Hwyl i'r teulu cyfan dros y Pasg yng Ngheredigion

Daw'r Pasg â bywyd newydd i Geredigion fel bo atyniadau’n ailagor ar ol y gaeaf.  Mae gweithgareddau di - ri i ddiddanu'r teulu cyfan wedi eu trefnu.  Yn ogystal a gweithgareddau antur awyr agored, mae tripiau tren a chwch yn ailddechrau.  Mae helfaon trysor, antur siocled, a digon o weithgareddau dan do.


Darganfod natur ar helfa wyau Pasg

Daw'r Pasg a phob math o antur, a ble well i fwynhau'r awyr agored gyda'r teulu na gerddi a fferm ystad Llanerchaeron wrth ddilyn trywydd antur natur y Pasg. Cewch ryddid i ddarganfod y fferm a'r gerddi gwanwynol wrth ddilyn y trywydd gweithgareddau. 

Mae gan Gastell Aberteifi helfa Wyau Pasg yn ogystal â gweithgareddau eraill gan gynnwys sesiwn ‘hau hedyn’  yn yr ardd i aelodau iau’r teulu.

Gwarchodfa nature 40 erw yw Denmark Farm sy'n cynnig cyrsiau a gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan natur i oedolion a phlant.  Dros y Pasg  mae crefftau'r goedwig a helfa drysor wedi eu hysbrydoli gan ddarlleniad o lyfr a chyfle i gael hwyl wrth ddysgu am fyd natur.

Yng nghoedlan Fferm Fêl Cei Newydd/ New Quay Honey Farm mae sesiynau gwyllt grefftio (bushcraft) dwy awr o hyd  ar gael gyda Knight-Fox Wild about Learning.

Erbyn y Pasg mae tripiau cychod gweld bywyd gwyllt yn ail ddechrau o'r Cei Newydd.  Dyma brofiad ardderchog sy'n gyfle i gael cip ar dolffiniaid, morloi ac adar glannau Bae Ceredigion.  

Cynhelir arolygon i gofnodi dolffiniaid gan Ganolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion/ Cardigan Bay Marine Wildlife Centre  a gall plant gymryd rhan, yng nghwmni oedolyn, trwy fod yn Dditectif Dolffiniaid.  Mae'r ganolfan yn trefnu sesiynau glanhau'r traeth hefytd ac mae croeso i bawb ymuno i helpu.  

Cynhelir sesiynau ar gyfer plant yn rheolaidd yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru Cors Teifi / Welsh Wildlife Centre Teifi Marshes. Dros y Pasg ceir saffari trychfilod, tro gyda ymlusgiaid a throchi pyllau am fywyd gwyllt  yn ogystal a sesiynau crefftio wedi eu hysbrydoli gan natur.

Trefnir Diwrnod Hwyl gan Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth  sy'n cynnwys castell gwynt ac amrywiaeth o weithgareddau celf.  

Beth am dreulio amser liw nos yn gwylio'r sêr?  Mae planedau diddorol i'w gweld gyda'r machlud a'r wawr ac mae diwedd mis Mawrth yn amser da i aros i weld sêr gwib.

 

Cyfarfod cymeriadau'r Pasg

Gall plant gyfarfod â chymeriadau hoffus, derbyn wy Pasg a chael tynnu eu llun gyda Gwningen y Pasg  yn EGGstravaganza Cae Hir Gardens or ddydd Llun y Pasg.  Mae 'r ymweliad yn cynnwys helfa o gwmpas y gerddi hyfryd i ddarganfod amrywiaeth o eitemau hwyl a phethau sy'n gysylltiedig a straeon Pasg, o wyau i gwningod. 

Fe ddaw'r cymeriad hoffus o straeon Beatrix Potter, Jemima Pudleduck i ymuno â Knight -Fox Wild About Learning yn Fferm Fel Cei Newydd / New Quay Honey Farm i gyfarch y plant ieuengaf ( hyd at 5 oed, ond gall plant hyn ymuno hefyd wrth gwrs)  Mae hi angen help i ffeindio ei hwyau!  Rhaid bwcio o flaen llaw. 

