Mae Ceredigion yn paratoi ar gyfer y Nadolig o ganol Tachwedd pan mae busnesion a chymunedau'n addurno a gosod goleuadau i ddod a lliw a llawenydd i'r stydoedd. ME ffeiriau a marchandoedd Nadolig yn cael eu cynnal mewn neuaddau bach a mawr ar draws y sir, lle mae stondinau yn llawn danteithion, planhigion a chreftau lliwgar wedi eu paratoi gan ddwylo celfydd cynhyrchwyr lleol.
Ffabl - dathliad o chwedlau Cymru mewn golau hudol
Ffabl yw gwyl golau newydd sy'n cael ei chynnal yng Nghastell Aberteifi. Crwydrwch o gwmpas i darganfod a mwynhau creaduriad a chymeriadau o'r Mabinogi. Rhaid archebu amser i ymweld o flaen llaw.
Cyfarfod Siôn Corn
Bydd Siôn Corn yn ymweld â threfi, siopau a sawl lleoliad lleoliad arall yng Ngheredigion cyn y Nadolig i gwrdd â phlant Ceredigion.
Gallwch ddal y tren ar Reilffordd Dyffryn Teifi i weld Sion Corn - mae'n ymweld bob penwythnos tan y Nadolig, neu bwciwch amser i weld gweithdy'r tylwyth teg ac ogof Sion Corn yn atyniad Silver Mountain Experience yn Llywernog. Mae gweithgareddau di ri i'ch diddanu yno.
Bydd yn treulio sawl diwrnod yn atyniad Silver Mountain Experience, Llywernog lle gallwch archwilio'r Gweithdy Coblynnod, a chwrdd â Siôn Corn yn ei Groto!
Fe wyddom mai mewn car llusg mae Siôn Corn yn arfer teithio ond gallwch chi deithio ar y tren gyda Rheilffordd Dyffryn Teifi i gyrraedd Groto Siôn Corn yn nyffryn Teifi. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw, gan fod y gweithdy a Groto Siôn Corn yn lefydd prysur iawn.
Perfformiadau clasurol y Nadolig a hwyl a sbri pantomeim
Ni fydddai'n Nadolig heb ymweliad â'r theatr. Darlledir rhai o berfformiadau theatrig a cherddorol gorau'r byd yn fyw i Theatr Mwldan a Chanolfan Celfyddydau Aberystywth gan gynnwys balé ac opera o Dŷ Opera Brenhinol Llundain a'r Met yn Efrog Newydd. Mae cwmni actorion o' gymuned Theatr Felinfach wedi bod yn perfformio pantomeim gwreiddiol bron bob blwyddyn ers dros hanner can mlynedd. Mae hwyl a sbri go iawn wrth i giamocs pantomeim ddiddanu tra'n tynnu sylw at straeon a helyntion lleol. Daw pantomeim teithiol i Neuadd Buddug Llambed ac i gloi'r tymor mae cwmni'r Wardens yn cyflwyno pythefnos o berfformiadau llawn hwyl a chaneuon yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystytwyth ym mis Ionawr.
Carolau a cherddoriaeth Nadolig
Cewch ddetholiad o bob math o gerddoriaeth yn rhaglen cerddoriaeth Nadolig Ceredigion - opera, madrigalau, pop, jazz, roc a rol yn ogystal â charolau a pherfformiadau o gerddoriaeth glasurol traddodiadol y Nadolig.
Ym Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth cynhelir cyngerdd gaeaf cwmni Opera Aber ac mae cerddorion a diddanwyr poblogaidd lleol fel yr Hornettes yn cynnig gwledd o gerddoriaeth, hwyl a sbri trwy fis Rhagfyr.
Yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth cynhelir cyngerdd gan Philomusica, cerddorfa sinffoni Aberystwyth, a chôr Madrigal y Brifysgol a Cymdeithas Gorawl Aberystwyth yn cyflwyno oratorio Nadolig JS Bach gyda cherddorfa Sinfonia Cambrensis.
Mae pawb yn cael gwahoddiad i ymuno yn y canu hwyliog yng nghyngerdd blynyddol y côr cymysg poblogaidd o Aberystwyth, Sgarmes i godi arian ar gyfer elusennau lleol.
Mae croeso i bawb ymuno yng ngwasanaethau Nadolig eglwysi a chapeli Ceredigion. Un o'r lleoliadau mwyaf deniadol i brofi gwasanaeth yng ngolau canwyll ar noswyl Nadolig yw Eglwys y Grog, Mwnt. Mae eglwysi urddasol Y Santes Fair, Aberteifi, a Padarn Sant, Llanbadarn Fawr yn leoliadau hanesyddol a chroesawgar ac mae eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth yn dechrau Rhagfyr gyda 'trywydd y stabl', sy'n cynnwys cyfle i'r plant gael eu cario gan asyn. Dilynir hyn bob Sul tan y Nadolig gan wasanaethau carolau.
