Eich iechyd ar eich gwyliau yng Nheredigion

Mae Ceredigion a'i ardaloedd cyfagos yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaethau iechyd yn dal i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnoch chi, ond mewn gwahanol ffyrdd i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel. Helpwch eich hun, a'r GIG, a defnyddiwch y gwasanaeth cywir.

Trwy ddewis yn dda bydd pobl yn treulio llai o amser yn aros i gael eu gweld ac yn sicrhau bod yr adran achosion brys ar gael i'r rhai sydd ei hangen ar frys. Helpwch i gadw Ceredigion yn ddiogel