Dewch am dro i atyniad Silver Mountain Experience i ymuno â Mr Balcome, y 'rheolwr' sydd am fentro ar fasnach siocled newydd. Bydd yn eich tywys o gwmpas y safle i'w helpu gyda'r sialens o wneud siocled ... mmmmm.

Bydd sialens siocled ar gyfer y plant (heb anghofio eu rhieni hefyd wrth gwrs) sydd yn rhoi cyfle iddynt helpu Mr Balcome i greu baryn siocled newydd sbon ar gyfer ei siop felysion.  Rhaid darganfod y Tocynnau Arian  i gwbwlhau'r sialens.  Mae sôn bod ffynnon siocled yno yn rhywle hefyd!

Ynghyd a'r gweithgareddau ar gyfer y Pasg, cynhelir teithiau tywys o gwmpas y safle. Neilltuwch le trwy'r wefan. 

Bydd y diddanwr plant poblogaidd, Mr Jon Jon yn dod i weld y plant yn y Moody Calf Playbarn ar fferm Bargeod ger Aberaeron ar ddydd Gwener y Groglith ac yn ymweld â Fferm Ffantasi Llanrhystyd ar ddydd Llun y Pasg.   Mae aparis mynedid Fferm Ffantasi yn cynnwys  mynedid i 'r parc fferm i weld  wyn bach ac anifeiliadi anwes yn y sgubor, y sgubor chware, cychod pedalo, golff gwallgo a tripiau gyda tractor a threlyr o gwmpas y safle. Gwelwch y wefan am fanylion. 

 

Hwyl dan do

Gallwch ddianc rhag y glaw mewn atyniadau dan do, ond a allwch chi ddatrys dirgelwch y perlau coll yn yr ystafell ddianc yng Nghastell Aberteifi. Mae pedwar slot y gellir eu harchebu bob dydd ar gyfer grwpiau o rhwng 2 a 6 chwaraewr.

Mae dwy her ystafell ddianc yn Ultimate Escape at the Silver Mountain Experience - Heist Diemwnt a dirgelwch Jack the Ripper.

Ar gyfer y Pasg, mae Canolfan Llês Llambed yn trefnu rhaglen o weithgareddau dyddiol gan gynnwys drysfa Nerf, castell gwynt, ardal chwarae morladron, ardal chwarae llanast a helfa drysor. treasure hunt. Gwiriwch beth sydd ymlaen pryd a pha weithgareddau sydd angen eu bwcio o flaen llaw. 

The Loft yw canolfan diddanwch ar gyfer pob oed yn Aberteifi. Yno, dan do, cewch gwrs golff gwallgo, wal ddringo, cyrlio, stafell sialens diganfa ( escape room) acamrywiaeth o gemau rhyngweithiol Obie.  Mae llecyn chware i blant bach dan 5 oed hefyd.  Gwiriwch amseroedd agor ar eu gwefan. 

Sguboriau chware

The Moody Calf Playbarn yw lle chware plant bach canolfan fferm Bargoed, lle mae ardaloedd chwarae tu fewn a thu allan.  Gellir bwcio sesiynau rhwng 9.30 y bore a 6 yr hwyr bob dydd. 

I blant hyn (awgrymir rhwng 6 ac 11 oed) mae Ysgubor Events yng nghanolfan y Moody Cow ar fferm Bargoed  wedi trefnu gyda Air Assault UK i ddarparu sesiwn Nerf Gun ynghyd â Helfa Wyau Pasg.  Bwciwch ar lein ar gyfer slot awr rhwng 4.30 a 6 y prynhawn. 

Busnes teuluol yw Caffi a Sgubor Chware Felinwynt Café and Playbarn  sy'n cynnig ardal chwarae meddal ar gyfer plant hyd at 10 mlwydd oed. 

Ar gopa Craig Glais ( Constitution Hill) Aberystwyth, r mae ardal chwaraeon dan do  syn cynnwys byrddau pŵl, hoci awyr a bowlio deg.  Tu fas mae cwrs golff gwallgo, ac os oes heulwen braf, gallwch fwynhau golygfa ryfeddol o Aberystwyth a'r cyffiniau yn y Camera Obscura. 