Does dim rhaglen a does neb yn arwain gwasanaeth Plygain, gan fod unawdwyr, grwpiau a hyd yn oed ambell i gor yn cymeryd eu tro i ganu carolau traddodiadol. Mae'r canu i gyd yn ddi-gyfeiliant ac ni chaiff yr un ei ail adrodd. Mae'r traddodiad unigryw yma yn fyw ac iach yng eglwys Ioan Fedyddiwr, Penrhyncoch, ger Aberystwyth, ac yn brofiad bythgofiadwy.
Ffeiriau a marchnadoedd Nadolig
Dewch ar draws ffeiriau Nadolig bron ym mhob neuadd bentref rhywbryd rhwng canol Tachwedd a'r Nadolig.
Cynhelir Marchnad Nadolig gyda stondinau di-ri ym Mhafiliwn Cymru ym Mhontrhydfendigaid lle mae crefftwyr a chogyddion lleol yn arddangos eu cynnyrch. Mae'n le da am anrheg wahanol a deniadol. Cynhelir ffair Nadolig ar gampws Prifysgol Cymru Dewi Sant yn Llambed gyda stondinau bwyd a chrefftau a cherddoriaeth i'ch diddanu.
Llanerchaeron yw lleoliad hyfryd ffair Nadolig dros benwythnos cyntaf mis Rhagfyr. Bydd y stondinau yno'n llawn anrhegion, bwyd ac addurniadau Nadolig deniadol.
Castell Aberteifi yw lleoliad hudolus Ffair Nadolig y dref, gyda dros 40 o stondinau i'w darganfod yn y pafilwn a thŷ'r castell. Cofiwch fynd i weld Sion Corn gyda'r plant, neu fwynhau disgled a win Nadolig twym.
Bydd siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agor yn hwr ar noson y Ffair Nadollig yno, a gerllaw yngn Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno dros 50 o stondinau yn llawn cynnyrch bwyd, crefftau ac anrhegion drwy gydol Rhagfyr. Mae'r arddangosfa ar agor bob dydd, ac yn hwyr yn ystod yr wythnos.
|Gwnewch yn siwr eich bod yn galw heibio Marchnad Ffermwyr Aberystwyth sydd yn cynnal ffair Nadolig arbennig ar ddau benwythnos cyn y Nadolig - bydd cynnyrch gorau'r ardal ar gael i chi baratoi gwledd Nadolig arbennig.
Siopau ar agor yn hwyrach a pharcio am ddim
Mae trefi Ceredigion yn byrlymu gyda masnach yn ei siopau annibynnol, ac mae'n bleser darganfod trysorau ar ac oddi ar y stryd fawr. Beth am ymuno yn Helfa Drysor nadolig Aberystwyth i gael eich arwain i siopau diddorol ar draws y dref.
Mae goleuo coeden Nadolig y dref a chynnau'r goleuadau fel arfer yn golygu bod siopau ar agor yn hwyrach na'r arfer, a marchnad neu ffair, parêd a cherddoriaeth yn llonni'r awyrgylch. Bydd prif stryd Llambed ar gau am noson ac mae sôn bod Siôn Corn wedi cael gwahoddiad i alw heibio hefyd.
Er bod angen car llusg go fawr ar Siôn Corn i gludo'r holl anrhegion fydd yn ei dosbarthu dros y Nadolig does dim angen iddo boeni am barcio tra bo'n siopa yng ngheredigoin gan fod meysydd pario'r Cyngor yn rhad ac am ddim ar y tri Sadwrn cyn y Nadolig.
Coed a chreu arddurniadau Nadolig
Caru arogl coeden Nadolig go iawn?
Gallwch archebu addurniadau naturiol a choeden Nadolig wedi ei thyfu ym Mynyddoedd Cambrian Ceredigion neu lethrau dyffryn y Teifi yn uniongyrchol gan y tyfwyr eu hunain. Mae dewis o fath a maint o goed.
Deunyddiau naturiol a chynaladwy sy'n cael eu defnyddio i greu torchau ac addurniadau Nadolig mewn gweithdai gyda Make it in Wales yn Studio 3 yn Aberteifi ac yn Llanerchaeron, ac yng nghanolfan arddio Newman's ger Aberystwyth.