Lleisiau Eraill: Aberteifi Nol 2027

Gŵyl ABERTEIFI LIVE wedi’i Chyhoeddi ar gyfer 2026 Tra bod Lleisiau Eraill Aberteifi yn Cymryd Blwyddyn o Seibiant.

· Bydd Gŵyl Aberteifi Live yn cael ei chynnal 30 a 31 Hydref

· Y Don Gyntaf o artistiaid i’w cyhoeddi ym mis Mehefin

· Dros 40 o berfformiadau o gwmpas Aberteifi

· Nifer cyfyngedig o docynnau cynnar am bris arbennig ar werth nawr


 

Gŵyl ABERTEIFI LIVE 2026

Bydd gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cymryd blwyddyn o seibiant yn 2026.

Mae Gŵyl ABERTEIFI LIVE 2026 wedi'i threfnu ar gyfer Hydref 30ain a 31ain, digwyddiad arbennig i sicrhau bod y gerddoriaeth a'r hud yn parhau nes y gall Lleisiau Eraill ddychwelyd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys 40+ o berfformiadau gan dalent newydd ac artistiaid poblogaidd o wyliau Lleisiau Eraill yn y gorffennol.

Cynhelir y digwyddiad deuddydd mewn pum lleoliad hyfryd ar draws y dref, gan gynnwys Mwldan, Theatr Byd Bach, Bethania, GRAIN, a'r Selar, gyda sesiynau hwyr y nos gan gynnwys setiau byw a DJs yn Mwldan hyd oriau mân y bore.

Mwldan Festival

 

Y Llwybr Cerdd - Nol 2027

Mae’r Llwybr Cerdd yn ymestyn ar draws tref Aberteifi gyda dros 80 o setiau byw yn cael eu perfformio gan rai o dalentau newydd disgleiriaf Cymru ac Iwerddon.

Cyflwynir cerddoriaeth o bob math, gan gynnwys popeth o hip-hop, grime ac electronica i ôl-bync, traddodiadol a gwerin a phopeth yn y canol yn Lleisiau Eraill Aberteifi eleni.

Bydd band garddwn penwythnos Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi mynediad i bob sioe ar y Llwybr Cerdd drwy'r penwythnos, ar sail y cyntaf i'r felin!

Rhoddir nifer cyfyngedig o 'docynnau aur' ar gyfer sesiynau arbennig yn Eglwys y Santes Fair lle mae perfformiadau'n cael eu recordio ar gyfer y teledu a ffrydiau Other Voices rhyngwladol. Ni ellir prynu'r tocynnau hyn ond bydd prynu band garddwn y Llwybr Cerdd yn eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl i ennill tocyn awr.

Clebran - sgyrsiau eangfrydig a diddorol - Nol 2027

Mae’r sesiynau Clebran yn ystod Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cyfuno syniadau,  straeon, trafodaeth a pherfformiad. Daw siaradwyr, meddylwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid o Gymru ac Iwerddon ynghyd i ystyried pynciau a materion trwy drafod cymuned, cyfunoliaeth, traddodiadau a defod. 

Mae thema digwyddiad eleni, Ar y Groesffordd, Where Spirits Gather, yn cychwyn gyda seremoni dderwyddol yn nodi Nos Calan Gaeaf/Samhain. Mae’r rhaglen eangfrydig yn cynnwys trafodaethau am weithrediadau pêl-droed y tu hwnt i’r cae, hanes ffermio ac arwyddocâd gwreiddiau mewn byd sy’n newid yn barhaus, ac amlygrwydd hyrwyddo cerddoriaeth ddu yng Nghymru ac Iwerddon.