Antur ar y dŵr, ac efallai ynddo a danddo!

Gweithgaredd poblogaidd a gynigir gan Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Ceredigion/ Cardigan Bay Watersports Centre, yn y Cei Newydd yw'r Kids’ Splash. Dyma ddwy awr o hwyl ar y dŵr mewn gyda gwahanol fathau o offer, a chyfle i ddysgu sgiliau hanfodol trwy chware.   mae'r Kids’ Splash yn boblogaidd tu hwnt felly trefnwch le o flaen llaw. Bwcio ar lein yn unig.  

Mae Canolfan Gweithgareddau Llain Activity Centre, sydd rhwng Aberaeron a'r Cei Newydd yn cynnig diwrnodau antur dros wyliau'r Pasg.  Gall gweithgareddau'r Dyddiau Antur gynnwys cymysgedd o caiacio, padlfyrddio, dringo, cwrs rhaffau uchel a'r ras trwy'r mwd mae'r ganolfan yn enwog amdani!  Gellir trefnu diwrnod ar gyfer grwpiau o 8 neu fwy a chael cyfle i gael gostyngiad pris. 

Mae llyn llyfn i flasu ac ymarfer sgiliau  ger yr afon Teifi yn Llandysul gan Llandysul Paddlers ac mae ar agor dros wyliau'r Pasg ar gyfer sesiynau blasu. 

Mae enw cwmni Adventure Beyond yn crybwyll beth sydd i'w gynnig, ac mae hynny'n gallu cynnwys teithio mewn tiwb trwy ddŵr afon, caiacio ar hyd yr arfordir neu taith canŵ ar y Teifi - mae dewis o weithgareddau.  


Pyllau nofio

Mae sesiynau nofio wedi eu neilltuo ar gyfer teuluoedd ar gael ym Mhwll Nofio Aberaeron  yn ogystal a sesiynau nofio dyddiol i'r cyhoedd, ar gael rhwng 10 y bore a 6.30 pm.

Ym Mhwll Nofio Llambed (Llanbedr Pont Steffan) mae rhaglen o amrywiol weithgareddau dŵr sy'n cynnwys caiacio a polo dŵr yn ogystal a sesiynau nofio teuluol. Gwiriwch y wefan am fanylion beth sydd ymlaen pryd dros y gwyliau a sut i fwcio. 

 

Beth am fynd am dro mewn cwch neu ar drên bach

Take a trip on the Vale of Rheidol Railway and get free entry into the new Vale of Rheidol Railway Museum. Exhibits from across the world will be put on display, including some on display for the very first time. They include rolling stock from the Railway’s own collection (saved by the late Peter Rampton), as well as engines on loan from other railways.

Bydd rheilffordd Dyffryn Teifi ar agor bod dydd dros y Pasg, (heblaw am ddyddiau Gwener) ar gyfer tripiau tren, rhwng 11.30 y bore a 3.30 y prynhawn.   Mae yno reilffordd fechan fach, ardaloedd chwarae, cwrs golff gwallgo a cwoits, a bydd cyfle i chware'r gêm enwau boblogaidd i ennill gwobr. Gwiriwch y manylion ar eu gwefan. 

 Theatr a sinema ar gyfer plant

Do you know how to rock out? Will you win the Grand Dance Contest or the Penguin Race? What noise does a Hedgehog make? And can you catch the floating sandwich? Kid Carpet produces simple, catchy songs and disruptively charming shows, creating superheroes out of everyday people and ordinary things. Aberystwyth Arts Centre welcomes the lively and interactive Kid Carpet Super Mega Rockin’ Rock Show this Easter.

 Mae theatr fyw ar gyfer plant ar gael yn Theatr Mwldan  – cyflwyniad People’s Theatre Company o There was an Old Lady who swallowed a fly.

Mae Mwldan a Chanolfan y Celfyddydau gyda sinema yn dangos ffilmiau i blant dros y Pasg. ac mae ffilmiau yn cael eu harddangos yn Sinema'r Commodore, Aberystwyth a Libanus 1877, Borth.