Gwyliau cerdd, theatr a pherfformiadau byw


Lleisiau Eraill Aberteifi / Other Voices 

Mae gwyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhan o deulu o wyliau  rhyngwladol. Dyma gyfle, dros ddeuddydd ddiwedd yr hydref i glywed a gweld perfformwyr newydd yn ogystal â pherfformiadau gan ser rhyngwladol.  Bydd cerddorion yn perfformio setiau byw mewn amrywiaeth o leoliadau diddorol ar y Llwybr Cerdd o amgylch y dref, o fariau seler i’r castell, orielau a chaffis. Prynwch un tocyn ar gyfer y penwythnos, sy’n cael ei gyfnewid am fand garddwn sy’n rhoi mynediad i chi i dros 80 o ddigwyddiadau ar y Llwybr Cerdd, cyfle i ennill ‘tocyn aur’ chwenychedig ar gyfer perfformiadau yn eglwys y Santes Fair a chystadleuaeth i raffl am wobrau gan fusnesau lleol. Mae'r digwyddiad yn cael ei ffilmio i'w ddarlledu yn ddiweddarach ar S4C ac RTÉ, ond does dim byd tebyg i fod yn Aberteifi ar gyfer y penwythnos o berfformiadau byw ac i fwynhau'r awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.

I gyd-fynd â’r gerddoriaeth mae Clebran, sef cyfres o sgyrsiau  rhwng artistiaid, awduron, haneswyr, ieithyddion a cherddorion sy'n trafod syniadau gyda meddylwyr a llunwyr polisi am heriau a chyfleoedd cyfoes, y berthynas rhwng lleol a byd-eang, y cyrion a’r canol, y gymuned a'r gymdeithas ehangach, a sut y gall mudiadau bach achosi newid sylweddol.

Mae band garddwn y Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad  i holl drafodaethau Clebran hefyd.

Bydd eich tocyn yn rhoi  cyfle i chi ennill mynediad i Eglwys y Santes Fair ar gyfer perfformiadau sy'n cael eu recordio ar gyfer eu darlledu'n rhyngwladol gan Other Voices. 

Cerddoriaeth Glasurol yn Aberystwyth: Gregynog a Musicfest

Gŵyl Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru. Y prif leoliad yw Neuadd Gregynog ym Mhowys, cartref y chwiorydd Davies a fu’n noddwyr mawr i’r celfyddydau. Roedd ganddynt  gysylltiad cryf ag Aberystwyth hefyd - mae casgliadau celf Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys deunydd a gasglwyd gan y chwiorydd. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o’r lleoliadau ar gyfer cyngherddau yn ystod yr ŵyl.

Mae Musicfest Aberystwyth yn gyfuniad o ysgol haf ryngwladol a chyfres o gyngherddau a digwyddiadau cerddorol o gwmpas y dref gan gyfranogwyr yr ysgol haf - myfyrwyr, tiwtoriaid a cherddorion proffesiynol ac artistiaid o bedwar ban byd.  Cyfarwyddwr artistig yr ŵyl yw’r delynores ryngwladol Catrin Finch a fagwyd yn lleol yn Llanon.

Clasuron pop a roc yn y Cei Newydd ac Aberystwyth

Sefydlwyd Gŵyl Gerdd Cei Newydd ym 1998 ac mae ganddi ddilyniant ffyddlon ymhlith pobl leol ac ymwelwyr cyson â’r gyrchfan. Mae artistiaid roc a phop adnabyddus a thalent leol yn diddanu ym mhabell fawr yr ŵyl a lleoliadau llai o gwmpas y dref dros benwythnos cyntaf mis Awst.

Gyda tridiau o berfformiadau gan y gorau o artistiaid teyrnged yr DU  ar y prif lwyfan ac ail lwyfan yn llawn perfformwyr lleol gwych, mae gwyl The Big Tribute, a gynhelir yn Lovesgrove ar gyrion Aberystwyth yw un o uchafbwyntiau penwythnos Gŵyl y Banc diwedd mis Awst. Mae gan yr ŵyl, sy'n gyfeillgar i deuluoedd, barth 'rocars bach' gyda gemau a chestyll gwynt. Ar gyfer oedolion, mae gŵyl gwrw a seidr yn ogystal â stondinau masnachwyr lleol a dewis blasus o fwyd.

Anthemau ac archifau cerddorol Aberystwyth

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, gyda miloedd o dapiau, recordiau a chryno ddisgiau cerddoriaeth Gymraeg draddodiadol a chyfoes. Mae gan yr Archif recordiadau prin o gerddoriaeth Gymraeg a ddarlledwyd, offernynau a sgorau cerddorol, caneuon gwerin a gasglwyd ac a ddehonglwyd gan wahanol gymdeithasau ac unigolion fel yr amryddawn Dr Meredydd Evans, fu'n byw yng Nghwmystwyth.

Cynhelir perfformiadau cerddoriaeth fyw yn y Drwm, theatr fechan gyfforddus yng nghanol y Llyfrgell.

Mae gan Ganolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth sawl gofod perfformio, gan gynnwys theatr, sinema, gofodau stiwdio a'r Neuadd Fawr sy'n neuadd gyngerdd 960 sedd. Mae’n cynnal cyngherddau a pherfformiadau gan artistiaid adnabyddus yn ogystal â chystadlaethau cenedlaethol  fel Côr Cymru, Band Cymru a Gwobrau'r Seler.

Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i Amgueddfa Ceredigion, mewn adeilad hardd Edwardaidd oedd unwaith yn theatr a sinema. Cynhelir yma raglen eclectig o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Mae Theatr Arad Goch yn gymydog i'r Amgueddfa.  Dyma ganolfan berfformio a chartref cwmni Arad Goch sy'n arbenigo mewn cynhyrchu perfformiadau ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Ar y promenâd cyfagos, mae bandstand Aberystwyth lle cynhelir rhaglen o berfformiadau cerddorol a digwyddiadau amrywiol yn arbennig yn ystod tymor yr haf.

Aberteifi artistig

Mae Castell Aberteifi yn lleoliad anarferol a hardd lle cynhelir cyfres o gyngherddau a digwyddiadau gan gynnwys cyngherddau pop, roc, gwerin a chlasurol. 

Mae'r castell yn rhan o glwstwr o leoliadau ger glan yr afon Teifi. Mae Pizza Tipi yn lleoliad haf sy'n cynnal digwyddiadau cerddoriaeth, ac yn ffrydio gŵyl Glastonbury yn fyw. Ar y gornel gyferbyn â’r castell mae’r Cellar Bar, lle cynhelir cyngherddau a digwyddiadau meic agored, yn ogystal â sesiynau barddoniaeth a theatr.

Mae clwstwr arall o lefydd perfformio ym mhen arall tref Aberteifi – mae Theatr Mwldan yn cynnal arddangosfeydd, perfformiadau theatr ac mae yma dair sgrin sinema yma hefyd lle gallwch fwynhau ffrydio byw o opera, theatr a bale o leoliadau gorau'r byd.

Mae Theatr Mwldan yn arbenigo mewn cerddoriaeth werin, ac yn cynrychioli ac yn trefnu teithiau perfformio nifer o artistiadiaid. Theatr Mwldan yw un o brif leoliadau Lleisiau Eraill a Gwyl Fawr Aberteifi, a maent hefyd yn trefnu rhaglen haf Castell Aberteifi. 

Drws nesaf mae Theatr Byd Bychan, sy'n cynnal rhaglen eclectig o weithgareddau gan gynnwys perfformiadau byw o gerddoriaeth a theatr.

Lleoliadau eraill

Gan ei bod yn dref farchnad a phrifysgol a chymuned fywiog greadigol, mae gan Lambed sîn gerddoriaeth eangfrydig, gyda pherfformiadau gwerin, roc a phop yn cael eu trefnu yn Neuadd Fictoria yn y dref. Gallwch hefyd fwynhau cyngherddau clasurol yn Adeilad Celfyddydau Cliff Tucker a cherddoriaeth grefyddol, yn enwedig adeg y Nadolig, yn y capel hardd ym mhrif adeilad Dewi Sant campws  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae Theatr Felinfach  rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron wedi bod yn cynhyrchu theatr Gymraeg wreiddiol ers dros 50 mlynedd gyda perfformwyr cymunedol a phroffesiynol. Mae'r theatr hefyd yn cynnal cyngherddau ac yn croesawu perfformiadau teithiol.

Gwiriwch yn lleol am sioeau haf neu bantomeim yn Neuaddau Coffa Aberaeron neu Gei Newydd, neu ddigwyddiadau arbennig yn y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid. Mae’r celfyddydau’n fyw ac yn iach yn Llandysul hefyd gyda’r Pwerdy ar lan yr afon Teifi yn lleoliad i fwynhau celf a cherddoriaeth.

Corau, cerddorfeydd a bandiau Ceredigion

Un o draddodiadau cyfoethog Cymru yw canu corawl ac mae gan Geredigion bron i ddeg ar hugain o gorau o wahanol feintiau ac arddulliau yn perfformio ar gyfer cynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn ogystal â chael eich diddanu mewn cyngherddau lleol, mae modd ymweld â nifer o’r corau pan manet yn ymarfer.

Ffurfiwyd Côr Meibion Aberystwyth am y tro cyntaf fel 'Gleemen' Swyddfa’r Post. Aeth Côr Meibion Aberystwyth ymlaen i lwyddiant yng nghystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’n cynnal teithiau cyngerdd rheolaidd yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a Canada yn ogystal â’r DU. Mae'r côr yn ymarfer bob nos Iau yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth.

Mae Côr Meibion Cwmann, côr meibion ardal Llambed, yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed yn 2024. Mae’r côr yn denu aelodau o’r ardal gyfagos ac yn cynnal cyngherddau ar gyfer elusennau lleol amrywiol. Mae Cor Meibion Caron hefyd yn gôr meibion traddodiadol, ac yn cyfarfod yn festri capel Bwlchgwynt yn Nhregaron.

Mae yna nifer o bartïon canu llai sy’n canu ac yn diddanu mewn lleoliadau lleol, gan gynnwys Meibion y Mynydd sy’n ymarfer yn neuadd bentref Ponterwyd.

Côr cymysg yw Cor Teifi sy’n ymarfer yng Nghapel Mair yn Aberteifi. Maent yn cynnal cyngherddau lleol rheolaidd gan gynnwys yn Rhosygilwen, lleoliad cyngherddau hardd ychydig filltiroedd y tu allan i Aberteifi.

Efallai y byddwch chi'n adnabod Sgarmes o'u hymddangosiad ar y teledu yn y gyfres 'Pitch Battle'. Maen nhw'n cynnal cyngherddau a rhaglen Nadolig flynyddol boblogaidd yng Nghanolfan  Celfyddydau Aberystwyth. Cadwch lygad allan am gyngherddau corau eraill Aberystwyth fel Côr ABC sy'n cynnal cyngerdd Nadolig blynyddol yn Eglwys Sant Padarn yn Llanbadarn a Chôr Ger y Lli.