Sioeau Amaethyddol a Digwyddiadau Cefn Gwlad

I gael gwir flas o hwyl a hyfywedd cymdeithas cefn gwlad Ceredigion, 'does unman gwell na diwrnod i'r brenin yn y sioe!  Mae pob sioe a'i chymeriad unigrwy - a'i chymeriadau lliwgar a ffraeth! Ceffylau, gwartheg, defaid, geifr, dofednod a mwy. Gwin, teisennau, gosod blodau..  Tybed pwy fydd yn ennill eleni - allwch chi adnabod y pencampwyr?  


Sadwrn Barlys

Mae'r beirniadu'r bore yn drylwyr a phared y prynhawn yn lliwgar wrth i dref Aberteifi ddathlu'r hen draddodiad o'r ffair gyflogi Sadwrn Barlys. Heddiw mae'r ffocws ar feirch, ond mae'r pared yn cynnwys tractorau, hen geir a cherbydau o bob math. 

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fel arfer ym mis Awst, mae Cymdeithas y Cobiau a'r Merlod Cymreig yn dathlu'r creaduriaid gosgeiddig yma yn Aberaeron.  Nid yn unig cewch weld ceffylau o fridfeydd enwog yr ardal yn cael eu harddangos ar eu gorau, ond cewch eich diddanu gan sgiliau gyrrwyr cerbydau o bob math a champau cyfareddol gyda ceffylau o bob rhan o'r byd - i gyd yn y 'Cae Sgwar' yng nghanol tref Aberaeron.  

Faint mae'n gymeryd i gneifio dafad, dybiwch chi?

Mae pob fferm a'i diwrnod cneifio arferol, pan fydd y defaid yn cael eu casglu o'r mynydd ar gyfer cael eu cneifio.  Daw'r traddodiad hwn o pan oedd ffermwyr yn arfer rhannu'r baich o gasglu'r defaid o'r mynydd agored ac yn helpu gyda'r cneifio ym mhob ffern yn ei thro. Heddiw gallwch ddal i weld bugeiliaid a'u cŵn yn casglu a didoli defaid ar y llethrau, ond mae'r cneifio'n cymeryd llawer llai o amser, gyda criwiau o gontracatwyr profiadol a chyflym yn teithio rhwng y gwahanol ffermydd. 

Beth am fynd i weld cneifwyr dawnus yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – a’r cloc? Bydd llawer ohonyn nhw wedi treulio gaeaf hemisffer y gogledd yn cneifio defaid ar ffermydd Seland Newydd.

Yn ystod yr haf yn Llanerchaeron, gallwch weld defaid yn cael eu cneifio yn y dull traddodiadol gyda gweill; neu beth am ymuno â’r dorf yn y cystadlaethau cneifio blynyddol ar ffermydd ger Llambed a Phontrhydfendigaid, neu yn Sioe Tal-y-bont?

Cofiwch fynd â stopwatsh gyda chi - choeliwch chi fyth pa mor gyflym maen nhw!

Treialon cŵn defaid 

Mae gweld bugeiliaid yn gweithio gyda’u cŵn defaid yn olygfa sy'n werth ei gweld. Gallwch fynd i wylio treialon cŵn defaid ym mhob rhan o Geredigion, ym mis Awst yn bennaf.

Yn 2020 bu Ceredigion yn gartref i'r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol. Daeth pymtheg ci defaid a'u bugeuliaid o Gymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban i gaeau Tanycastell, Aberystwyth i gystadlu.  Y cŵn yw'r sêr, wrth gwrs, mewn partneriaeth ryfeddol gyda'u bugail yn arddangos eu deallusrwydd a'u gallu i ddidol yn dawel ac ysgafndroed with gystadlu i fod yn bencampwr y pencampwyr, gan eu bod eisioes yn bencampwyr yn eu gwlad eu hunain.  

mae nifer o gystadlaethau rhanbarthol a lleol yn cael eu cynnal, ran amlaf yn ystod mis Awst a medi, ar ôl y cynhaeaf. Mae sioeau amaethyddol gyda cystadlaethau cŵn hefyd

Fel dwedodd arbennigwr lleol:  "Dywedir mai cŵn defaid yw'r cwn doethaf yn y byd.  Nid ydynt yn cael eu difetha gan enwogrwydd eu gallu eu hunain na'u bugail. Y rhinwedd yma sy'n gwneud treialon cŵn defaid yn gymaint o bleser" 

Trotian - rasio ceffylau mewn harnais

mae rasio ceffylau mewn harnais yn boblogaidd yn yr Unol Daleithau, Canada, Awstralia ac yn Ewrop - yn bennaf yn Ffrainc, Sgandinafia a Chymru.  mae gan Geredigion draddodiad hir o rasio a bridio ceffylau, a gallwch brofi'r cystadlu brwd ar draciau glaswelltog yn ystod y gwanwyn a'r haf.  Ar drot mae'r ceffylau'n rasio, nid ar garlam, ond serch hynny maent yn gyflym iawn a'r rasio'n gyffrous, gyda tipyn o arian betio'n cael ei gyfnewid.  Mae dau fath o symudiad gan y ceffylau: mae'r trotwyr yn symyd eu coesau mewn parau cyferbynol (coes dde flaen gyda coes ôl chwith gyda'i gilydd, yna'r goes chwith flaen a'r goes ôl dde) tra bod y 'pacers'  yn symud eu coesau'n ystlysol   (coes flaen dde a choes dde yn symud gyda'i gilydd, yna'r goes flaen chwith a'r goes ôl chwith gyda'i gilydd). Gallwch weld y ddau fath yn rasus Ceredigion.  Eistedda'r gyrrwr' ar 'sulky' ddwy olwyn ysgafn tu ôl i'r ceffyl. 

Tregaron yw canolfan trotian Ceredigion, gyda nifer o fridwyr a hyfforddwyr yn yr ardal hefyd.  Cynhelir gwyl drotian ar gaeau fferm Maesllyn ger Tregaron dros dridau ym mis Awst - un sy'n cynnig rhai o'r gwobrau mwyaf mewn gornest o'i math ym Mhrydain, ac mae rasus yn cael eu cynnal ym mis Mai hefyd.  Cynhelir diwrnod mawr o rasio ar fferm Pentre yn Cellan ar ddechrau Medi hefyd.   

Mae rasus yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn Nhalgarreg, Synod Inn ger Cei Newydd a Thalsarn yn Nyffryn Aeron.