydd cysgu lle bu tywysogion unwaith yn teyrnasu? Neu fwynhau egwyl foethus yn hen gyfrinfa hela gŵr bonheddig yn y goedwig?

Gallwch fod yn agos at y traeth mewn 'sea container' neu hen gerbyd rheilffordd sydd wedi'u trosi'n llety, neu hyd yn oed hen gell carchar - ond eich dewis chi fydd pryd i gyrraedd a gadael, wrth gwrs!

Does dim gwell na deffro i synau tyner nant neu adar y coetir mewn hen felin neu ysgubor.  Bydd plant wrth eu bodd ar lety sy'n gysylltiedig a fferm.

Mae yna ddewis da o eiddo lle mae digon o le i ddod a sawl cenhedlaeth o'r teulu neu grwp o ffrindiau at ei gilydd .

Beth am aros mewn rhywle unigryw  fel cwt bugail, fan dyn sioe  - mae dewis o letyau amgen a diddorol hefyd.

Wrth ddewis eich llety gwyliau, chwiliwch am farc ansawdd Cymru/Wales o gynllun asesu ansawdd cenedlaethol swyddogol Cymru, yna gallwch fod yn hyderus ei fod wedi cael ei wirio cyn i chi gofrestru.