
Pwmpenni, swynau ac ysbrydion Calan Gaeaf
Mae nifer o draddodiadau sy'n nodi diwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf – rhai ohonynt yn ymestyn nôl i’r cyfnod cyn-Gristnogol a’r Celtaidd, sef gwyl Samhain, sydd yn cael 'atgyfodiad' unwaith eto. Y gred oedd mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddai’r llen anweledig rhwng ein byd ni a byd yr ysbrydion yn teneuo i alluogi'r ysbrydion i gymysgu â bodau dynol.
Yng Nghymru, Tachwedd 1af oedd diwrnod cyntaf y gaeaf a'r noson gynt yn cael ei adnabod fel Calan Gaeaf, Noswyl Gaeaf neu Ysbrydnos - pan ddeuai ysbrydion allan i ymweld.
Mae Calan Gaeaf yn disgyn yn ystod hanner tymor yr ysgol, felly mae llawer o weithgareddau ar gael i ddiddanu'r plant a chyfle gwych i wisgo i fyny a chael tipyn o hwyl.
Yn gyntaf... dewiswch eich pwmpen! Mae yna gaeau pwmpenni lle gallwch chi gasglu eich pwmpen eich hun i'w cherfio gartref neu ymuno â gweithgareddau cerfio pwmpenni, gemau neu grefftau creadigol eraill ledled Ceredigion.

Gweithgareddau creadigol Calan Gaeaf i blant
Oeddech chi'n gwybod bod wythnos hanner tymor yn cael ei adnabod fel wythnos casglu tatws yng Ngheredigion?
Camwch yn ôl mewn amser wrth iddyn nhw edrych ar Wythnos Casglu Tatws ym Mharc Fantasy Farm – Crefftau Calan Gaeaf gyda Peggy ym Mharc Fantasy Farm yn ystod hanner tymor yr hydref. Bydd Mr Jon Jon, y diddanwr plant poblogaidd hefyd ym Mharc Fantasy Farm - gwahoddir pawb i wisgo i fyny i ddathlu Calan Gaeaf gydag ef.
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystywth lawer ar waith dros wythnos hanner tymor, gan gynnwys celf tir a gweithdai argraffu sgrin Calan Gaeaf, sinema a theatr, a gig cerddoriaeth fyw Calan Gaeaf sy'n addas i'r teulu.
Darganfyddwch hud yr hydref yn RSPB Ynyshir Mae'n ymwneud â chael hwyl ym myd natur gyda gweithgareddau i archwilio a darganfod bywyd gwyllt yn RSPB Ynys-hir.
Mae gan Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru Corsydd Teifi sesiynau crefftio, helfa sborion, paentio wynebau a darganfod bywyd gwyllt yn ystod wythnos hanner tymor yr hydref.
Camwch i fyd o hud, dirgelwch a hwyl frawychus y Calan Gaeaf! hwn yn Llanerchaeron. Dewch yn brentis apothecari a dilynwch ein llwybr hudolus o amgylch Llanerchaeron, gan gasglu cynhwysion i greu eich swynion amddiffynnol eich hun. Cwrdd â'r storïwr Peter Stevenson am straeon am Calan Gaeaf, yna, wrth i'r tywyllwch ddisgyn, herio ein llwybrau brawychus ar ôl tywyllwch (rhaid archebu lle ar gyfer y rhain). Gyda digon o hwyl i'r teulu ar hyd y ffordd, dyma'r antur hydref berffaith - a'ch cyfle olaf i archwilio'r tŷ cyn i'n penwythnosau Nadolig Nadoligaidd ddechrau.

Teithiau tywys yn y tywyllwch a straeon Calan Gaeaf
A allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau - pa stori arswyd sy'n anghredadwy? Bydd yr arbenigwraig ar fosaigiau Aberystwyth, Alison Pierse yn yn eich arwain ar daith gerdded i'ch trochi yn hanesion tref Aberystwyth. Mae rhai o'r straeon yn wir a rhai ohonynt yn gellwair coeglyd - ond pa rai?
Bydd yr arbenigwraig Delyth Badder yn Aberystwyth, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn siop lyfrau Waterstones yn cyflwyno a thrafod straeon a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru dros y canrifoedd
Anifeiliaid annwyl neu arswydus?

Mae nifer o ddigwyddiadau eraill i'r teulu ar y warchodfa dros wyliau Hanner Tymor gan gynnwys gwylio adar, archwilio pyllau, crefftau a thaith dywys arbennig ar gyfer Calan Gaeaf ar Hydref 31ain gyda gemau a siocled poeth o gwmpas y tân.
Allwch chi daclo sialens natur Calan Gaeaf gwarchodfa Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a helpu i warchod natur rhag peryglon ynfyd?

Mae golygfa anhygoel i'w gweld gyda'r cyfnos yn Aberystwyth yn ysgod yr hydref a'r gaeaf. Dyma pryd daw'r drudwy i glwydo dan y Pier ar ol bod yn hedfan yr awyr mewn patrymau chwyrliog. Allan nhw eich hudo chi gyda'u patrymau cyfareddol?
Beth am ymweld a Phontarfynach i brofi awyrgylch y ceunant a gweld y bont drosto roddodd sail i'r chwedl enwog.

Gwyl ffilmiau arswyd Abertoir
Gŵyl ffilmiau sy'n arbenigo mewn ffilmiau arswyd o bob math yw Abertoir, fydd yn cael i gynnal nesa yn Hydfref 2027.
Fe'i cynhelir yn flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn ogystal â dangos ffilmiau arswyd newydd sydd â chyllideb fawr, mae ffilmiau clasurol ac annibynnol yn rhan fawr a phwysig o arlwy’r ŵyl. Yn ogystal â dangosiadau ffilm, mae’r ŵyl yn cynnwys cyngherddau, sioeau theatr a dosbarthiadau meistr ar bynciau amrywiol yn ei rhaglen. Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth ffilm fer, sy'n arddangos ffilmiau byrion arswyd a ffantasi o bedwar ban byd.

Arddangosfeydd tân gwyllt
Mae cynnau coelcerthi yn draddodiad Calan Gaeaf hynafol iawn. ac ers canrifoedd yn gysylltiedig â choffáu Cynllwyn Guto Ffowc.
Trefnir arddangosfeydd tân gwyllt yng Ngheredigion gan sefydliadau elusennol a chymunedol i godi arian at achosion da lleol.



